Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2024

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2024, roedd 1,240 o'r rhai sy’n gadael yr ysgol o Flwyddyn 11, 12 ac 13 y gwyddys eu bod yn NEET yng Nghymru, sef 2.2% o gyfanswm y garfan
  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, parhaodd carfan Blwyddyn 13 i fod â chanran uwch o NEET (3.2% - 309 o unigolion) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (2.4% - 831 o unigolion) a Blwyddyn 12 (0.9% - 100 o unigolion)
  • Canran y cwsmeriaid Blwyddyn 11 oedd yn methu â mynd i mewn i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, gofalu am eraill neu feichiogrwydd oedd 1.4%. Yn yr un categori, roedd canran cwsmeriaid Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.5% a 1.9% yn y drefn honno
  • Roedd canran y merched NEET Blwyddyn 11 na allent fynd i mewn i EET yn 2024 yn uwch nag ar gyfer dynion NEET (64.4% o fenywod NEET a 55.7% o ddynion NEET)

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Mae parhau mewn addysg amser llawn yn parhau i fod y dewis mwyaf poblogaidd o blith hynt disgyblion ym mhob un o'r tri grŵp blynyddoedd
  • Dewisodd canran uwch o ferched na bechgyn ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn
Tabl yn dangos data carfan, bechgyn, merched a’r gwahaniaeth
CarfanBechgynMerchedGwahaniaeth
Blwyddyn 1185.5%89.6%4.1 pwynt canran
Blwyddyn 1293.8%95.1%1.3 pwynt canran
Blwyddyn 1371.8%80.8%9.0 pwynt canran

Roedd cyfran uwch o'r rhai sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 wedi dewis Addysg Bellach (61.5%) dros chweched dosbarth ysgolion (38.5%), gwahaniaeth o 23 pwynt canran.

  • Chweched Dosbarth 38.5%
  • Coleg AB 61.5%

Yn 2024, o’r rhai a ddosbarthwyd fel rhai sy’n parhau mewn Addysg llawn Amser, roedd mynd i addysg bellach (AB) yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn ac i ferched fel ei gilydd. Roedd y gwahaniaeth yn fwy ar gyfer bechgyn (64.4% yn mynd i AB, o gymharu â 35.5% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (58.5% yn mynd i AB, o gymharu â 41.5% yn aros yn yr ysgol).

Ym Mlwyddyn 11, Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, roedd canran uwch o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau mewn addysg llawn amser o gymharu â'r rhai sy’n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 1187.0%91.4%
Blwyddyn 1294.3%96.4%
Blwyddyn 1375.3%84.7%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i mewn i hyfforddiant a gwaith a gefnogir gan y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ar gyfer y rheini ym Mlwyddyn 11 ar 5.3% (1,819 o unigolion). Aeth 1.1% (137 o unigolion) o garfan Blwyddyn 12 a 3.3% (315 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 i mewn i un o’r opsiynau hyn
  • Canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i gyflogaeth oedd 2.9% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.3% ar gyfer Blwyddyn 12 a 12.4% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd ymuno â'r farchnad lafur, llwybrau gwaith a hyfforddiant yn ddewis mwy poblogaidd ymhlith dynion o gymharu â menywod ar draws pob un o'r 3 carfan yn 2024 
Tabl yn dangos canran y bechgyn a merched yn ôl grŵp blwyddyn sy'n dewis ymuno â'r farchnad lafur
CarfanBechgynMerched
Blwyddyn 119.6%6.8%
Blwyddyn 123.8%3.2%
Blwyddyn 1318.7%13.1%

O'r tair carfan, ymunodd canran llawer llai o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol â’r farchnad lafur (cyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith) na'r rhai sy'n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 118.7%4.3%
Blwyddyn 123.8%1.8%
Blwyddyn 1316.8%8.2%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y gyfradd ‘Dim Ymateb’ gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 1.3% yn 2024 gyda charfan Blwyddyn 13 â’r gyfradd “Dim Ymateb” uchaf, sef 3.6% (351 o unigolion).

Tabl yn dangos data cyfradd dim ymateb
Blwyddyn 110.9%
Blwyddyn 120.7%
Blwyddyn 133.6%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn