Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2023

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 ac 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt disgyblion ar 31 Hydref 2022, ar gyfer 10,383 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2023.

  • Roedd 47.2% yn fechgyn a 52.8% yn ferched
  • Aeth 79.2% o’r garfan (8,228 o unigolion) i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd cyfran uwch o'r garfan gyfan o ferched yn y categori hwn (81.9%) o gymharu â bechgyn (76.3%)
  • Parhaodd 75.2% o'r garfan (7,813 o unigolion) mewn addysg amser llawn. O'r rheini, aeth 85.3% (6,665 o unigolion) ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch. Roedd hyn yn cynrychioli 64.2% o gyfanswm y garfan
  • Aeth 70.2% o’r garfan gyfan o ferched ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch a 57.5% o gyfanswm y garfan o fechgyn
  • O'r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn, parhaodd 5.7% (448 o unigolion) â'u haddysg mewn ysgol o gymharu â 7.9% (619 o unigolion) a barhaodd mewn coleg addysg bellach
  • Dywedodd 1.0% (81 o unigolion) o'r rhai sy'n parhau mewn addysg eu bod yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd ymlaen i addysg uwch y flwyddyn ganlynol
  • Parhau mewn addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) oedd y llwybr a gymerwyd gan 40 o unigolion (0.4%)
  • Aeth 16.6% (1,721 o unigolion) i mewn i'r farchnad lafur, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith
  • Aeth 13.0% (1,346 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth, 14.6% o fechgyn (713 o unigolion) ac 11.5% o ferched (633 o unigolion)
  • Aeth cyfran fechan o'r garfan 0.3% (30 o unigolion) i hyfforddiant yn seiliedig ar waith heb statws cyflogedig
  • Aeth 3.3% (345 o unigolion) i ddysgu yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Dilynodd canran uwch o fechgyn (5.1%) na merched (1.8%) y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, gwyddys nad oedd 3.6% (375 o unigolion) o’r garfan mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn 4.8% (235 o unigolion) na merched 2.6% (140 o unigolion) yn y categori hwn
  • Dangoswyd bod 0.3% (26 o unigolion) o'r garfan wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 13

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (75.2%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 13
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser

3,448

70.4

4,365

79.6

0

0

7,813

75.2

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

24

0.5

16

0.3

0

0

40

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

15

0.3

15

0.3

0

0

30

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

248

5.1

97

1.8

0

0

345

3.3

Cyflogedig - Arall

713

14.6

633

11.5

0

0

1,346

13.0

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

235

4.8

140

2.6

0

0

375

3.6

Dim ymateb i'r arolwg

202

4.1

206

3.8

0

0

408

3.9

Wedi gadael yr ardal

13

0.3

13

0.2

0

0

26

0.3

Cyfanswm y garfan

4,898

100

5,485

100

0

0

10,383

100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn70.4%
Merched79.6%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-18

257

7.5

191

4.4

0

0

448

5.7

Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach

347

10.1

272

6.2

0

0

619

7.9

Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU)

2,815

81.6

3,850

88.2

0

0

6,665

85.3

Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU

29

0.8

52

1.2

0

0

81

1.0

Cyfanswm

3,448

100

4,365

100

0

0

7,813

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith i bobl ifanc
 Bechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith i bobl ifanc

97

41.3

46

32.9

0

0

143

38.1

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

138

58.7

94

67.1

0

0

232

61.9

Cyfanswm

235

100

140

100

0

0

375

100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o lwybr ar draws yr holl grwpiau ethnig lleiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn ar 83.8%. Roedd hyn yn cymharu â 74.2% ar gyfer unigolion o gefndir gwyn
  • Aeth canran uwch o'r rhai o gefndir gwyn i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a noddir gan y Llywodraeth (13.8% o'r rhai o gefndir gwyn o gymharu â 5.5% o'r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol)
  • Aeth canran uwch o'r rhai o gefndir gwyn i mewn i hyfforddiant yn seiliedig ar waith - statws cyflogedig (3.4% o'r rhai o gefndir gwyn o gymharu ag 2.7% o'r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol)
  • Roedd cyfran y bobl ifanc NEET o gefndir gwyn yn uwch na chyfran y rhai â chefndir ethnig lleiafrifol (3.7% o gymharu â 2.6%). Mae hyn yn cynrychioli 282 o unigolion o gefndir gwyn a 27 o unigolion o gefndir ethnig lleiafrifol
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
 Gwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)

6,851

74.2

868

83.8

94

79.0

7,813

75.2

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

36

0.4

4

0.4

0

0.0

40

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

28

0.3

2

0.2

0

0.0

30

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

315

3.4

28

2.7

2

1.7

345

3.3

Cyflogedig

1278

13.8

57

5.5

11

9.2

1,346

13.0

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

344

3.7

27

2.6

4

3.4

375

3.6

Anhysbys

356

3.9

45

4.3

7

5.9

408

3.9

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal
 

20

0.2

5

0.5

1

0.8

26

0.3

Cyfanswm y garfan

9,228

100

1,036

100

119

100

10,383

100

% o'r garfan gyfan

 

88.9

 

10.0

 

1.1

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill