Mae’r broses ymgeisio ar gyfer rhaglen hyfforddi Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 2024/25 bellach wedi cau. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am raglen 2025/26, neu os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â ni timcwricwlwm@gyrfacymru.llyw.cymru
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymhwyser achrededig Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i gynorthwyo ymarferwyr i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.
Mae’r cwricwlwm i Gymru yn cyflwyno nifer o newidiadau, gan gynnwys rhoi Addysg Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) fel thema drawsgwricwlaidd. Mae angen i leoliadau ystyried y canllawiau statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sicrhau bod gweithwyr addysg proffesiynol yn gallu gwireddu ac ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.
Mae'r Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru i ddarparu'r hyfforddiant i gefnogi gyda chynllunio, dylunio ac arwain gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i ardystio gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Mae’r dystysgrif mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn cefnogi ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth sy’n cynnwys:
- Addysgeg – cynllunio rhaglen addysg yrfaoedd sy’n cefnogi pob dysgwr i gyflawni ei ganlyniadau gorau
- Arweinyddiaeth – mae’r arweinydd gyrfaoedd yn grymuso cydweithwyr i datblygu gweledigaeth cyfrannol ar gyfer gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru
- Dysgu Proffesiynol – datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn tanategu ddatblygiad addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
- Arloesi – sicrhau bod addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cael yr effaith fwyaf a gall fod yn flaengar
- Cydweithio – gall gweithwyr proffesiynol gweithio’n agos gydag ymarferwyr eraill, yn eu hysgolion eu hunain ac mewn ysgolion eraill, i ddatblygu gwybodaeth ac arferion gorau
Sut y cyflawnir y cymhwyster?
Cyflwynir y cymhwyster yn ddigidol dros dri diwrnod a hanner, wedi'i wasgaru ar draws y flwyddyn academaidd. Yn ogystal, ceir cyflwyniad awr o hyd (wedi'i gyflwyno'n ddigidol). Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Lefel 6 canlynol:
- Arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfaoedd mewn sefydliad
- Gwella gwaith datblygu gyrfaoedd mewn yn barhaus mewn sefydliad
- Cynllunio a dylunio rhaglenni dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer athrawon sydd â chyfrifoldeb am gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau gynhelir gan awdurdodau lleol ledled Cymru.
Gweler manylion pellach y tair uned o’r Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygiad Gyrfa Lefel 6 gan y corff dyfarnu Oxford Cambridge and RSA (OCR). (Dolen Saesneg)
Adborth gan garfanau blaenorol
Gwrandewch ar rai o’r carfanau blaenorol yn siarad am eu profiadau o’r rhaglen Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn y ffilm fer hon ar Hwb.
Mae’r cwrs wedi rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau gyrfaoedd arbenigol angenrheidiol i mi ddatblygu cwricwlwm gyrfaoedd cynhwysfawr a deniadol yn fy ysgol. Mae’r wybodaeth a’r arweiniad a ddarperir drwy gydol y cwrs wedi galluogi ein hysgol i lunio gweledigaeth glir ar gyfer datblygu addysg gyrfaoedd ar draws pob ystod oedran a gallu. Rhoddodd y mewnwelediad gwerthfawr i’r cysylltiadau rhwng y Cwricwlwm i Gymru ac addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith a drafodwyd ac a archwiliwyd ar y cwrs yr hyder i mi gyflwyno gwybodaeth yn hyderus i’r UDA a’r athrawon dosbarth.'
Jeff Powell, Ysgol Bryn Elian
Roedd astudio ar gyfer y Dystysgrif Arweinyddiaeth Gyrfa Lefel 6 wedi rhoi cipolwg newydd i ni ar sut y gellir defnyddio addysg gyrfaoedd i herio ac arwain dysgwyr. Pan fyddwn yn ystyried agwedd gyfannol y Cwricwlwm i Gymru, a’r ffocws ar baratoi unigolion ar gyfer dysgu gydol oes, mae’r cwrs hwn wedi bod yn allweddol wrth ddarparu arweiniad ar sut i ddatblygu rhaglen gyrfaoedd gydlynol sy’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu adnabod y sgiliau y byddant yn eu hangen yn llwybrau’r dyfodol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd iddynt wella’r sgiliau hyn.’
Kate Loram, Ysgol Cas-gwent
O safbwynt anghenion addysgol arbennig, mae'r dystysgrif arweinyddiaeth Gyrfa wedi fy ngalluogi i ailfeddwl am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sut mae'n cael ei gyflwyno yn ein lleoliad. Mae wedi fy annog i feddwl y tu allan i'r bocs a chyflwyno'r thema drawsbynciol trwy dasgau cyfoethog effeithiol yn seiliedig ar ddysgwyr unigol a'u dymuniadau, eu hanghenion a'u dyheadau. Mae datblygu model y gellir ei addasu ar gyfer pob athro a disgybl wedi golygu bod modd addysgu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o 3-19 oed.'
Ceryn Thomas, Ysgol Greenfield School