Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Kidslingo

Natasha Baker yn gafael yn ei thlws Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Fel cyflogwr bach, gall dod o hyd i amser i gefnogi gweithgareddau fod yn her. Mae hyn yn golygu bod cwmpas yr hyn y mae busnesau Natasha Baker wedi'i gyflawni mor arbennig.

Natasha yw perchennog Kidslingo. Mae'r busnes yn addysgu Ffrangeg a Sbaeneg i blant hyd at 11 oed. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hi hefyd wedi agor Meithrinfa Wibli Wobli, y feithrinfa Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd.

Dod â gwahanol bynciau'n fyw

Mae Natasha’n cefnogi athrawon ac yn helpu dysgwyr i ddeall y cyfleoedd y gall astudio Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg eu cynnig. Fel cyfreithwraig gymwysedig, mae Natasha hefyd wedi siarad â dysgwyr am astudio'r gyfraith.

A chan fod ganddi brofiad o sefydlu a rheoli ei busnesau ei hun, mae mewnwelediad Natasha hefyd wedi cyfoethogi pynciau eraill. Mae dysgwyr astudiaethau busnes a Bagloriaeth Cymru wedi elwa o gael gwybod am bob agwedd ar redeg busnes.

Hyblygrwydd ac ymrwymiad

Mae Natasha wedi cefnogi ysgolion ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae dysgwyr mewn 5 awdurdod lleol gwahanol wedi elwa o gysylltiad ag un o'i busnesau.

Darparwyd y cymorth yn y ffyrdd canlynol:

  • Cyflwyniadau wyneb yn wyneb ac ar-lein
  • Fideos i gefnogi Wythnos Darganfod Gyrfa
  • Presenoldeb mewn digwyddiadau ysgol

Profiad gwaith yn y Gymraeg

Mae busnes arall Natasha, Meithrinfa Wibli Wobli, hefyd yn cynnig lleoliadau profiad gwaith. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr sy’n astudio’r Gymraeg ac yn hyderus i siarad â phlant oed meithrin i ennill profiad amhrisiadwy o fyd gwaith.

Enillydd gwobr

Enillodd Kidslingo'r wobr am y ‘Busnes Bach Mwyaf Cefnogol’ yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2023.

Dywedodd Natasha, “Mae’r wobr hon yn golygu llawer, yn enwedig fel busnes bach. Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn fy mod i'n cael y cyfle i weithio gydag ysgolion a gwneud gwahaniaeth i’r myfyrwyr rwy’n cwrdd â nhw.”

Mae Yvonne Carroll, cynghorydd cyswllt busnes gyda Gyrfa Cymru, yn gweithio gyda Natasha.

Dywedodd, “Mae Natasha bob amser yn awyddus i rannu ei hangerdd am ieithoedd â dysgwyr. Mae ganddi hefyd brofiad gwerthfawr fel perchennog busnes i'w rannu. Er gwaethaf y gofynion niferus ar ei hamser, mae'n gwneud beth bynnag a all ei wneud i'n cefnogi. Mae hyn yn golygu ei bod yn enillydd teilwng o’r wobr hon.”


Explore

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.