Bydd gennych well siawns o gael swydd os byddwch yn paru’ch sgiliau a'ch cryfderau i'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
Nodwch unrhyw sgiliau nad ydych cystal am wneud. Bydd hyn yn eich helpu i nodi meysydd i'w datblygu, yn enwedig os oes angen y sgil hwnnw ar swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw.
Sgiliau a chryfderau
Edrychwch ar yr 13 sgil y mae cyflogwyr eu heisiau.
Ffynhonnell: LightcastTM, sgiliau a gymerwyd o hysbysebion swyddi rhwng Mehefin 2023 - Mai 2024
1. Sgiliau cyfathrebu
Sgiliau cyfathrebu yw'r hyn rydych chi’n dweud, ond maent hefyd yn cynnwys iaith eich corff a thôn eich llais. Mae bod yn dda am gyfathrebu yn cynnwys bod yn wrandäwr da, gallu egluro pethau'n glir, a gallu gofyn y cwestiynau cywir. Cyfathrebu yw sut rydych chi'n rhyngweithio â phobl eraill. Mae angen i chi allu cyfathrebu trwy siarad a hefyd yn ysgrifenedig.
2. Rheoli
Mae sgiliau rheoli yn gyfuniad o sgiliau gan gynnwys datrys problemau, y gallu i wneud penderfyniadau, bod yn gyfathrebydd da, gallu dirprwyo tasgau i eraill, rheoli amser, trefnu, a’r gallu i ysgogi eraill. Mae rheolyddion fel arfer yn goruchwylio tîm o bobl. Fodd bynnag, gall sgiliau rheoli hefyd olygu rheoli prosiect, neu reoli eich llwyth gwaith eich hun.
3. Gwasanaeth cwsmeriaid
Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn ymwneud â sut rydyn ni'n trin pobl eraill rydyn ni'n cwrdd â nhw yn ein gweithle. Mae rhoi gwasanaeth cwsmeriaid da yn golygu bod yn gwrtais, trin eraill â pharch, a gwneud ein gorau i roi gwasanaeth da. Gallai hyn olygu gwasanaethu cwsmeriaid mewn siop, ond gallai hefyd olygu ateb e-byst, rhoi esboniadau, neu drin nwyddau yn ofalus fel nad ydynt yn torri.
4. Gwerthiant
Mae sgiliau gwerthu yn aml yn benodol i rai swyddi. Ond mae sgiliau gwerthu yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Mae sgiliau gwerthu yn cynnwys y gallu i ddylanwadu ar eraill i brynu gwasanaeth neu gynnyrch, neu i weithredu.
5. Talu sylw i fanylion (yn seiliedig ar fanylion)
Mae talu sylw i fanylion yn golygu y dylai eich gwaith fod yn gywir, heb wallau na chamgymeriadau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi p'un ai ydych yn teipio dogfen neu'n mesur a thorri pren ar safle adeiladu.
6. Addysgu
Mae addysgu yn golygu'r gallu i esbonio a chyfarwyddo pobl eraill fel eu bod yn dysgu tasg, cysyniad, neu sgil. Mae addysgu yn llawer mwy na sefyll o flaen y dosbarth. Efallai ei fod yn esbonio sut i wneud eich swydd i weithiwr newydd. Mae sgiliau addysgu hefyd yn golygu gallu cyfathrebu gwybodaeth newydd mewn ffordd glir a syml. Mae'n cynnwys mentora a helpu eraill i ddysgu.
5. Iaith Saesneg
Mae llawer o swyddi yn gofyn am sgiliau iaith Saesneg fel hanfodol neu ddymunol. Gall hyn olygu gallu cyfathrebu'n dda â'ch cydweithwyr neu gwsmeriaid yn Saesneg neu allu ysgrifennu'n glir ac yn gywir yn Saesneg.
7. Cynllunio
Cynllunio yw'r gallu i feddwl ymlaen llaw a gwneud penderfyniadau am y camau y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol. Pan fyddwch chi'n cynllunio, rydych chi'n gosod nodau, ac yn blaenoriaethu pa dasg y byddwch chi'n ei gwneud yn gyntaf, yna'n ail, yna nesaf. Gall cynllunio olygu sut rydych chi’n mynd i wneud tasg neu weithgaredd. Gallai cynllunio hefyd olygu sut rydych chi'n mynd i ddefnyddio amser ac arian yn y dyfodol.
9. Arwain
Gall arweinydd da ddylanwadu, ysgogi ac arwain eraill. Pan fydd gennych sgiliau arwain gallwch ysgogi ac arwain eraill tuag at gyflawni nod. Nid yw sgiliau arwain ar gyfer rheolyddion yn unig. Er enghraifft, gall hyfforddydd chwaraeon fod yn arweinydd.
10. Y Gymraeg
Mae rhai swyddi a hysbysebir yng Nghymru yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol. Gall sgiliau Cymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi mewn diwydiannau gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Dysgwch fwy am fanteision dysgu Cymraeg.
11. Gweithrediadau
Gweithrediadau yw'r gallu i gadw busnes i redeg yn esmwyth. Er enghraifft, efallai eich bod yn gwirio bod gennych ddigon o staff, ac yn trefnu rotâu. Neu, efallai eich bod yn sicrhau bod gan y busnes yr holl gyflenwadau sydd eu hangen arno i gyflawni ei weithgareddau.
12. Datrys problemau
Mae gallu datrys problem yn sgil werthfawr y gofynnir amdani mewn llawer o ddiwydiannau a swyddi. Mae'n golygu eich bod yn gallu gweithio allan beth sy'n achosi problem mewn proses neu weithgaredd a dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y broblem honno.
13. Hunan-gymhelliant
Pan fyddwch chi'n hunan-gymhellol mae'n golygu eich bod chi'n cael eich ysgogi i wneud neu gyflawni rhywbeth heb fod angen i neb ddweud wrthych chi i'w wneud. Mae cyflogwyr yn hoffi pobl sy'n llawn cymhelliant oherwydd gallant ymddiried ynoch chi i weithio'n galed heb fod angen llawer o oruchwyliaeth.
Sgiliau eraill y mae cyflogwyr eu heisiau
Mae sgiliau eraill y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi yn cynnwys:
- Brwdfrydedd
- Sgiliau trefnu
- Gwaith tîm
- Ymchwilio
- Arloesi (meddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau)
- Rheoli amser
Sgiliau digidol
Mae’r rhan fwyaf o swyddi’n cynnwys defnyddio rhywfaint o sgiliau Technoleg Gwybodath a digidol. Mae’r sgiliau digidol y gallai fod eu hangen arnoch chi yn y gwaith yn cynnwys:
- Defnyddio cyfrifiadur neu ffôn symudol
- Pori’r we
- Ysgrifennu ac anfon negeseuon e-bost neu negeseuon gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
- Mynychu cyfarfodydd ar-lein
- Defnyddio rhaglenni meddalwedd sy’n benodol i’r swydd
Mae’r galw am sgiliau digidol ar gynnydd. Mae technolegau newydd yn creu swyddi digidol newydd, er enghraifft, argraffydd 3D a pheiriannydd rhithiol.
Sgiliau swydd-benodol
Mae gan lawer o swyddi sgiliau sy'n benodol i'r swydd honno. Ewch i Gwybodaeth am Swyddi a theipiwch deitl swydd i ddysgu am sgiliau penodol i swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mwy am sgiliau a chryfderau
Dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddatblygu eich sgiliau a'ch cryfderau.
Ydych chi'n meddwl tybed 'pa sgiliau sydd gen i?' neu 'beth yw fy nghryfderau?' Yma few gewch gyngor i'ch helpu i wybod mwy.
Darganfod pa sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt yn y gwahanol ddiwydiannau a rhanbarthau o Gymru.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Gwyliwch y fideo
Dewch i wybod rhai o'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.