Mae gweithgareddau menter yn meithrin y sgiliau a’r meddylfryd sy’n angenrheidiol i wneud y gorau o gyfleoedd.
Mae gennym syniadau, offer ac adnoddau i genfogi gweithgareddau menter mewn lleoliadau cynradd.
Banc Syniadau Mentrus
Mae’r Banc Syniadau Mentrus ar gael i’w lawrlwytho o’r ystorfa adnoddau ar Hwb.
Datblygwyd yr adnodd hwn mewn cydweithrediad â modelau rôl entrepreneuraidd o rwydwaith Syniadau Mawr Cymru. Mae’n cynnwys syniadau i ysbrydoli, cefnogi ac annog addysg entrepreneuriaeth gyda dysgwyr iau.
Mae’r syniadau a’r cynnwys wedi’u cynllunio i ddarparu man cychwyn i ysbrydoli athrawon.
Cystadleuaeth y Criw Mentrus
Gyrfa Cymru sy’n rheoli Cystadleuaeth y Criw Mentrus. Rydym wedi rhoi contract i Cazbah Ltd i gyflwyno hyn mewn ysgolion cynradd ledled Cymru.
Bwriad Cystadleuaeth Y Criw Mentrus yw ysbrydoli creadigrwydd plant, eu sgiliau datrys problemau a gweithio mewn tîm a hynny mewn awyrgylch hwyliog.
Eleni, gall ymgeiswyr hefyd ennill £2,500 i'w hysgol.
Y 3 phrif gategori gwobrau yw:
- Gwobr ECO/Effaith Cynaliadwyedd
- Gwobr Creadigrwydd/Arloesedd
- Gwobr Effaith Cymdeithasol/Cymunedol
Pwy sy’n gymwys?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl ysgolion cynradd Cymru.
Rhaid i’r ceisiadau fod yn weithgaredd a arweinir gan ddisgyblion ac yn seiliedig ar waith tîm.
Rhaid i’r busnesau cymwys fod wedi bod yn weithredol yn ystod unrhyw adeg rhwng Ionawr 2024 a’r dyddiad cau, sef 16 o Fehefin 2025.
Rhagor o wybodaeth
Ewch i Syniadau Mawr Busnes Cymru i gofrestru a chael mynediad at adnoddau i’ch cynorthwyo gyda’ch cais. Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau erbyn 4pm ar 16 o Fehefin 2025.
E-bostiwch ycriwmentrus@cazbah.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch am ein map a'n hanimeiddiadau i gyflwyno dysgwyr i wahanol swyddi a diwydiannau.
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.
Adnoddau defnyddiol a all gefnogi addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith mewn ysgolion cynradd a lleoliadau.