Wrth reoli ei busnes bach, mae Rosie yn cefnogi ysgolion ac yn hyrwyddo pa mor bwysig yw rhoi yn ôl i’r gymuned.
Rosie yw sylfaenydd Grounds for Good, a sefydlwyd ganddi yn 2020. Mae'r cwmni'n defnyddio gwaddodion coffi gwastraff i gynhyrchu eitemau fel canhwyllau a jin. Cyfarfu â Michele Govier, cynghorydd cyswllt busnes, er mwyn archwilio ffyrdd o gefnogi ysgolion.
Dywedodd Michele: “Roedd yn amlwg o’n cyfarfod cyntaf bod Rosie am gefnogi ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw ailgylchu a rhoi yn ôl i’ch cymuned.”
Prosiect celf ysbrydoledig
Gyda'i gilydd, cynllunion nhw brosiect celf a dylunio i Rosie gefnogi Ysgol Gymunedol Sant Cenydd. Cefnogodd The Wallich y prosiect hefyd. Roedd athrawes gelf yr ysgol yn awyddus i weithio gyda chyflogwyr er mwyn hyrwyddo celf a dylunio. Roedd disgyblion a gymerodd celf a dylunio fel pwnc TGAU yn ansicr ynghylch y llwybr gyrfa y gallent ei ddilyn.
Rhoddodd Rosie a Mike o The Wallich friff dylunio logo i fyfyrwyr Blwyddyn 9 a 10. Gofynnwyd iddynt gynrychioli “yr hyn mae ‘cartref’ yn ei olygu i chi”. Bu’r cyflogwyr yn trafod â’r myfyrwyr sut i roi briff dylunio ar waith, yr hyn sydd ei angen, a'r terfynau amser ar gyfer creu logo. Roedd yr wybodaeth hon yn canolbwyntio ar faes llafur celf TGAU.
Dros y chwe wythnos, bu Rosie a Mike yn galw heibio’r gwersi celf. Buont hefyd yn ymweld â’r ysgol i feirniadu dyluniadau terfynol y logos. Gofynnwyd i fyfyrwyr gyflwyno eu logos a nodi’r rhesymau pam eu bod wedi dewis eu dyluniad.
Argraffwyd dyluniad yr enillydd ar fag cario. Byddai'r bagiau'n cael eu gwerthu yn ffair Nadolig Sant Cennydd lle byddai myfyrwyr yn ymgymryd â’r dasg o godi arian i The Wallich.
Dywedodd Michele: “Roedd y prosiect hwn yn golygu bod angen i’r myfyrwyr ddatblygu nifer o sgiliau er mwyn cwblhau’r dasg.
““Fe gawson nhw fudd mawr o weithio gyda’r cyflogwyr, ac roedd y profiad wedi tynnu eu sylw at y byd gwaith go iawn ynghyd â datblygu eu sgiliau. Yn ogystal â’u sgiliau celf, roedd y disgyblion hefyd wedi datblygu eu sgiliau rheoli amser a dilyn briff, wedi cefnogi eu hiechyd a’u llesiant ac wedi bod o fudd i’r gymuned leol."
Gweithgareddau pellach
Mae Rosie wedi mynd ymlaen i gefnogi gweithgareddau eraill mewn ysgolion, ac wedi annog ei chylch ehangach o gydweithwyr i weithio gyda ni hefyd.
Ymhlith y gweithgareddau hyn, cafwyd sgyrsiau mewn gwasanaethau ysgolion, sesiynau cefnogi llesiant (gyda The Wallich) a’r cyfle i fod yn feirniad mewn digwyddiad ‘Dragon’s Den’.
Dywedodd Michele: “Fel unig fasnachwr mae'n anodd neilltuo amser i ysgol yn ogystal â rhedeg eich busnes eich hun. Rydyn ni’n ffodus iawn bod Rosie yn ymuno â ni ac yn cefnogi ein hysgolion gyda syniadau arloesol.”
Enillydd gwobr
Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i Grounds for Good ym mis Ionawr 2025. Enillodd yn y categori Busnes Bach Mwyaf Cefnogol.
“Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i’n busnes bach ni gan ei bod yn wirioneddol gydnabod ac yn arddel ein mewnbwn a’n cyflawniadau.
“Mae’r wobr wedi fy ysgogi’n fwy i rannu fy mrwdfrydedd dros entrepreneuriaeth, arloesi, cynaliadwyedd, llesiant cymdeithasol, ac yn anad dim, caredigrwydd mewn busnes â chenedlaethau’r dyfodol. Diolch i Gyrfa Cymru a’r holl fyfyrwyr ac athrawon sydd wedi cydweithio â ni.”Dr Rosie Oretti, Sylfaenydd Grounds for Good
Archwilio
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.