Mae astudio dramor yn ddewis cyffrous a allai gynnig llawer o fanteision. Beth am weld sut allai wneud gradd neu ran o’ch gradd dramor fod y dewis iawn i chi.
Pam astudio dramor?
Gall byw ac astudio mewn gwlad arall fod yn brofiad bythgofiadwy.
Cewch sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Gall astudio dramor roi mantais i chi dros raddedigion eraill pan fyddwch chi'n ymgeisio am swyddi.
Mae astudio rhyngwladol yn rhoi cyfle i chi:
- Ddatblygu hyder ac annibyniaeth
- Gwella sgiliau cyfathrebu ac iaith
- Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd
- Datblygu gwahanol safbwyntiau diwylliannol a chymdeithasol
Mae gan UCAS wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a fyddai astudio dramor (dolen Saesneg) yn gweddu i chi.
Astudio dramor fel rhan o radd yn y DU
Mae llawer o brifysgolion y DU yn cynnig rhaglenni cyfnewid neu bartneriaethau gyda sefydliadau tramor. Byddai’r rhain yn eich galluogi i dreulio rhan o’ch amser dramor wrth wneud eich gradd.
Mae pob cais am gyrsiau addysg uwch yn y DU yn cael eu gwneud trwy UCAS.
Os ydych ar gwrs gradd gyda phrifysgol yn y DU a'ch bod yn bodloni’r meini prawf eraill, gallwch wneud cais am gyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae ganddyn nhw gymorth ychwanegol i fyfyrwyr sy'n astudio dramor hefyd.
Mae darparwyr addysg yn delio â chyllid ar gyfer astudio dramor gan:
- Cynllun Turing (dolen Saesneg)
- Lleoliadau astudio neu waith Taith
- Erasmus+ (dolen Saesneg)
Mae gan UCAS (dolen Saesneg) wybodaeth ynghylch:
- Grantiau teithio
- Cynlluniau cyllido
- Ble i ddod o hyd i ysgoloriaethau a bwrsariaethau
Gwneud gradd gyfan dramor
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio ac yn cynllunio'n dda os ydych chi'n ystyried gwneud gradd gyfan dramor. Bydd y broses ymgeisio, ffioedd cwrs a chostau byw yn amrywio mewn gwledydd eraill.
Bydd angen i chi feddwl am sut i ariannu'r cwrs. Ni allwch wneud cais am gyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydych chi'n dechrau ac yn gorffen eich cwrs y tu allan i'r DU.
Efallai y bydd gan y brifysgol rydych chi'n ei ystyried wybodaeth a allai eich helpu. Er enghraifft, cyfleoedd cyllid neu ysgoloriaeth.
Mae gan UCAS wybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys beth i'w ddisgwyl os ydych am wneud cais i astudio eich cwrs cyfan dramor (dolen Saesneg).
Penderfynu ble i astudio
Mae gan Prospects (dolen Saesneg) awgrymiadau ar gyfer astudio dramor a gwybodaeth am astudio mewn gwahanol wledydd. Mae'n cynnwys pethau fel fisas myfyrwyr, ffioedd cwrs a rhaglenni cyfnewid.
Mae nhw’n rhoi’r wybodaeth ganlynol am y gwledydd sydd wedi’u cynnwys:
- Gwybodaeth am ofynion iaith
- Cymhariaeth â chymwysterau'r DU
- Dolenni i ragor o wybodaeth
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.