Mae ein tîm gyrfa a phrofiadau cysylltiedig â gwaith yn cyflwyno sesiynau dysgu proffesiynol trwy gydol y flwyddyn academaidd, wedi'u hanelu at athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol.
Mae'r sesiynau hyn wedi'u datblygu i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau a fydd yn galluogi ysgolion i wreiddio addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.
Cyflwynir y sesiynau hyn yn ddigidol a gellir eu cyrchu trwy ddolen Teams Live y byddwch yn ei derbyn ar ôl cofrestru
Digwyddiadau ar gyfer ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac UCDau
Nid oes gennym unrhyw ddyddiadau ar gyfer sesiynau dysgu proffesiynol ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac UCD ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ddigwyddiadau gael eu cynllunio.
Os hoffech gael gwybodaeth am yrfaoedd a phrofiadau gwaith fel thema drawsbynciol, neu os hoffech gael gwybod sut y gallwn gefnogi athrawon i wreiddio gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ar draws y cwricwlwm, cysylltwch â’n tîm cwricwlwm.
Nid oes gennym unrhyw ddyddiadau ar gyfer sesiynau dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion cynradd ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ddigwyddiadau gael eu cynllunio.
Ymwelwch â'n tudalen gynradd i gael rhagor o wybodaeth am gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fel thema drawsgwricwlaidd, a'r adnoddau a'r offer i gefnogi athrawon i wreiddio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws y cwricwlwm.
Digwyddiadau i lywodraethwyr
Nid oes gennym unrhyw ddyddiadau ar gyfer sesiynau dysgu proffesiynol i lywodraethwyr ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ddigwyddiadau gael eu cynllunio.