Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Rhaglen Gyrfaoedd yn Eich Cwricwlwm 2023/24 bellach ar agor.
Mae’r Rhaglen Gyrfaoedd yn Eich Cwricwlwm yn paratoi ymarferwyr i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws y cwricwlwm.
Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn thema trawscwricwlaidd yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau eraill roi sylw i’r cynnwys hwn ar draws pob Maes.
Ar gyfer pwy mae'r rhaglen hon
Mae Gyrfa Cymru yn treialu'r rhaglen hon ar gyfer athrawon mewn:
- Ysgolion cynradd
- Ysgolion uwchradd
- Ysgolion arbennig
- Unedau Cyfeirio Disgyblion
Byddwn yn darparu rhaglenni cynradd ac uwchradd ar wahân i sicrhau bod y deunyddiau'n addas ar gyfer pob lefel. Nid yw'r rhaglen hon wedi'i hachredu.
Mae Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 gennym hefyd.
Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys
Mae'r rhaglen yn darparu hyfforddiant i gefnogi cynllunio, dylunio ac arwain ar yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.
Y tri phrif bwnc yw:
- Pwysigrwydd gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm
- Gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn ymarferol
- Gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eich cwricwlwm
Mae'r rhaglen yn cefnogi:
- Creu rhaglen addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith sy'n helpu pob dysgwr i lwyddo
- Ymarferwyr i fod â gweledigaeth glir ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm
- Datblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau
- Effaith a gwelliant parhaus gyrfaoedd a phrofiadau â byd gwaith
- Gweithio gydag athrawon eraill i rannu gwybodaeth ac arferion gorau
Pryd a sut mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno
3 sesiwn hanner diwrnod sy’n cael eu cyflwyno’n ddigidol yng ngwanwyn a haf 2024.
Bydd lleoedd yn gyfyngedig.
Gwneud cais neu ddarganfod mwy
I wneud cais am le cwblhewch y ffurflen gais Cynradd neu Uwchradd. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm cwricwlwm.
You might also like

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.

Dysgwch am ddatblygiad ein Gwobr Ansawdd a’n peilot newydd ar gyfer pob lleoliad gyda dysgwyr 3 i 16 oed.