Gall sgyrsiau rheolaidd gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a phenderfyniadau gyrfa.
Mae sgyrsiau teuluol yn creu dealltwriaeth gyffredin o syniadau a chyfeiriad gyrfa eich plentyn. Maent yn rhan bwysig o archwilio, myfyrio a gwneud dewisiadau. Bydd eich plentyn yn fwy parod i wneud penderfyniadau gyrfa.
Defnyddiwch syniadau gyrfa eich plentyn fel man cychwyn
Awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau cadarnhaol
Gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau o ran siarad am y dyfodol. Dyma rai awgrymiadau i helpu gwneud sgyrsiau yn haws ac yn fwy defnyddiol.
Yr amser cywir a'r lle cywir
Mae'n bwysig bod y ddau ohonoch chi yn yr hwyliau cywir i sgwrsio. Dilynwch eu harweiniad nhw. Os nad ydynt yn canolbwyntio ac os nad ydynt am ymgysylltu, awgrymwch sgwrsio rhywbryd eto.
Efallai y bydd sgwrsio tra’n gwneud rhywbeth arall, er enghraifft bwyta cinio, mynd am dro, golchi llestri neu fynd ar daith yn teimlo'n fwy hamddenol.
Sgwrsiwch yn rheolaidd a'i gadw'n ysgafn
Mae sgyrsiau cynnar ac aml yn rhoi amser i fyfyrio ac yn helpu i adeiladu syniadau gyrfa.
Os byddwch chi'n dechrau siarad am syniadau pwnc a gyrfa cyn bod unrhyw bwysau i wneud penderfyniad bydd eich plentyn wedi'i baratoi'n well. Bydd ganddynt y geiriau a'r syniadau sydd eu hangen arnynt i archwilio eu hopsiynau'n well.
Dechreuwch gyda rhywbeth sy'n eu hysbrydoli a gwrandewch
Dysgwch am ddyheadau eich plentyn. Peidiwch â chael eich temtio i geisio arwain y sgwrs i gyfeiriad penodol.
Gwrandewch yn astud ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Rhowch eich sylw iddyn nhw. Peidiwch â thorri ar draws na dechrau cynllunio beth i'w ddweud nesaf. Cadwch feddwl agored ac agwedd bositif.
Cwestiynau ac atebion
Ceisiwch osgoi atebion 'ie' a 'na'. Ceisiwch ddechrau cwestiynau gyda 'sut', 'pam' neu 'beth os' i agor y sgwrs.
Peidiwch â phoeni am wybod neu ddod o hyd i atebion yn syth. Mae'n ddefnyddiol archwilio opsiynau yn unig. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw beth sydd angen rhywfaint o ymchwil, gwnewch nodyn.
Nid sgwrs yn ymwneud â chi yn holi’ch plentyn yw hwn. Beth am ofyn iddyn nhw i ofyn y cwestiynau i chi?
Defnyddiwch ein hoffer gyda'ch gilydd
Dod o hyd i’w math o bersonoliaeth
Mae’r Cwis Buzz yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau. Trwy ddewis cyfres o ddatganiadau, dewis o 2 bob tro, gall eich plentyn ddysgu mwy am ei gryfderau a'i bersonoliaeth.
Bydd y canlyniad hefyd yn awgrymu rhai swyddi sy'n gweddu i’w personoliaeth.
Gallech chi'ch dau wneud y cwis a chymharu eich canlyniadau.
Mae’r cwis Pwy ydw i? yn seiliedig ar y Cwis Buzz. Mae yna lai o ddatganiadau ac mae’n nhw’n fwy syml. Bydd y canlyniadau'n rhoi gwybodaeth am gryfderau eich plentyn a pha swyddi allai fod yn gweddu iddyn nhw.
Siaradwch am yrfaoedd tra'n chwarae gemau
Mae CrefftGyrfaoedd ar gael ar Farchnad Minecraft.
Os yw'ch plentyn yn chwarae Minecraft, gallech archwilio'r amgylchedd hwn gyda'ch gilydd. Bydd llawer o awgrymiadau i sgwrsio am y byd gwaith yn ystod pob un o’r gweithgareddau sydd wedi’u gosod mewn tirnodau ledled Cymru.
Archwiliwch swyddi sy'n gysylltiedig â'u hoff bynciau
Bydd gan eich plentyn rai pynciau y mae'n eu mwynhau’n fwy nag eraill. Defnyddiwch Pynciau a Swyddi i ddod o hyd i swyddi sy'n gysylltiedig â'r rhai mae nhw'n eu hoffi orau.
Mae gan bob pwnc amrywiaeth o deitlau swyddi cysylltiedig i'w harchwilio. Mae pob teitl swydd yn cysylltu â gwybodaeth fanwl am y rôl honno.
Chwiliwch am swyddi sy'n cyfateb â'u sgiliau a'u diddordebau
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Mae’n gyfle i ateb cyfres o gwestiynau i gael rhestr o syniadau gyrfa personol sy'n cyfateb i ddiddordebau a sgiliau.
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cynnwys adran lle gall eich plentyn raddio ei sgiliau. Bydd wedyn yn rhoi syniadau am y sgiliau sydd angen iddyn nhw weithio arnynt.
Anogwch eich plentyn i roi cynnig ar y gweithgaredd hwn, yn enwedig os nad oes ganddynt lawer o syniadau gyrfa.
Cyfle i gael gwybodaeth fanwl am swyddi
P'un ai ydych chi'n defnyddio syniadau gyrfa eich plentyn, neu awgrym swydd a gynhyrchir gan un o'n hoffer, y cam nesaf yw dysgu mwy. Edrychwch gyda'ch gilydd ar sut i gael swydd. Dysgwch pa gymwysterau, sgiliau a rhinweddau y bydd eu hangen ar eich plentyn a'r galw disgwyliedig yn y dyfodol.
Mae gan Gwybodaeth am Swyddi fanylion am dros 700 o swyddi.
Mae Sôn am Swyddi yn seiliedig ar Wybodaeth am Swyddi. Mae'n rhoi manylion am 32 o swyddi gwahanol mewn fformat fwy syml.
Archwiliwch yr wybodaeth am swyddi gyda'ch gilydd. Meddyliwch am:
- Beth am y swydd oedd wedi’ch synnu chi neu nhw?
- Pa bethau sy'n eu diddori neu'n eu cyffroi yn y wybodaeth?
- Pa agweddau ar y swydd sy'n apelio llai atyn nhw?
- Sut mae nhw'n teimlo am y rôl honno nawr eu bod nhw wedi gwneud eu hymchwil?
Os ydyn nhw'n meddwl y gallai hyn fod yn swydd addas iddyn nhw:
- Pa gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i ddysgu mwy?
- Pa help y gallai fod ei angen arnynt i gyrraedd eu nodau?
Os ydyn nhw wedi darllen rhywbeth sy'n gwneud iddyn nhw feddwl nad yw’r swydd hyn yn addas ar eu cyfer nhw:
- Gofynnwch iddyn nhw pam?
- Pa swyddi cysylltiedig a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw?
- Trafodwch syniadau swyddi eraill y gallai'ch plentyn eu hystyried
Archwiliwch Swyddi Dyfodol Cymru
Gallwch ddefnyddio Swyddi Dyfodol Cymru gyda’ch plentyn i ddysgu mwy am rai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.
Gallwch hefyd archwilio gwybodaeth ranbarthol gan hidlo yn ôl eich awdurdod lleol. Mae gwybodaeth am swyddi a sgiliau ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru yn cynnwys manylion am y swyddi y mae galw amdanynt, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a diwydiannau a fydd yn tyfu neu'n datblygu yn y dyfodol.
Gyda'ch gilydd gallwch ddysgu pa swyddi y gallent eu gwneud nawr ac yn y dyfodol.
Dysgu am ddulliau a sgiliau gwneud penderfyniadau
Gallwch ddysgu mwy am arddull gwneud penderfyniadau eich plentyn a’u helpu i wella eu sgiliau trwy eu hannog i chwarae ein gemau gwneud penderfyniadau.
Ystyried hunangyflogaeth
Mae gan ein llyfryn, ‘Felly, rydych chi am fod yn entrepreneur?’ (Syniadau Mawr Cymru), wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl ifanc 12 i 16 oed i archwilio pob agwedd ar sefydlu eu busnes eu hunain.
Mae gennym hefyd ganllaw i helpu rhieni a gofalwyr (Syniadau Mawr Cymru) i gefnogi person ifanc sydd am ddechrau busnes.
Rydym yma i helpu
Mae siarad am y dyfodol yn gallu bod yn anodd. Gallai cael rhywun gwahanol a diduedd i siarad â nhw wneud sgwrs gyrfaoedd yn haws.
Mae ein cynghorwyr ar gael i siarad â chi a'ch plentyn. Gallant archwilio syniadau a nodi camau gweithredu ar gyfer camau nesaf eich plentyn. Cysylltwch â ni os hoffech chi ein help.