Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Eich plentyn a phrofiad gwaith

Profiad uniongyrchol o weithle yw un o’r ffyrdd gorau o ddeall sut beth yw gweithio mewn swydd neu ddiwydiant.

Mae profiad gwaith yn digwydd o tua 14 oed.

Beth sy'n digwydd yn ystod profiad gwaith?

Yn ystod lleoliad profiad gwaith, dylai'ch plentyn:

  • Fod yn brydlon
  • Bod yn gyfrifol am drefnu eu hunain
  • Cwrdd a siarad gyda chwsmeriaid neu bobl eraill sy'n gweithio yno
  • Gwrando
  • Gofyn cwestiynau
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau
  • Bod yn rhan o dîm
  • Dysgu, a mwynhau gobeithio

Buddion profiad gwaith

Gall profiad gwaith roi’r cyfle i'ch plentyn:

  • Archwilio opsiynau gyrfa
  • Gael profiad o amgylchedd gwaith
  • Fod yn ymwybodol o ddisgwyliadau cyflogwyr
  • Gael gyfleoedd i ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith
  • Dderbyn gwybodaeth i helpu gwneud penderfyniadau pwysig
  • Gael profiadau y gallant eu defnyddio ar gyfer ymgeisio am swydd yn y dyfodol
  • Gael cyfle i ddysgu am y ffordd y mae cyflogwyr yn recriwtio
  • Gael y posibilrwydd o weithio rhan amser neu yn ystod y gwyliau

Mae lleoliad profiad gwaith yn caniatáu i'ch plentyn ddatblygu aeddfedrwydd a hyder. Mae dealltwriaeth o'r hyn mae nhw'n hoffi a ddim yn hoffi yn bwysig wrth wneud penderfyniadau gyrfa. Gall eu hysgogi i astudio, paratoi at waith ac archwilio llwybrau i rolau sydd o ddiddordeb iddynt.

Gyrfa Cymru a phrofiad gwaith

Rydym ond yn darparu cymorth profiad gwaith i grwpiau bach o ddisgyblion wedi eu targedu.

Rydym wedi cael ein comisiynu'n ddiweddar i ddarparu 500 o leoliadau wedi'u teilwra i ddisgyblion ar draws Cymru. Gan fod lleoedd yn gyfyngedig byddai angen i chi wirio gyda'ch ysgol i weld a ydynt yn rhan o'r prosiect hwn ac a allai eich plentyn fod yn rhan o'r prosiect.

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb am drefnu profiadau byd gwaith i bob disgybl. I ddysgu sut mae ysgol eich plentyn yn cydlynu profiad gwaith bydd angen i chi gysylltu â nhw, gan y bydd trefniadau pob ysgol yn wahanol.

Mae ein Cynghorwyr Cyswllt Busnes yn trefnu gweithgareddau sy'n cynnwys cyflogwyr. Darllenwch fwy am hyn yn sut mae Gyrfa Cymru yn cefnogi eich plentyn.

Sut gallwch chi gefnogi eich plentyn gyda phrofiad gwaith

Yn dibynnu ar sut mae profiad gwaith yn cael ei drefnu gan ysgol eich plentyn, efallai y byddwch am gymryd rhan neu archwilio ffyrdd o adeiladu ar hyn.

Dyma ambell beth i'w ystyried:

  • Gall profiad gwaith ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau helpu'ch plentyn i ddysgu mwy am wahanol swyddi
  • Meddyliwch am bobl yn eich rhwydwaith o deulu, ffrindiau neu gydweithwyr a allai gynnig cefnogaeth. Gallai fod yn gyfle i dreulio ychydig ddyddiau mewn gweithle, ymweliad byr neu sgwrs i gael teimlad o’r amgylchedd a’r gwaith dan sylw
  • Os nad oes gan eich plentyn unrhyw syniad am y math o le yr hoffai weithio, meddyliwch sut y gallai ymweld â gweithleoedd gwahanol. Bydd swyddfeydd, ffatrïoedd, siopau, safleoedd awyr agored a llefydd eraill yn teimlo'n wahanol iawn
  • Os oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn rôl benodol, a allwch chi ei helpu i ddod o hyd i rywun sy’n gwneud y swydd honno y gallent siarad â nhw neu eu cysgodi? 
  • Os ydych yn gwybod am gyflogwr y gallai eich plentyn ei gyrraedd, ond nad oes gennych unrhyw gysylltiadau yno, anogwch a chefnogwch eich plentyn i gysylltu â nhw. Ond peidiwch â gwneud hyn drostyn nhw. Mae dysgu anfon e-bost proffesiynol neu siarad gyda phobl ar y ffôn yn brofiadau gwerthfawr ynddynt eu hunain.

Mae llawer o lefydd bellach yn cynnig profiad gwaith rhithiol. Ni fyddai angen i'ch plentyn deithio i'r lleoliad ond byddai angen iddyn nhw ddefnyddio cyfrifiadur neu ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd i gymryd rhan.

Rydym wedi partneru gydag elusen Speakers for Schools. Mae ganddyn nhw filoedd o leoliadau profiad gwaith ar gael i bobl ifanc. Dysgwch fwy a chefnogwch eich plentyn i gofrestru ar wefan Speakers for Schools (Saesneg yn unig).

Beth bynnag y math o leoliad neu bwy sydd wedi ei gydlynu, trafodwch beth mae'ch plentyn yn gobeithio ei gael allan ohono. Helpwch nhw i baratoi er mwyn gwneud y gorau o'r profiad. Meddyliwch am gwestiynau y gallen nhw fod eisiau gofyn i'r bobl sy'n gweithio yno er mwyn dysgu cymaint ag y gallan nhw. Ers pryd maen nhw wedi bod yn gweithio yno? Sut beth yw diwrnod arferol? Pa lwybr gymeron nhw i gael y swydd honno? Beth yw'r pethau gorau a’r peth gwaethaf am eu rôl?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod ag ysgol neu leoliad dysgu eich plentyn i weld pa fesurau sydd ar waith i’w cadw’n ddiogel tra ar leoliad gwaith.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Sgiliau a Chryfderau

Dod o hyd i'ch sgiliau a'ch cryfderau a'u paru â'r sgiliau a'r cryfderau y mae cyflogwyr eisiau. Dod o hyd i ffyrdd o wella'ch sgiliau a mwy.