Gallwn eich helpu chi i feddwl am eich bywyd fel oedolyn. Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai yr hoffech ddechrau meddwl am ble yr hoffech chi fyw.
Eich opsiynau i fyw yn annibynnol
Efallai y byddwch eisiau:
Byw gyda'ch teulu
Byw gyda phobl eraill:
- Gyda help
- Heb help
Byw ar eich pen eich hun:
- Gyda help
- Heb help
Gall eich rhieni, gofalwyr a Gweithwyr Cymdeithasol drafod yr opsiynau hyn gyda chi i weld pa opsiwn sydd orau i chi.
Edrychwch ar

Dewch i wybod pa bethau y gallech fod yn eu gwneud yn eich bywyd bob dydd fel oedolyn, y sgiliau y byddwch yn eu defnyddio a beth allech chi ei wneud yn eich amser hamdden.

Dewch i wybod pwy yw'r bobl a'r sefydliadau sy'n gallu eich helpu yn y gymuned.