Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Morganstone

Sarah Bishop o Morganstone yn gafael yn nhlws Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae gan Morganstone gysylltiad cryf â Gyrfa Cymru. Fel partner ers saith mlynedd, maent wedi darparu profiadau rhagorol i ddisgyblion.

Cwmni adeiladu yn Llanelli yw Morganstone. Maen nhw’n adeiladu sgubor chwaraeon dan do yn Ysgol Gyfun Cefn Hengoed yn Abertawe. Trwy’r cytundeb hwn, maent wedi darparu profiadau gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu am fyd gwaith.

Partneriaid Gwerthfawr Ysgolion

Gweithiodd Morganstone yn agos gydag Ysgol Cefn Hengoed. Crëwyd rhaglen o brofiadau a oedd yn gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 7-11. Gwnaethon nhw ddylunio’r rhaglen yn seiliedig ar adborth gan y myfyrwyr am sut a beth yr hoffent ei ddysgu.

Un o’r sesiynau a gyflwynwyd yn yr ysgol oedd “Merched yn y Byd Adeiladu.” Nod y sesiwn oedd herio stereoteipiau a deall barn merched am swyddi adeiladu.

Mae Morganstone yn Bartner Ysgol Gwerthfawr i sawl ysgol yng Ngorllewin Cymru.

Enillwyr Gwobrau

Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i Morganstone ym mis Tachwedd 2023.

Dywedodd Sarah Bishop, Cydlynydd Gweithrediadau Morganstone: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill gwobr y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol heddiw. Byddwn yn parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru ac ymgysylltu â disgyblion mewn ysgolion sydd â diddordeb mewn adeiladu.

“Uchafbwynt personol i mi fu ein digwyddiad “Merched yn y Byd Adeiladu” mewn ysgolion sydd wedi dangos i ddisgyblion benywaidd pa lwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt, ac nad amgylchedd dynion yn unig yw adeiladu.

Mae Andrea John, cynghorydd ymgysylltu busnes Gyrfa Cymru, yn gweithio’n agos gyda Morganstone. Dywedodd hi: “Mae effaith gadarnhaol Morganstone ar ysgol Cefn Hengoed yn ddiymwad. Maent yn haeddiannol iawn o’r wobr ‘Perthynas Barhaus Orau ag Ysgol’.

“Maen nhw bob amser yn mynd yr ail filltir. Maent yn cael eu hysgogi gan eu hangerdd dros hyrwyddo’r sector adeiladu, cefnogi’r gymuned, a meithrin talent y dyfodol.”


Archwilio

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.