Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2023

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oed oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Roedd yr arolwg, a ddarparodd hynt y disgyblion hyn ar 31 Hydref 2023, yn ymwneud â 33,110 o ddisgyblion a oedd wedi gadael addysg orfodol yn 2023.

  • Roedd 51.1% (16,932 o unigolion) yn fechgyn a 48.8% (16,172 o unigolion) yn ferched
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 93.0% (30,803 o unigolion) i ryw fath o drefniant dysgu parhaus mewn addysg amser llawn, addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli 91.9% o fechgyn, 94.2% o ferched
  • Parhaodd cyfran fwyaf y garfan, 86.7% (28,714 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O'r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn, parhaodd 60.8% mewn coleg addysg bellach (17,458 o unigolion) a pharhaodd 39.2% (11,256 o unigolion) â'u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (3.2 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn coleg addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (3.2 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Aeth 9.0% o'r garfan (2,996 o unigolion) i mewn i'r farchnad lafur, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Dewisodd mwy o fechgyn na merched i ymuno â'r farchnad lafur (10.7% o fechgyn o gymharu â 7.3% o ferched)
  • Aeth 3.6% (1,205 o unigolion) i hyfforddiant yn seiliedig ar waith, statws anghyflogedig
  • Aeth 2.2% (725 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i gyllid a gefnogir gan y Llywodraeth. Dewisodd mwy o fechgyn (3.1%) na merched (1.2%) y llwybr hwn
  • Aeth 3.2% (1,066 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i gyllid a gefnogir gan y Llywodraeth. Dewisodd mwy o fechgyn (4.0%) na merched (2.4%) y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 2.0% o’r garfan (670 o unigolion) mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Roedd bechgyn yn cyfrif am 52.1% o'r cyfanswm (349 o unigolion) o gymharu â merched ar 47.9% (321 o unigolion)
  • Roedd 34.5% (231 o unigolion) o’r NEET hynny yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant o’i gymharu â’r 65.5% (439 o unigolion) nad oeddent yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, neu resymau eraill
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.2% o’r garfan (398 o unigolion)
  • Dangoswyd bod 0.5% (173 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 11

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 11 yn dangos bod y mwyafrif (86.7%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 11
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser

14,322

84.6

14,386

89.0

6

100

28,714

86.7

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

110

0.6

49

0.3

0

0

159

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

607

3.6

598

3.7

0

0

1,205

3.6

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

527

3.1

198

1.2

0

0

725

2.2

Cyflogedig - Arall

676

4.0

390

2.4

0

0

1,066

3.2

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

349

2.1

321

2.0

0

0

670

2.0

Dim ymateb i'r arolwg

244

1.4

154

1.0

0

0

398

1.2

Wedi gadael yr ardal

97

0.6

76

0.5

0

0

173

0.5

Cyfanswm y garfan

16,932

100

16,172

100

6

100

33,110

100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn84.6%
Merched89.0%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr ysgol

5,385

37.6

5,871

40.8

0

0.0

11,256

39.2

Parhau i Flwyddyn 12 mewn colegau Addysg Bellach

8,937

62.4

8,515

59.2

6

100

17,458

60.8

Cyfanswm

14,322

100

14,386

100

6

100

28,714

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig ar waith i bobl ifanc
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

138

39.5

93

29.0

0

0

231

34.5

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

211

60.5

228

71.0

0

0

439

65.5

Cyfanswm

349

100

321

100

0

0

670

100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 92.6% (o gymharu ag 86.2% o’r rhai o gefndir gwyn)
  • Ymunodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn â’r amrywiol gategorïau yn y farchnad lafur (9.6%) o gymharu â’r rhai o gefndir leiafrifoedd ethnig (3.6%)
  • Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn dod o gefndiroedd gwyn (2.1% neu 642 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrifoedd ethnig (0.9% neu 23 o unigolion)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
 Gwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)

25,977

86.2

2,360

92.6

377

88.9

28,714

86.7

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

150

0.5

5

0.2

4

0.9

159

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

1,145

3.8

49

1.9

11

2.6

1,205

3.6

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

707

2.3

14

0.5

4

0.9

725

2.2

Cyflogedig

1,031

3.4

28

1.1

7

1.7

1,066

3.2

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

642

2.1

23

0.9

5

1.2

670

2.0

Anhysbys

366

1.2

26

1.0

6

1.4

398

1.2

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

120

0.4

43

1.7

10

2.4

173

0.5

Cyfanswm y garfan

30,138

100

2,548

100

424

100

33,110

100

% o'r garfan gyfan

 

91.0

 

7.7

 

1.3

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill