Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2024

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt y disgyblion hyn ar 31 Hydref 2024, ar gyfer 11,543 o ddisgyblion.

  • O'r garfan Blwyddyn 12 yn 2024, roedd 48.1% (5,548 o unigolion) yn fechgyn a 51.9% (5,992 o unigolion) yn ferched.
  • Aeth mwyafrif y garfan, 95.8% (11,070 o unigolion) i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg amser llawn, addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli 95.4% o ddisgyblion gwrywaidd a 96.3% o ddisgyblion benywaidd
  • Parhaodd y gyfran fwyaf o'r garfan, 94.5% (10,905 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai sy’n parhau â’u haddysg amser llawn, gwnaeth 91.6% (9,984 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol a 8.4% (911 o unigolion) barhau mewn coleg addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (10.1%) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach na merched (6.7%)
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (93.1%) barhau i Flwyddyn 13 yn yr ysgol na bechgyn (89.8%)
  • Fe wnaeth 3.4% o garfan Blwyddyn 12  (403 o unigolion) ymuno â’r farchnad waith yn 2024, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Dewisodd mwy o fechgyn na merched y llwybr hwn (3.8% o fechgyn o'i gymharu â 3.3% o fenywod)
  • Ymunodd 0.3% o garfan Blwyddyn 12 (39 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws anghyflogedig yn 2024
  • Ymunodd 0.8% o garfan Blwyddyn 12 (98 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws cyflogedig yn 2024. Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (1.1%) na merched (0.7%) y llwybr hwn
  • Ymunodd 2.3% o garfan Blwyddyn 12 (266 o unigolion) â chyflogaeth y tu allan i gynllun wedi’i ariannu gan y llywodraeth gyda 2.4% o fechgyn (131 o unigolion) a 2.3% o fenywod (135 o unigolion) yn dewis y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, nid oedd 0.9% o garfan Blwyddyn 12 (100 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET). Bechgyn oedd i gyfrif am 57.0% o gyfanswm y ffigur NEET (57 unigolyn) o'i gymharu â merched ar 43.0% (43 unigolyn)
  • O’r NEET hysbys hyn, roedd 48.0% (48 o unigolion) yn gallu ymuno â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) yn 2024 a 52% (52 o unigolion) yn methu â gwneud hynny oherwydd salwch, beichiogrwydd, neu resymau eraill
  • Y gyfradd ‘dim ymateb’ ar gyfer carfan Blwyddyn 12 yn 2024 oedd 0.7% o’r garfan (82 o unigolion)
  • Roedd 0.2% o garfan Blwyddyn 12 (25 o unigolion), wedi gadael eu hardal leol

Ffigurau Cyffredinol Bl 12

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (94.5%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigurau cyffredinol blwyddyn 12
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser

5,201

93.7

5,701

95.1

3

100

10,905

94.5

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

17

0.3

11

0.2

0

0

28

0.2

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

19

0.3

20

0.3

0

0

39

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

59

1.1

39

0.7

0

0

98

0.8

Cyflogedig - Arall

131

2.4

135

2.3

0

0

266

2.3

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

57

1.0

43

0.7

0

0

100

0.9

Dim ymateb i'r arolwg

51

0.9

31

0.5

0

0

82

0.7

Wedi gadael yr ardal

13

0.2

12

0.2

0

0

25

0.2

Cyfanswm y garfan

5,548

100

5,992

100

3

100

11,543

100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn93.7%
Merched95.1%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr Ysgol

4,672

89.8

5,309

93.1

3

100

9,984

91.6

Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach

527

10.1

384

6.7

0

0

911

8.4

Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU)

2

0.0

8

0.1

0

0

10

0.1

Blwyddyn 12 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i AU

0

0.0

0

0.0

0

0

0

0.0

Cyfanswm

5,201

100

5,701

100

3

100

10,905

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith i bobl ifanc
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

31

54.4

17

39.5

0

0

48

48.0

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

26

45.6

26

60.5

0

0

52

52.0

Cyfanswm

57

100

43

100

0

0

100

100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd i rai sy’n ystyried eu hunain o gefndir ethnig lleiafrifol yw parhau ag addysg amser llawn, sef 96.4%. Mae hyn yn uwch na’r gyfradd ar gyfer pobl ifanc gwyn (94.3%)
  • Ymunodd canran uwch o'r rhai sy'n uniaethu fel gwyn â gwahanol gategorïau'r farchnad lafur (3.8%) o'i gymharu â'r rhai sy'n uniaethu fel lleiafrifoedd ethnig (1.8%)
  • O bobl ifanc a oedd yn NEET, uniaethodd yr un gyfran fel gwyn (0.9% neu 87 unigolion) ag unigolion sy'n uniaethu fel lleiafrif ethnig (0.9% neu 12 unigolyn)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)

9,372

94.3

1,309

96.4

224

91.4

10,905

94.5

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)
 

18

0.2

1

0.1

9

3.7

28

0.2

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

29

0.3

9

0.7

1

0.4

39

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

94

0.9

4

0.3

0

0.0

98

0.8

Cyflogedig

254

2.6

11

0.8

1

0.4

266

2.3

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

87

0.9

12

0.9

1

0.4

100

0.9

Anhysbys

72

0.7

8

0.6

2

0.8

82

0.7

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

14

0.1

4

0.3

7

2.9

25

0.2

Cyfanswm y garfan

9,940

100

1,358

100

245

100

11,543

100

% o'r garfan gyfan

 

86.1

 

11.8

 

2.1

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill