Fel oedolyn bydd gennych rywfaint o gyfrifoldeb am sut rydych chi'n byw eich bywyd bob dydd.
Eich sgiliau byw bob dydd
Dyma rhai o’r pethau y bydd angen i chi feddwl amdanynt os byddwch yn byw yn eich tŷ eich hun:
Gofal personol
Mae hyn yn cynnwys:

Ymolchi a gwisgo

Golchi eich gwallt

Glanhau eich dannedd
Mynd i'r coleg neu i'r gwaith
Mae hyn yn cynnwys:

Codi ar amser

Dal y bws, y trên neu dacsi i’r coleg neu i’r gwaith

Gwneud pecyn bwyd i chi eich hun neu wneud yn siŵr bod gennych ddigon o arian i gael bwyd
Gwaith tŷ
Mae hyn yn cynnwys:

Siopa am fwyd

Coginio a glanhau

Golchi a smwddio dillad
Rheoli arian
Mae hyn yn cynnwys:

Mynd allan a siopa

Talu biliau

Cyllidebu ac arbed arian – mae hyn yn golygu eich bod yn cynllunio ar gyfer beth bynnag y mae angen i chi wario arian arno er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch dalu am bopeth
Eich amser hamdden
Yn eich amser sbâr, gallech:

Drio gwahanol glybiau a dosbarthiadau, er enghraifft TG, ffitrwydd a choginio

Fynd i ganolfan hamdden. Mae cadw’n heini yn dda i’ch iechyd. Gallech fynd i nofio, defnyddio’r gampfa neu fynd i ddosbarth ffitrwydd

Wirfoddoli a helpu eraill. Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddysgu mwy o sgiliau hefyd. Darllenwch fwy am wirfoddoli
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod pwy yw'r bobl a'r sefydliadau sy'n gallu eich helpu yn y gymuned.