Diddordeb mewn gemau cyfrifiadurol? Dysgwch am y sgiliau sydd eu hangen arnoch, a'r cyfleoedd gyrfa mewn e-chwaraeon.
Gemau fideo cystadleuol yw e-chwaraeon (chwaraeon electronig). Mae gan e-chwaraeon chwaraewyr proffesiynol, dyfarnwyr (a elwir hefyd yn weinyddwyr) ac asiantau fel unrhyw gamp. Ond mae llawer o gyfleoedd eraill ar gyfer gyrfaoedd a gwirfoddoli hefyd.
Mae mwyafrif y bobl yn dechrau drwy ymuno â chymuned ar-lein ar gyfer gêm fideo. O'r fan honno cewch wybod am gystadlaethau, cynghreiriau a thwrnameintiau.
Y sgiliau rydych yn eu hennill drwy gymryd rhan mewn e-chwaraeon
Drwy gymryd rhan mewn e-chwaraeon byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr a all drosglwyddo i lawer o wahanol swyddi. Gallwch ychwanegu eich sgiliau e-chwaraeon neu eich sgiliau chwarae gemau fideo a'ch profiad ar eich CV a'ch ffurflenni cais. Gallwch siarad am y sgiliau rydych wedi'u hennill drwy e-chwaraeon a chwarae gemau fideo mewn cyfweliadau swydd.
Dyma rhai o'r sgiliau rydych chi'n eu hennill o e-chwaraeon:
- Gwaith tîm
- Cyfathrebu
- Datrys problemau
- Gwneud Penderfyniadau
- Sgiliau TG
- Sgiliau arwain
- Gallu meddwl ac ymateb yn gyflym
- Yn gallu arsylwi, dysgu gwybodaeth newydd, craffu, dod o hyd i batrymau, a chymhwyso'r hyn rydych chi'n ei wybod - sgiliau dadansoddol
- Dyfalbarhad a hunanddisgyblaeth i ymarfer a gwella
- Dysgu bownsio'n ôl o fethiant - gwydnwch
- Defnyddio'ch dwylo'n fedrus - deheurwydd â llaw
- Asesu sefyllfa'n glir a gallu meddwl a chynllunio ymlaen - meddwl yn strategol
- Aml-dasgio
Cyfleoedd gyrfa e-chwaraeon
Mae e-chwaraeon yn tyfu'n gyflym ledled y byd ac yn y DU. Tyfodd y sector e-chwaraeon yn y DU o 8.5% rhwng 2016 a 2019. (Ffynhonnell - dolen Saesneg: UKIE). Nid chwaraewyr proffesiynol yn unig sy'n gallu cael gyrfa yn y diwydiant e-chwaraeon.
Isod mae rhai o'r rolau gyrfa sydd ar gael mewn e-chwaraeon:
Technoleg Gwybodaeth
Mae gyrfaoedd TG mewn e-chwaraeon yn cynnwys:
Busnes
Mae rolau busnes mewn e-chwaraeon yn cynnwys:
Marchnata
Mae gyrfaoedd marchnata mewn e-chwaraeon yn cynnwys:
Y cyfryngau a chreadigol
Mae gyrfaoedd yn y cyfryngau mewn e-chwaraeon yn cynnwys:
Minecraft: Education Edition
Athrawon a disgyblion, dysgwch am gystadlaethau e-chwaraeon yn Minecraft: Education Edition
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.
Dolenni defnyddiol
(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig.)
Esports Wales - Cyngor a Gwybodaeth gan gynnwys dolenni i leoliadau chwarae gemau fideo yng Nghymru
Hwb - Gwybodaeth am Academi E-chwaraeon Minecraft Cymru ac yn paratoi i fod yn rhan o Gynghrair Minecraft E-chwaraeon Cymru
British Esports Association - Cyngor a gwybodaeth
Hitmarker - Safle swyddi chwarae gemau fideo ac e-chwaraeon