Mae sawl ffordd o weithio gydag anifeiliaid. Bydd rhai swyddi angen cymwysterau lefel uchel tra bydd swyddi eraill ond angen diddordeb a chariad at anifeiliaid.
Os ydych eisiau gweithio gydag anifeiliaid, gallwch gael profiad drwy wirfoddoli mewn:
- Llochesi anifeiliaid
- Cathdai
- Cytiau cŵn
- Practisau milfeddygol
Mae llochesi anifeiliaid bob amser yn croesawu gwirfoddolwyr i'w helpu i ofalu am yr anifeiliaid.
Edrychwch bob amser yr oedran sydd angen i chi fod yn wirfoddolwr. Mae rhai lleoedd yn caniatáu pobl 14 oed a hŷn a gall eraill dderbyn pobl sy'n 16 oed neu'n hŷn yn unig. Edrychwch ar Gwirfoddoli i wybod mwy.
Mae tua 31,200 o bobl yng Nghymru yn gweithio gydag anifeiliaid.
(Ffynhonnell: ©Lightcast, galwedigaethau 2026)
Swyddi a hysbysebwyd yn ystod y 12 mis diwethaf a oedd yn gweithio gydag anifeiliaid oedd:
- Llawfeddygon Milfeddygol
- Milfeddygon Anifeiliaid Bach
- Steilydd Anifeiliaid Anwes / Trinwyr Cŵn
- Technegwyr Milfeddygol
- Gweithwyr Fferm
- Nyrsys Milfeddygol
- Cynorthwywyr Cŵn
(Ffynhonnell: ©Lightcast Mai 2025 - Mai 2026)
Dyma rai o'r gwahanol swyddi y gallwch ei wneud gydag anifeiliaid:
Gofal ac achub anifeiliaid
Sŵau a pharciau bywyd gwyllt
Sgiliau i weithio gydag anifeiliaid
Mae'n rhaid i chi fod yn dda am:
- Drin anifeiliaid yn dyner ond yn gadarn
- Bod yn amyneddgar ac yn dawel
- Siarad efo cwsmeriaid
- Bod yn gyfeillgar
- Dilyn cyfarwyddiadau
- Cadw rheolau Iechyd a Diogelwch
Rhai o'r prif sgiliau y gofynnwyd amdanynt mewn hysbysebion swyddi sy’n gweithio efo anifeiliaid oedd:
- Cyfathrebu
- Gwasanaethau cwsmeriaid
- Gwaith tim
- Arweinyddiaeth
(Ffynhonnell: ©Lightcast, Mai 2026)
Rhinweddau i weithio efo anifeiliaid
Mae angen i chi fod yn berson sy'n:
- Angerddol am helpu anifeiliaid
- Gallu gweithio'n dda dan bwysau
- Gallu delio hefo gweld anifeiliaid sy'n sâl neu wedi'u brifo
- Gallu gofalu am anifeiliaid a'u perchnogion
Dod o hyd i swydd sy'n gweithio efo anifeiliaid
Gallwch weithio gydag anifeiliaid mewn gwahanol ddiwydiannau fel manwerthu, cadwraeth a lles anifeiliaid. Ewch i:
(Mae'r dolenni yma'n Saesneg yn unig)