Gall dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant fod yn frawychus. Gadewch i ni eich helpu gyda'r camau cyntaf.
Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn cymryd seibiant o'r gwaith, fel:
- Amser i ffwrdd i fagu teulu
- Cymryd cyfrifoldebau gofalu
- Fel y gallant deithio neu fyw dramor
- Ar ôl cyfnod o salwch
Beth bynnag fo'ch rhesymau, mae cynllunio ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn gyfle i adolygu eich sgiliau a chynyddu'ch hyder.
Beth yw fy opsiynau?
Gall rhai o'r opsiynau sydd ar gael i chi gynnwys:
- Cael swydd
- Ail hyfforddiant
- Gwneud prentisiaeth
- Hunangyflogaeth
Prif awgrymiadau i baratoi i ddychwelyd i'r gwaith
Ymchwiliwch i'ch cynlluniau gyrfa
Bydd angen i chi gynllunio ymlaen llaw i sicrhau eich bod chi'n barod i fynd i mewn i fyd gwaith. Hyd yn oed os ydych chi'n gwybod pa fath o swydd rydych chi am ei gwneud, mae'n bwysig ymchwilio i'r sgiliau, y cymwysterau, y cyflog posibl a'r cyflogwyr fel eich bod chi'n teimlo'n hyderus wrth wneud y cam nesaf.
- Defnyddiwch y Cwis Paru Gyrfa i baru eich sgiliau a'ch diddordebau â gwahanol swyddi
- Chwiliwch Gwybodaeth am Swyddi i weld pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol zswyddi
Trefnwch apwyntiad i siarad â Chynghorydd Gyrfa am eich opsiynau.
Bod yn ymwybodol o'ch sgiliau
Efallai y bydd pethau wedi newid yn y gweithle ers i chi weithio ddiwethaf felly bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd gennych neu efallai y bydd eu hangen arnoch i wneud cais am swyddi penodol. Edrychwch ar wahanol ddisgrifiadau swydd a nodi pa sgiliau sydd eu hangen. Rhai pethau i'w cofio:
- Mae sgiliau bywyd sydd gennych yn sgiliau gwaith hefyd. Mae'r hyn rydych chi wedi'i wneud yn ystod eich seibiant o weithio yn golygu eich bod chi wedi ennill sgiliau a rhinweddau gwerthfawr sy’n ddefnyddiol i lawer o rolau, e.e. cynllunio, ariannu, cyfathrebu, gofalu, cymryd cyfrifoldeb, trefnu a mwy - Felly, meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd a'r sgiliau yr ydych yn eu hennill
- Mae gennych sgiliau trosglwyddadwy. Os ydych chi wedi gweithio yn y gorffennol, mae'r sgiliau a enillwyd yn dal yn amhrisiadwy i unrhyw swydd y gallech wneud cais amdano nawr, hyd yn oed os yw mewn sector hollol wahanol. - Felly, ysgrifennwch restr o'r sgiliau a gawsoch mewn swyddi yn y gorffennol a'r hyn rydych chi wedi'u magu yn ystod eich seibiant o'ch gwaith, bydd hyn yn eich helpu i nodi unrhyw fylchau
Dewch i wybod mwy am fyd gwaith y presennol a'r dyfodol yng Nghymru ar Dyfodol gwaith yng Nghymru.
Gwella eich cyfleoedd gwaith
I ddod o hyd i'ch swydd neu gyfle hyfforddi perffaith, bydd angen i chi edrych yn y mannau cywir. Mae yna wahanol ffyrdd o ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a hyfforddiant ac mae gwneud y mwyaf o'r rhain yn siwr o wella eich cyfleoedd cael swydd:
Byddwch yn barod i ymgeisio
Pan fyddwch yn dod o hyd i swydd neu gyfle hyfforddi yr hoffech wneud cais amdani, efallai y bydd angen i chi fod yn barod i anfon eich CV, llenwi ffurflen gais, a gobeithio mynd i gyfweliad.
Edrychwch ar Cael swydd i gael gwybodaeth a chefnogaeth i adeiladu CV, ysgrifennu cais, llythyrau a negeseuon e-bost a thechnegau cyfweld.
Byddwch yn agored i ailhyfforddi
Gallai olygu y bydd yn rhaid i chi ailhyfforddi. Mae yna lawer o sefydliadau sy'n gallu cynnig cyfleoedd hyfforddi mewn gwahanol swyddi.
Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael yng Nghymru - Cyrsiau yng Nghymru.
Bod yn ymwybodol o gyllid
Yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol, gall dychwelyd i'r gwaith neu i hyfforddiant:
- Effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech fod yn eu hawlio
- Golygu eich bod chi'n gymwys i hawlio budd-daliadau newydd
- Allu cael cymorth ariannol gyda hyfforddiant
Edrychwch ar y Benefits calculators ar Gov.uk i ddarganfod unrhyw oblygiadau ariannol posibl. (dolen Saesneg)
Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i drafod eich sefyllfa ariannol.
Os ydych chi'n dilyn cwrs hyfforddi yna gallwch siarad â'r darparwr am y cymorth ariannol sydd ar gael.
Goresgyn rhwystrau
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fyddwch chi'n teimlo'n barod i ddychwelyd yn ôl i'r gweithle ar unwaith neu efallai y byddwch chi'n teimlo bod gennych rwystrau i’w goresgyn yn gyntaf. Gall enghreifftiau gynnwys (dolenni Saesneg):
- Cofnod troseddol – mae yna sefydliadau i'ch helpu chi.
Mae Nacro yn elusen cyfiawnder cymdeithasol cenedlaethol sydd â chyngor a gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr, sut mae gwahanol sectorau'n delio â chais gan bobl sydd â chofnodion troseddol a llawer mwy o gefnogaeth - Cyfrifoldebau gofal – mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu i weithio neu hyfforddi wrth barhau i ofalu am eich teulu. Edrychwch ar rai gwefannau defnyddiol:
Mae Carers UK yn elusen cenedlaethol ar gyfer gofalwyr a gallent gynnig cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i'ch helpu.
Gall Gov.UK roi cyngor i chi am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i chi os oes gennych blant.
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau gall Gyrfa Cymru gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i chi i'ch cynorthwyo i gymryd eich camau nesaf i ddod o hyd i waith a hyfforddiant. Trefnwch apwyntiad i drafod eich opsiynau a'ch camau nesaf gyda Chynghorydd Gyrfa.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.
Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.
Ffyrdd o ddarganfod eich sgiliau a'ch cryfderau. Bydd adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau yn cynyddu eich hyder, ac yn gymorth i gael swydd.
Y pethau sydd angen ichi eu gwybod am gyflog, hawliau ac oriau gwaith ar gyfer swyddi.