Gall sgyrsiau rheolaidd gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a phenderfyniadau gyrfa.
Mae sgyrsiau teuluol yn creu dealltwriaeth gyffredin o syniadau a chyfeiriad gyrfa eich plentyn. Maent yn rhan bwysig o archwilio, myfyrio a gwneud dewisiadau. Bydd eich plentyn yn fwy parod i wneud penderfyniadau gyrfa.
Defnyddiwch syniadau gyrfa eich plentyn fel man cychwyn
Does gan fy mhlentyn ddim syniadau gyrfa
Nid yw'n anarferol i bobl ifanc fod heb unrhyw syniadau am y swydd yr hoffent ei gwneud.
Beth i ganolbwyntio arno
Mae'n dda dechrau gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Trafodwch beth mae nhw'n ei hoffi a a beth dydyn nhw ddim yn ei hoffi. Yna gallwch archwilio’r hyn sy'n eu cymell.
Dechrau sgwrs
Dewiswch y cwestiwn rydych chi'n ei hoffi orau i weld i ba gyfeiriad eiff y sgwrs. Does dim rhaid i chi ofyn pob cwestiwn na'u defnyddio nhw yn y drefn isod.
Cwestiynau y gallech eu gofyn i ddechrau sgwrs:
- Pa fath o bethau wyt ti’n caru gwneud?
- Pa bwnc wyt ti’n ei fwynhau orau?
- Beth wyt ti’n ei hoffi am dy hoff bwnc?
- Pa wers wyt ti wedi ei mwynhau orau? Pam oeddet ti'n ei hoffi gymaint?
- Pa brosiect wyt ti wedi bod yn fwyaf cyffrous i wneud yn yr ysgol?
- Sut wyt ti'n teimlo am weithio mewn grŵp?
- Pa wersi neu bynciau wyt ti ddim yn eu mwynhau? Pam wyt ti ddim yn eu hoffi nhw?
- Pan ti'n meddwl am y dyfodol, beth sy'n bwysig i ti?
- Meddylia am rywun wyt ti'n ei adnabod, a’u swydd nhw. Beth wyt ti’n meddwl mae nhw’n gwneud yn eu swydd? Wyt ti'n meddwl yr hoffet wneud swydd debyg? Pam? Pam ddim?
Offer i roi cynnig arnynt
Cwis personoliaeth yw Cwis Buzz i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gennych a pha swyddi allai fod yn gweddu i chi. Bydd Cwis Buzz yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau.
Mae’r Cwis Pwy Ydw i? yn seiliedig ar broffil personoliaeth y Cwis Buzz ond mae'n fwy syml. Bydd yn rhoi syniadau i'ch plentyn am y mathau o swyddi a allai fod yn gweddu iddyn nhw.
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn gofyn cwestiynau ac yn cynhyrchu rhestr o swyddi a gyrfaoedd sy'n cyfateb i sgiliau a diddordebau eich plentyn. Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Mae yno adran sgiliau hefyd lle gall eich plentyn raddio ei sgiliau.
Mae gan fy mhlentyn rai syniadau gyrfa
Mae cael rhai syniadau yn fan cychwyn da.
Beth i ganolbwyntio arno
Archwiliwch pam mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y syniadau sydd ganddyn nhw. Ai diwydiant, rôl, math o waith neu weithle sy'n eu hysbrydoli nhw?
Bydd cael mwy o wybodaeth am swydd yn eu helpu nhw i benderfynu a yw'n rhywbeth y maent am ei wneud. Gallant ystyried a yw'n opsiwn realistig iddynt, unrhyw rwystrau a allai fodoli a sut y gallant eu goresgyn. Drwy ddysgu mwy, bydd fwy o ddiddordeb gyda nhw, gallan nhw feddwl am y camau nesaf i roi'r cyfle gorau iddyn nhw lwyddo.
Dechrau sgwrs
Dyma gwestiynau y gallech eu gofyn i ddechrau’r sgwrs:
- Beth hoffet ti ei wneud neu ei astudio nesaf?
- Ble wyt ti’n gobeithio y gallai hynny arwain?
- Pa swyddi neu feysydd wyt ti’n meddwl yr hoffet weithio ynddyn nhw?
- Beth wyt ti’n ei wybod am y swyddi hynny a ble ddes ti o hyd i'r wybodaeth honno?
- Beth fyddai angen i ti wybod am swydd i benderfynu os oes gennyt ddiddordeb yn y swydd honno?
Anogwch eich plentyn i feddwl am:
- Y galw yn y dyfodol am y swyddi y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt
- Y gystadleuaeth i gael swydd y mae nhw'n meddwl y bydden nhw'n hoffi
- Lleoliad – ble mae'r cyfleoedd hynny? A fyddai angen symud neu deithio?
- Cyflog
- Patrwm gwaith - sut fyddai'ch plentyn yn teimlo am weithio gyda'r nos neu ar benwythnosau?
- Cymwysterau, sgiliau, a llwybrau i mewn i rôl - ydy'r rhain yn ymddangos yn realistig?
Offer i roi cynnig arni
Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi i gael mwy o wybodaeth am unrhyw swyddi y mae'ch plentyn yn eu hystyried. Cewch wybodaeth am:
- Sut i gael y swydd honno
- Y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen
- Pynciau perthnasol
- Swyddi cysylltiedig i’w harchwilio
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Bydd yn cynnig rhestr o syniadau gyrfa sy'n gysylltiedig â sgiliau a diddordebau'ch plentyn. Dewch o hyd i syniadau gyrfa eich plentyn ar y rhestr. Oes yna rai eraill efallai nad ydyn nhw'n gyfarwydd â nhw yna gallwch chi'ch dau ddysgu mwy amdanyn nhw?
Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rhai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth sgiliau yn ôl rhanbarth ac awdurdod lleol. Dysgwch pa swyddi sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol.
Mae gan fy mhlentyn syniadau gyrfa clir
Os oes gan eich plentyn syniadau clir am yr yrfa yr hoffai ddilyn, dyma ambell syniad i'w helpu i gyflawni eu huchelgais.
Beth i ganolbwyntio arno
Y camau nesaf a'r gofynion mynediad. Oes gyda nhw'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen? Ydynt yn debygol o fodloni unrhyw ofynion mynediad?
Dechrau sgwrs
Dyma gwestiynau y gallech ofyn i ddechrau sgwrs:
- Beth sy'n dy wneud yn gyffrous am yr yrfa hon?
- Wyt ti'n adnabod unrhyw un sy'n gwneud y swydd hon er mwyn i ti gael sgwrs gyda nhw am fwy o wybodaeth?
- Oes unrhyw beth a fyddai'n dy rwystro rhag cael y swydd fyddet ti’n dymuno’i chael? Beth?
- Ydy'r cyfleoedd yn lleol? Os na, ble mae nhw? Fyddet ti’n hapus i symud?
- Os nad yw pethau'n mynd yn ôl y bwriad, wyt ti wedi meddwl am unrhyw ddewisiadau eraill?
Offer i roi cynnig arni
Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi am wybodaeth fanwl am y swyddi mae'ch plentyn yn eu hystyried. Gallant ddod o hyd i’r:
- Cyflog a’r oriau gwaith
- Y cymwysterau, y sgiliau, a’r rhinweddau sydd eu hangen
- Y galw yn y dyfodol
- Cysylltiadau â ffynonellau gwybodaeth eraill ar gyfer y swydd neu'r diwydiant
- Gwefannau swyddi perthnasol
Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rhai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth sgiliau yn ôl rhanbarth ac awdurdod lleol. Dysgwch pa swyddi sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol.
Defnyddiwch wefannau swyddi i archwilio swyddi sy'n cael eu hysbysebu nawr. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ddod o hyd i’r cyflog presennol, y galw, a lleoliad y cyfleoedd. Gall ddangos y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Gall hyn helpu i adnabod meysydd datblygu os oes unrhyw fylchau.
Awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau cadarnhaol
Gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau o ran siarad am y dyfodol. Dyma rai awgrymiadau i helpu gwneud sgyrsiau yn haws ac yn fwy defnyddiol.
Yr amser cywir a'r lle cywir
Mae'n bwysig bod y ddau ohonoch chi yn yr hwyliau cywir i sgwrsio. Dilynwch eu harweiniad nhw. Os nad ydynt yn canolbwyntio ac os nad ydynt am ymgysylltu, awgrymwch sgwrsio rhywbryd eto.
Efallai y bydd sgwrsio tra’n gwneud rhywbeth arall, er enghraifft bwyta cinio, mynd am dro, golchi llestri neu fynd ar daith yn teimlo'n fwy hamddenol.
Sgwrsiwch yn rheolaidd a'i gadw'n ysgafn
Mae sgyrsiau cynnar ac aml yn rhoi amser i fyfyrio ac yn helpu i adeiladu syniadau gyrfa.
Os byddwch chi'n dechrau siarad am syniadau pwnc a gyrfa cyn bod unrhyw bwysau i wneud penderfyniad bydd eich plentyn wedi'i baratoi'n well. Bydd ganddynt y geiriau a'r syniadau sydd eu hangen arnynt i archwilio eu hopsiynau'n well.
Dechreuwch gyda rhywbeth sy'n eu hysbrydoli a gwrandewch
Dysgwch am ddyheadau eich plentyn. Peidiwch â chael eich temtio i geisio arwain y sgwrs i gyfeiriad penodol.
Gwrandewch yn astud ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Rhowch eich sylw iddyn nhw. Peidiwch â thorri ar draws na dechrau cynllunio beth i'w ddweud nesaf. Cadwch feddwl agored ac agwedd bositif.
Cwestiynau ac atebion
Ceisiwch osgoi atebion 'ie' a 'na'. Ceisiwch ddechrau cwestiynau gyda 'sut', 'pam' neu 'beth os' i agor y sgwrs.
Peidiwch â phoeni am wybod neu ddod o hyd i atebion yn syth. Mae'n ddefnyddiol archwilio opsiynau yn unig. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw beth sydd angen rhywfaint o ymchwil, gwnewch nodyn.
Nid sgwrs yn ymwneud â chi yn holi’ch plentyn yw hwn. Beth am ofyn iddyn nhw i ofyn y cwestiynau i chi?
Defnyddiwch ein hoffer gyda'ch gilydd
Dod o hyd i’w math o bersonoliaeth
Mae’r Cwis Buzz yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau. Trwy ddewis cyfres o ddatganiadau, dewis o 2 bob tro, gall eich plentyn ddysgu mwy am ei gryfderau a'i bersonoliaeth.
Bydd y canlyniad hefyd yn awgrymu rhai swyddi sy'n gweddu i’w personoliaeth.
Gallech chi'ch dau wneud y cwis a chymharu eich canlyniadau.
Mae’r cwis Pwy ydw i? yn seiliedig ar y Cwis Buzz. Mae yna lai o ddatganiadau ac mae’n nhw’n fwy syml. Bydd y canlyniadau'n rhoi gwybodaeth am gryfderau eich plentyn a pha swyddi allai fod yn gweddu iddyn nhw.
Siaradwch am yrfaoedd tra'n chwarae gemau
Mae CrefftGyrfaoedd ar gael ar Farchnad Minecraft.
Os yw'ch plentyn yn chwarae Minecraft, gallech archwilio'r amgylchedd hwn gyda'ch gilydd. Bydd llawer o awgrymiadau i sgwrsio am y byd gwaith yn ystod pob un o’r gweithgareddau sydd wedi’u gosod mewn tirnodau ledled Cymru.
Archwiliwch swyddi sy'n gysylltiedig â'u hoff bynciau
Bydd gan eich plentyn rai pynciau y mae'n eu mwynhau’n fwy nag eraill. Defnyddiwch Pynciau a Swyddi i ddod o hyd i swyddi sy'n gysylltiedig â'r rhai mae nhw'n eu hoffi orau.
Mae gan bob pwnc amrywiaeth o deitlau swyddi cysylltiedig i'w harchwilio. Mae pob teitl swydd yn cysylltu â gwybodaeth fanwl am y rôl honno.
Chwiliwch am swyddi sy'n cyfateb â'u sgiliau a'u diddordebau
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Mae’n gyfle i ateb cyfres o gwestiynau i gael rhestr o syniadau gyrfa personol sy'n cyfateb i ddiddordebau a sgiliau.
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cynnwys adran lle gall eich plentyn raddio ei sgiliau. Bydd wedyn yn rhoi syniadau am y sgiliau sydd angen iddyn nhw weithio arnynt.
Anogwch eich plentyn i roi cynnig ar y gweithgaredd hwn, yn enwedig os nad oes ganddynt lawer o syniadau gyrfa.
Cyfle i gael gwybodaeth fanwl am swyddi
P'un ai ydych chi'n defnyddio syniadau gyrfa eich plentyn, neu awgrym swydd a gynhyrchir gan un o'n hoffer, y cam nesaf yw dysgu mwy. Edrychwch gyda'ch gilydd ar sut i gael swydd. Dysgwch pa gymwysterau, sgiliau a rhinweddau y bydd eu hangen ar eich plentyn a'r galw disgwyliedig yn y dyfodol.
Mae gan Gwybodaeth am Swyddi fanylion am dros 700 o swyddi.
Mae Sôn am Swyddi yn seiliedig ar Wybodaeth am Swyddi. Mae'n rhoi manylion am 32 o swyddi gwahanol mewn fformat fwy syml.
Archwiliwch yr wybodaeth am swyddi gyda'ch gilydd. Meddyliwch am:
- Beth am y swydd oedd wedi’ch synnu chi neu nhw?
- Pa bethau sy'n eu diddori neu'n eu cyffroi yn y wybodaeth?
- Pa agweddau ar y swydd sy'n apelio llai atyn nhw?
- Sut mae nhw'n teimlo am y rôl honno nawr eu bod nhw wedi gwneud eu hymchwil?
Os ydyn nhw'n meddwl y gallai hyn fod yn swydd addas iddyn nhw:
- Pa gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i ddysgu mwy?
- Pa help y gallai fod ei angen arnynt i gyrraedd eu nodau?
Os ydyn nhw wedi darllen rhywbeth sy'n gwneud iddyn nhw feddwl nad yw’r swydd hyn yn addas ar eu cyfer nhw:
- Gofynnwch iddyn nhw pam?
- Pa swyddi cysylltiedig a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw?
- Trafodwch syniadau swyddi eraill y gallai'ch plentyn eu hystyried
Archwiliwch Swyddi Dyfodol Cymru
Gallwch ddefnyddio Swyddi Dyfodol Cymru gyda’ch plentyn i ddysgu mwy am rai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.
Gallwch hefyd archwilio gwybodaeth ranbarthol gan hidlo yn ôl eich awdurdod lleol. Mae gwybodaeth am swyddi a sgiliau ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru yn cynnwys manylion am y swyddi y mae galw amdanynt, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a diwydiannau a fydd yn tyfu neu'n datblygu yn y dyfodol.
Gyda'ch gilydd gallwch ddysgu pa swyddi y gallent eu gwneud nawr ac yn y dyfodol.
Dysgu am ddulliau a sgiliau gwneud penderfyniadau
Gallwch ddysgu mwy am arddull gwneud penderfyniadau eich plentyn a’u helpu i wella eu sgiliau trwy eu hannog i chwarae ein gemau gwneud penderfyniadau.
Ystyried hunangyflogaeth
Mae gan ein llyfryn, ‘Felly, rydych chi am fod yn entrepreneur?’ (Syniadau Mawr Cymru), wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl ifanc 12 i 16 oed i archwilio pob agwedd ar sefydlu eu busnes eu hunain.
Mae gennym hefyd ganllaw i helpu rhieni a gofalwyr (Syniadau Mawr Cymru) i gefnogi person ifanc sydd am ddechrau busnes.
Rydym yma i helpu
Mae siarad am y dyfodol yn gallu bod yn anodd. Gallai cael rhywun gwahanol a diduedd i siarad â nhw wneud sgwrs gyrfaoedd yn haws.
Mae ein cynghorwyr ar gael i siarad â chi a'ch plentyn. Gallant archwilio syniadau a nodi camau gweithredu ar gyfer camau nesaf eich plentyn. Cysylltwch â ni os hoffech chi ein help.