Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Maent yn ysbrydoli pobl ifanc i archwilio cyfleoedd ym maes gofal iechyd a’r GIG.
Gweithio gyda Gyrfa Cymru
Mae’r bwrdd iechyd wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ers blynyddoedd lawer. Maent yn Bartner Gwerthfawr Ysgol i sawl ysgol yn yr ardal.
Maent yn cefnogi pobl ifanc trwy weithgareddau fel:
- Ffug-gyfweliadau
- Sgyrsiau am brentisiaeth
- Digwyddiadau carwsél gyrfa
- Rhwydweithio cyflym
- Nosweithiau opsiynau
- Digwyddiadau cefnogi athrawon
- Digwyddiad gyrfa Dewiswch Eich Dyfodol yn Aberystwyth.
Profiadau cadarnhaol i ddisgyblion
Mae Hywel Dda yn gweithio’n agos gydag ysgolion i gysylltu gwersi â gyrfaoedd ym maes gofal iechyd. Er enghraifft, maent yn cyfoethogi gwersi gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg â chyflwyniadau gofal iechyd diddorol.
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cefnogi disgyblion TGAU sy’n astudio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithwyr proffesiynol y GIG yn mynd i ysgolion i siarad am wahanol rolau swyddi, sgiliau a chymwysterau.
Mewn gwersi gwyddoniaeth feddygol, mae staff wedi dangos electrocardiogram, ynghyd â gwiriadau pwysedd gwaed a gweithdrefnau meddygol eraill.
Dysgodd disgyblion gwyddoniaeth Blwyddyn 8 am belydrau-x gan radiograffydd. Roedd hyn yn ategu eu gwersi ffiseg ac yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r maes gofal iechyd hwn.
Hyrwyddo gyrfaoedd y GIG
Mae staff o’r bwrdd iechyd yn ymweld ag ysgolion a digwyddiadau. Maent yn trafod swyddi o fewn meysydd gan gynnwys deintyddiaeth, nyrsio a therapi lleferydd.
Maent hefyd yn esbonio gwahanol lwybrau gyrfa a chyfleoedd i bobl ifanc.
Mae ‘Tîm Gweithlu’r Dyfodol’ y bwrdd iechyd yn cynnal sesiynau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 i 13. Maen nhw’n siarad am brentisiaethau, gwirfoddoli, a phrofiad gwaith yn y GIG.
Enillwyr gwobr
Ym mis Ionawr 2025, enillodd y bwrdd iechyd Wobr Partner Gwerthfawr am Gyflawniad Eithriadol.
Mae’n anrhydedd llwyr derbyn y wobr Cyflawniad Eithriadol hon ar ran Hywel Dda. Credwn fod buddsoddi mewn pobl wrth wraidd darparu gofal iechyd ac adeiladu cymunedau cryfach.
Dyna pam rydym mor falch o gael ein cydnabod am ein gwaith ym maes datblygu gyrfaoedd ac arloesi’r gweithlu. Mae’r wobr hon yn golygu llawer oherwydd mae’n cydnabod ein hymdrechion i ddatblygu llwybrau, cyfleoedd a phartneriaethau sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf.”
Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.