Efallai bod aros yn yr ysgol yn opsiwn i chi. Mewn rhai ysgolion, mae myfyrwyr yn gallu aros yno tan eu bod nhw’n 19 oed.
Aros yn yr un ysgol
Os byddwch yn aros yn yr un ysgol:
- Rydych yn adnabod yr athrawon a staff yr ysgol yn dda, ac maen nhw’n eich adnabod chi. Gallan nhw eich helpu a’ch cefnogi i baratoi am fywyd ar ôl yr ysgol
- Byddwch yn dal i gael rhai o’r gwersi rydych yn eu cael nawr ond efallai y cewch gyfle i roi cynnig ar rai newydd hefyd
- Efallai y byddwch yn gallu mynd ar ymweliadau neu gael sesiynau blasu gwaith er mwyn eich helpu i feddwl am y dyfodol
Symud i ysgol arall
Os hoffech symud i ysgol arall, bydd angen i chi siarad gyda’ch:
- Rhieni/gofalwyr
- Athrawon
Byddan nhw’n gallu dweud wrthych a yw’n bosibl symud i ysgol arall a beth sydd angen ei wneud er mwyn i hyn ddigwydd.
Faint fydda i'n cael fy nhalu?
Os ydych rhwng 16 a 18 oed, efallai y byddwch chi’n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o hyd at £40 yr wythnos.
Siaradwch â’r ysgol i gael gwybod mwy neu ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wybod mwy.
Pwy sy'n gallu fy helpu i gael mwy o wybodaeth?
Mae llawer o bobl eraill sy’n gallu eich helpu i gynllunio eich dyfodol. Gallwch siarad gyda:

Athrawon yn yr ysgol - gallan nhw ddweud mwy wrthych am beth y gallech ei wneud os byddwch yn aros yno

Rhieni/gofalwyr - siaradwch gyda nhw am eich syniadau. Gallan nhw eich helpu i feddwl am bethau nad ydych chi o bosib wedi meddwl amdanyn nhw

Cynghorydd Gyrfa - gallan nhw siarad gyda chi am eich holl opsiynau a’ch helpu i benderfynu beth sydd orau i chi

Myfyrwyr eraill - gallwch siarad gyda myfyrwyr sydd wedi aros yn yr ysgol a gofyn iddyn nhw ddweud wrthych sut beth yw hynny
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod beth ddylech chi feddwl amdano i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.