Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori JCB

Cynrychiolwyr o JCB yn gafael yn nhlws Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae JCB yn un o’r tri gwneuthurwr offer adeiladu gorau yn y byd. Mae’r cwmni wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes adeiladu.

Gweithio gyda Gyrfa Cymru

Mae JCB wedi cefnogi llawer o weithgareddau gan gynnwys:

  • Sgyrsiau prentisiaid
  • Ffug gyfweliadau
  • Digwyddiadau Dewiswch Eich Dyfodol
  • Rhwydweithio ymhlith cyflogwyr
  • Diwrnod canlyniadau ffug
  • Sgyrsiau cyn-fyfyrwyr

Mae JCB hefyd yn Bartner Ysgol Gwerthfawr gydag Ysgol y Grango.

Gweithio gyda’r ysgol

Mae gan JCB ystafell ddosbarth bwrpasol ar gyfer dysgwyr. Craig Weeks yw Rheolwr Cyffredinol JCB Transmissions yn Wrecsam. Mae’n siarad â grwpiau disgyblion cyn ac ar ôl iddynt fynd ar daith o amgylch y cyfleuster gweithgynhyrchu.

Mae JCB hefyd wedi rhoi lluniau mawr o’u hoffer ar gyfer ystafelloedd dosbarth peirianneg mewn ysgolion. Maen nhw’n gobeithio y bydd y delweddau’n hybu ac yn ysbrydoli gyrfaoedd mewn peirianneg.

Enillwyr Gwobrau

Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i JCB gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2023. Enillon nhw yn y categori Newydd-ddyfodiad Gorau. Roedd hyn yn cydnabod ymgysylltiad a phartneriaeth ddiweddar y cwmni â Gyrfa Cymru.

Mae cynghorydd ymgysylltu busnes Gyrfa Cymru, Lesley Lloyd, yn gweithio’n agos gyda Craig a JCB. Dywedodd hi: “Mae’r gefnogaeth gan JCB wedi bod yn wych.

Mae ymrwymiad Craig i ysbrydoli pobl ifanc wedi bod heb ei ail.” “Mae eisiau creu partneriaethau ystyrlon a hirhoedlog gydag ysgolion. Mae’n frwd dros ysbrydoli pobl yn Wrecsam i weld JCB fel cyflogwr o ddewis.”

Dywedodd Craig Weeks: “Dyma ddechrau taith i ni. Rydym wedi ein syfrdanu gyda’r wobr hon, ac ni allaf aros i barhau â’r gwaith gyda Gyrfa Cymru yn y dyfodol.”


Archwilio

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.