Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Helpwch eich plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa

Gallwn eich cefnogi i helpu eich plentyn i wneud penderfynidau gwybodus ei hun.

Fel rhiant chi sydd â'r dylanwad mwyaf dros y penderfyniadau addysg a gyrfa y bydd eich plentyn yn eu gwneud. Mae'n naturiol i fod eisiau'r gorau iddyn nhw. Bydd angen i chi gynnig arweiniad a chefnogaeth ond rhoi rhyddid iddyn nhw wneud eu dewisiadau eu hunain.

Lle mae dechrau?

Gall teimlo bod angen i chi gael atebion ar gyfer popeth fod yn llethol. Yn enwedig gyda gwaith ac addysg yn newid yn gyson.

Mynnwch sgyrsiau rheolaidd gyda'ch plentyn i gael gwybod am bynciau y mae'n eu mwynhau, cynlluniau ar gyfer y camau nesaf, a syniadau gyrfa. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o ble y gallai fod angen cymorth arnynt.

Ymchwil yw'r allwedd ac mae gwybod lle i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy yn bwysig. Ceisiwch osgoi gwneud y gwaith i'ch plentyn, ond gweithiwch gyda nhw. Anogwch nhw i ddysgu mwy a'u helpu nhw i weithio allan beth sydd angen iddyn nhw wneud nesaf.

Cofiwch ein bod ni yma i helpu. Mae yna offer a gwybodaeth ar y wefan hon y gallwch eu defnyddio. Gallwch gysylltu â ni drwy sgwrs we fyw, dros y ffôn neu drwy e-bost. Gallwch drefnu i gwrdd â chynghorydd gyrfa gyda'ch plentyn i archwilio'r opsiynau a allai fod yn iawn iddo. 

Y farchnad lafur a swyddi'r dyfodol

Mae'r farchnad lafur yn newid drwy'r amser. Felly, sut ydych chi'n helpu'ch plentyn i archwilio'r hyn sydd ar gael?

Mae gennym wybodaeth a all eich helpu i archwilio swyddi posibl yn y dyfodol gyda'ch plentyn.

Eich taith gyrfa chi

Byddwch yn gyfarwydd iawn â’r pynciau, y llwybrau, a’r rolau yr ydych wedi'u cymryd. Ac mae’n dda rhannu a myfyrio ar eich profiad a’ch dewisiadau.

Mae pawb yn wahanol. Mae'n bwysig cofio efallai nad y llwybr a gymeroch chi yw'r dewis gorau i'ch plentyn.

Byddwch yn barod i edrych ar ddewisiadau eraill yn lle'r hyn sy'n teimlo'n gyfarwydd. Efallai bydd cyfleoedd yn bodoli nawr nad oedd ar gael i chi.

Sut mae gyrfa 'dda’ yn edrych?

Anaml y mae gyrfa yn ymwneud â phenderfynu gwneud un peth a chadw ato. Yn amlach, mae'n gyfres o ddewisiadau a rolau trwy gydol eich bywyd gwaith.

Mae gyrfa dda yn gallu golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.

Gallai gyrfa dda olygu eich bod yn:

  • Ennill digon i fod yn sefydlog yn ariannol a chefnogi'r ffordd o fyw rydych chi ei heisiau
  • Mwynhau yr hyn rydych chi'n ei wneud
  • Hoffi’r lle rydych chi'n gweithio
  • Teimlo bod eich gwaith yn bwysig
  • Bod yn hyblyg
  • Cael cyfleoedd i ddysgu a datblygu

Bydd sicrwydd ariannol eich plentyn yn gysylltiedig â’i yrfa yn y dyfodol. Ond ni ddylai faint y gallent ennill fod yr unig ffocws wrth ystyried syniadau gyrfa.

Rydyn ni'n treulio amser hir yn y gwaith, felly mae'n gwneud gwahaniaeth os ydyn ni'n hoffi'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae bod yn hapus a bodlon yn bwysig ar gyfer ansawdd bywyd. Os yw'ch plentyn yn mwynhau cwrs neu swydd, fe fydd hyn yn ei gymell. Felly, mae'n bwysig bod eu dewisiadau yn addas iddyn nhw.

Show more

Helpu'ch plentyn i wneud y penderfyniad cywir

Yn aml does dim penderfyniad cywir nac anghywir. Meddyliwch beth sy'n addas a beth sy'n bosib, gan ystyried yr amgylchiadau a'r cyfleoedd presennol. Mae bod yn ymwybodol o gyfleoedd a lle y gallent arwain yn bwysig er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.

Er bod penderfyniadau gyrfa yn bwysig, gellir newid y dewisiadau a wneir nawr. Yn aml mae yna droeon niferus ar lwybrau gyrfa. Faint o bobl sydd yn yr yrfa a gynlluniwyd ganddynt yn 16, 18 neu hyd yn oed yn eu hugeiniau?

Byddwch yn barod i'ch plentyn newid ei feddwl. Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch am archwilio beth sy'n ysgogi'r newid. Byddwch yn barod i archwilio posibiliadau.

Anogwch nhw i gael syniadau wrth gefn. Os na fyddant yn cael y graddau sydd eu hangen arnynt, a oes ganddynt gynllun arall. A oes gyrfa, cwrs, coleg neu brifysgol wahanol y byddent yn ei hystyried? Gall cynghorydd gyrfa eich helpu chi'ch dau i edrych ar opsiynau posibl.

Byddwch yn ymwybodol o faint o ddylanwad sydd gennych. Mae plant yn aml yn teimlo pwysau i ddilyn cyngor gyrfa eu rhieni. Gwnewch yn siŵr bod eich dylanwad yn gadarnhaol ac yn fuddiol.

Os oes gan eich plentyn syniadau gyrfa nad ydych yn eu hoffi, rhowch farn ond parchwch eu penderfyniad. Os ydych chi’n teimlo bod eu syniadau yn afrealistig, cysylltwch â ni a gwnewch apwyntiad i chi'ch dau gwrdd â chynghorydd gyrfa. Byddwch yn gallu archwilio syniadau ac opsiynau ymhellach gyda rhywun sy'n ddiduedd.

Show more

Efallai y byddech hefyd yn hoffi