Gallwch helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer marchnad swyddi sy'n newid yn barhaus. Gall dod i wybod am swyddi a sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a diwydiannau sy'n tyfu wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gyrfa yn haws.
Beth yw gwybodaeth am y farchnad lafur?
Mae gwybodaeth am y farchnad lafur (GML) yn rhoi trosolwg defnyddiol o'r farchnad swyddi.
Mae GML yn rhoi ffeithiau am dueddiadau cyflogaeth heddiw ac yn y dyfodol. Gall fod yn lleol, yn rhanbarthol, neu'n genedlaethol.
Sut i ddefnyddio GML
Os yw eich plentyn mewn addysg, gellir defnyddio GML i ddatblygu eu diddordeb yn eu bywyd gwaith yn y dyfodol. Gall helpu i ddod o hyd i lwybrau gyrfa sy'n cyd-fynd â'u sgiliau a'u diddordebau. Anogwch nhw i feddwl am yr hyn mae nhw eisiau ei wneud, yn hytrach na’r hyn mae nhw eisiau bod.
Gallant hefyd ddefnyddio GML i leihau ar eu dewisiadau. Er enghraifft, wrth ystyried a ddylid parhau mewn addysg, dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi neu brentisiaeth neu ddechrau gweithio.
Wrth iddynt symud i hyfforddiant neu gyflogaeth, gallant ei ddefnyddio i nodi cyfleoedd gwaith neu sgiliau defnyddiol i'w datblygu.
Gwybodaeth | Cwestiynau i'w hystyried |
---|---|
Sut brofiad yw gwneud swydd benodol | Sut mae'ch plentyn yn teimlo am realiti'r swydd o ddydd i ddydd? Ydy'r swydd yn rhywbeth maen nhw'n teimlo'n angerddol yn ei gylch? |
Cyflog | Pa mor bwysig yw arian i'ch plentyn? Beth yw'r cyflog i rywun sydd newydd ddechrau ym myd gwaith a rhywun sydd â mwy o brofiad? Sut mae'r cyflog yn cymharu â swyddi eraill mae nhw'n eu hystyried? |
Galw | A ragwelir y bydd y galw am bobl sy'n cyflawni'r rôl hon yn cynyddu neu'n lleihau? A oes llawer o bobl yn gwneud y rôl hon yng Nghymru neu yn eich rhanbarth chi? Sut mae'ch plentyn yn teimlo am wynebu mwy o gystadleuaeth am y rôl os yw'r galw yn gostwng? |
Y cymwysterau neu'r sgiliau sydd eu hangen | Oes yna wahanol lwybrau i'r swydd hon? Oes yna unrhyw ofynion sylfaenol neu hanfodol ar gyfer y rôl? Oes gan eich plentyn y sgiliau angenrheidiol neu a all eu datblygu? Ydy'r cymwysterau gofynnol yn realistig ar gyfer eich plentyn? Pa mor hir mae'n ei gymryd i wneud y cymwysterau? Ble gellir astudio'r cymwysterau? Sut gellir ariannu'r cymwysterau? |
Diddordebau | A oes gan eich plentyn ddiddordebau sy'n berthnasol i rôl? |
Swyddi yn y rhanbarth | Oes yna lawer o swyddi fel hyn yn cael eu hysbysebu yn eich rhanbarth? Sut mae'ch plentyn yn teimlo am symud neu deithio os oes angen? Ydy gweithio o bell yn bosibilrwydd? |
Beth sy'n digwydd yn y diwydiant | Oes yna unrhyw ddatblygiadau a allai effeithio ar swyddi yn eich rhanbarth neu'r sector hwn? Er enghraifft, cwmnïau newydd sy'n ehangu neu'n agor yn eich ardal neu gwmnïau sy'n cau |
Paratoi ar gyfer y dyfodol
Mae'r farchnad lafur wastad yn newid. Bydd eich plentyn yn elwa o ddatblygu sgiliau y gall eu trosglwyddo o un swydd i'r llall gan y gallai fod angen iddo newid gyrfa yn ystod ei fywyd gwaith.
Sgiliau trosglwyddadwy yw pethau y mae pob cyflogwr yn chwilio amdanynt, fel:
- Datrys problemau
- Gwaith tîm a chydweithio
- Cyfathrebu
- Hyblygrwydd
- Parodrwydd i addasu
- Sgiliau digidol neu TG
Bydd dysgu gydol oes yn bwysig hefyd. Anogwch eich plentyn i ddeall a chofleidio hyn. Bydd diweddaru ac ymestyn gwybodaeth a sgiliau drwy gydol eu bywyd gwaith yn hanfodol.
Y Gymraeg a gyrfaoedd
Gallai meddu ar sgiliau Cymraeg arwain at fwy o gyfleoedd gwaith. Mae rhai swyddi a hysbysebir yng Nghymru yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol.
Rhaid i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Gall sgiliau Cymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi mewn sectorau fel Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, Addysg, yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Diwydiannau Creadigol.
Rhai pethau defnyddiol i'w cofio wrth ddefnyddio GML
- Nid bwriad GML yw rhoi darlun cyflawn na dweud wrth eich plentyn beth i'w wneud. Nid yw GML wedi'i deilwra i anghenion personol. Ni ddylai fod yr unig ffactor pan fydd eich plentyn yn gwneud penderfyniad
- Mae GML yn seiliedig ar dueddiadau a chyfartaleddau. Mae'r rhain yn cuddio llawer o amrywiaeth
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd graddedigion bob amser yn ennill mwy na'r rhai sydd wedi hyfforddi trwy brentisiaeth neu gymhwyster NVQ
- Gall ffactorau fel y cyflogwr a'r ardal leol effeithio ar lefelau cyflog a swyddi sydd ar gael. Gall fod amrywiaeth eang yng nghyflogau pobl sydd â'r un teitl swydd
- Weithiau gall yr un swydd fod ag enwau gwahanol. Mae’n bwysig edrych y tu hwnt i deitl y swydd a dysgu beth yw’r rôl, y sgiliau sydd eu hangen, neu’r hyn y mae cyflogwr yn chwilio amdano
- Gallai swyddi sy'n dirywio olygu bod mwy o gystadleuaeth neu ei bod ychydig yn anoddach dod o hyd i swyddi gwag. Ond gallai fod cyfleoedd o hyd
- Anogwch eich plentyn i ddysgu mwy am wahanol rolau. Gallai dewis gyrfa (neu beidio) yn seiliedig ar deitl swydd yn unig arwain at benderfyniad gwael neu gyfle a gollwyd
Dod o hyd i GML ar ein gwefan
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dysgwch fwy am wahanol lwybrau i yrfaoedd.

Dod o hyd i'ch sgiliau a'ch cryfderau a'u paru â'r sgiliau a'r cryfderau y mae cyflogwyr eisiau. Dod o hyd i ffyrdd o wella'ch sgiliau a mwy.

Cyfle i gael awgrymiadau i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa da.