Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori EDF Renewables y DU

Ffion Davies ac Amy Ravitz – Williams o EDF Renewables yn gafael tlws Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae EDF Renewables y DU yn gwmni ynni adnewyddadwy. Mae’n ysbrydoli dysgwyr i feddwl am eu rolau yn y dyfodol ac am ddiogelu'r blaned.

Mae'r cwmni wedi cefnogi ysgolion ledled Cymru drwy ddigwyddiadau amrywiol.

Yr Wythnos Werdd Fawr o Weithredu

Yr Wythnos Werdd Fawr o Weithredu yw'r digwyddiad mwyaf o weithredu cymunedol dros yr hinsawdd a natur yn y DU.

Rhoddodd EDF Renewables y DU gyflwyniad pwrpasol i Flwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gellifedw yn canolbwyntio ar arferion gwyrdd. Yn ystod y sgwrs, amlygwyd y sgiliau a'r rhinweddau a werthfawrogir gan y cwmni mewn gweithwyr. Bu’r cwmni hefyd yn siarad am gyfleoedd gyrfa yn y sector.

Ysbrydoli dysgwyr

Mae'r cwmni wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ers blynyddoedd lawer.

Ymhlith y gefnogaeth y mae wedi’i darparu mae:

  • Creu cynnwys ysgrifenedig ar gyfer adnoddau ysgol
  • Amlygu rôl gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i gyrraedd nodau sero net
  • Annog dysgwyr i drafod swyddi mewn ynni solar, gwynt a dŵr

Mae hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau Gyrfa Cymru ac yn darparu cefnogaeth yn ystod sesiynau ffug-gyfweliadau.

Ar ben hyn, gweithiodd EDF Renewables y DU ar brosiect Darganfod Gyrfa ar gyfer Ysgolion Cynradd 2023. Lluniwyd cynnwys ysgrifenedig ganddo yn amlygu sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael eu defnyddio i gefnogi ei agenda sero net.

Ennill gwobr

Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i EDF Renewables y DU ym mis Tachwedd 2023. Ef enillodd wobr Cefnogwr Gorau'r Agenda Sero Net.

Dywedodd Ffion Davis, Rheolwr Materion Allanol Cymreig, “Roedd ennill y wobr hon yn syndod enfawr ac yn anrhydedd enfawr. Teimlwn yn freintiedig i gael y cyfle i weithio gyda Gyrfa Cymru ac i fynd i ysgolion a siarad am yr holl rolau ynni adnewyddadwy amrywiol.

“Rydym am ysbrydoli dysgwyr ifanc i fod y gweithlu hwnnw yn y dyfodol sy’n cyflawni sero net.”

Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Andrea John, yn gweithio gyda Ffion. Dywedodd Andrea, “Mae bob amser yn bleser gweithio gyda Ffion o EDF Renewables.

“Mae Ffion yn frwd dros addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd cynaliadwyedd er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Drwy ei gwaith gyda Gyrfa Cymru, mae disgyblion wedi cael cyflwyniad i sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael eu defnyddio i gefnogi agenda sero net EDF Renewables, ac maent wedi dod i ddeall y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector nawr ac yn y dyfodol.”


Archwilio

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.