Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i baratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau a chefnogi camau nesaf eich plentyn.
Mae'n naturiol i'r ddau ohonoch fod yn bryderus. Pa bynnag raddau y byddant yn eu derbyn, bydd llwybr i mewn i waith, hyfforddiant neu addysg sy'n addas ar eu cyfer.
Cyn diwrnod y canlyniadau
Rhowch sicrwydd iddynt, unwaith y byddwch yn gwybod y canlyniadau, byddwch chi’n gwneud eich gorau i'w helpu. Gadewch iddyn nhw wybod hyd yn oed os nad yw pethau'n mynd i drefn, dyw e ddim yn ddiwedd y byd. Gofynnwch beth yw eu disgwyliadau, ac a ydyn nhw wedi meddwl am gynllun arall.
Gwrandewch ar eu pryderon. Mae siarad yn gallu helpu i roi pethau mewn persbectif. Os ydyn nhw'n teimlo'n nerfus anogwch nhw i ymlacio a dewch o hyd i bethau eraill sy'n mynd â’u sylw.
Gyda phawb yn cael eu canlyniadau ar yr un pryd, mae cymarharu gyda ffrindiau a chyd-ddisgyblion yn anochel. Atgoffwch nhw fod pawb yn wahanol ac felly hefyd eu hamgylchiadau.
Ar ddiwrnod y canlyniadau
Atgoffwch nhw (a chi'ch hun) bod hwn yn gyfnod cyffrous o ran penderfynu ar y cam nesaf. Helpwch nhw i reoli’r sefyllfa.
Nid y canlyniadau roedden nhw eisiau neu eu hangen
Cysurwch nhw. Does dim angen iddyn nhw ruthro i wneud penderfyniad. Anogwch nhw i siarad am eu syniadau o ran beth i wneud nesaf gan ystyried pob opsiwn.
Mae'n rhaid i bawb ddelio â siom rhywbryd. Efallai mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brofi rhywbeth fel hyn.
Anogwch nhw i ymchwilio i opsiynau rydych chi wedi trafod. Gall ceisio dod o hyd i ateb eu hunain fod yn beth da iddyn nhw.
Gall ailsefyll fod yn un opsiwn. Os nad yw hynny’n iawn i’ch plentyn caiff y cyfle i deimlo’n gyffrous am lwybr gwahanol.
Gallwch chi a'ch plentyn gwrdd ag un o'n cynghorwyr gyrfa - wyneb yn wyneb neu ar-lein. Byddan nhw’n gwrando a byddan nhw’n deall sefyllfa'ch plentyn ac yn eich helpu i archwilio'r opsiynau sy'n iawn iddyn nhw. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
Canlyniadau gwell na'r disgwyl
Gallai eu canlyniadau olygu bod opsiynau nad oeddent wedi eu hystyried yn flaenorol bellach yn bosibilrwydd.
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i’r rhain, cysylltwch â ni. Gallwn ni helpu ddod o hyd i’r rhain, sef y dewis gorau i'ch plentyn a chynllunio eu camau nesaf.
Fe gawson nhw’r canlyniadau yr oedd eu hangen arnyn nhw
Os ydyn nhw'n hapus am y cam nesaf, mae hynny'n wych. Os ydyn nhw’n ansicr neu os hoffech chi siarad â rhywun am eu hopsiynau, cysylltwch â ni.
Ar ôl diwrnod y canlyniadau
Beth bynnag eu canlyniadau, mae cynllunio’r camau nesaf yn gyffrous.
Os ydych chi a'ch plentyn angen help gyda hyn, gallwn ddarparu cymorth diduedd, personol, yn rhad ac am ddim. Mae ein cymorth a chyngor arbenigol wedi'u teilwra i'ch plentyn a'i amgylchiadau.
Rydym ni wastad yma i helpu
Os bydd pethau’n newid neu os yw’ch plentyn yn meddwl y gallai fod wedi gwneud penderfyniad sydd ddim yn gweithio iddo, rydym ni wastad yma i’r ddau ohonoch. Gwnewch apwyntiad a gallwn ni helpu’r ddau ohonoch i gynllunio’r ffordd ymlaen.
Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau gyrfa, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol.
Gallwn hefyd weithio gyda chi a'ch plentyn drwy sgwrs ar-lein, galwad fideo neu dros y ffôn.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Cewch wybodaeth am eich dewisiadau gyrfa ar ôl eich TGAU.
Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.
Beth sydd angen ichi ei wybod am system glirio'r brifysgol a sut mae ymgeisio drwy system glirio.