Archwilio'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.

Yma fe gewch fynediad at weithgareddau ar gyfer dysgwyr blwyddyn 8 a 9. Mae heriau yn cael eu gosod gan gyflogwyr ac yn gysylltiedig â Meysydd dysgu.

Amrywiaeth o bosteri i ddysgu am yrfaoedd a sgiliau sy'n gysylltiedig â gwahanol bynciau.

Dysgwch am yr adnodd digidol hwn sy'n cynnwys fideos ysbrydoledig cyflogwyr a thasgau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru a sut i gael mynediad ato.

Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.

Offeryn hyfforddiant cyflogadwyedd ar-lein, rhyngweithiol i'ch helpu i fagu hyder a sgiliau i wneud y dewisiadau gyrfa cywir.
Adnoddau ychwanegol
Mae rhagor o adnoddau ar gael ar Hwb, sy’n cynnwys:
- Ein Banc Syniadau Mentrus i ysbrydoli, cefnogi ac annog addysg entrepreneuriaeth gyda dysgwyr iau
- Ein Cyfeirlyfr Adnoddau sy’n cynnwys dolenni cyswllt i sefydliadau ac adnoddau a all gefnogi addysg gyrfaoedd yn eich lleoliad chi
- Dysgu entrepreneuraidd: adnodd thematig - canllaw i athrawon ar sut i ddod â dysgu entrepreneuraidd i’r ystafell ddosbarth
- Ein Taith Fenter - adnodd sy'n plotio camau proses fenter. Mae'n cefnogi cyflwyno profiadau entrepreneuraidd a myfyrio ar sgiliau a llwyddiannau
- Y Pecyn Cymorth Menter ac Entrepreneuriaeth - mentrau ac adnoddau i helpu athrawon i gefnogi dysgwyr i ddod yn Gyfranwyr Mentrus Creadigol
Canllaw ymarferol ar ddechrau busnes i bobl ifanc 12 i 16 oed
Mae gan ein llyfryn, ‘Felly, rydych chi am fod yn entrepreneur?’ (Syniadau Mawr Cymru), wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl ifanc 12 i 16 oed i archwilio pob agwedd ar sefydlu eu busnes eu hunain.
Mae gennym hefyd ganllaw i helpu athrawon, rhieni a gofalwyr (Syniadau Mawr Cymru) i gefnogi person ifanc sydd am ddechrau busnes.