Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Sut mae Gyrfa Cymru’n cefnogi eich plentyn

Bydd angen i'ch plentyn wneud cyfres o benderfyniadau dysgu a gyrfa. Rydym yn darparu arweiniad, hyfforddiant ac ysbrydoliaeth i'w helpu.

Beth yw gwaith cynghorydd gyrfa?

Mae Cynghorwyr Gyrfa yn helpu pobl i wneud penderfyniadau am addysg, hyfforddiant a gwaith.

Mae ein Cynghorwyr Gyrfa wedi'u hyfforddi'n broffesiynol. Mae ganddynt gymhwyster Lefel 6 mewn Canllawiau a Datblygu Gyrfa neu gymhwyster cyfatebol. Maent wedi'u cofrestru gyda'r Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI) Cofrestr y DU o Weithwyr Proffesiynol Datblygu Gyrfa.

Sut rydym ni’n cefnogi eich plentyn

Rydym am annog eich plentyn i fod yn bositif ac yn llawn cyffro am ei ddyfodol. Byddwn ni'n eu helpu i wneud y penderfyniadau gyrfa gorau ar eu cyfer er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial.

Mae gan bob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru gynghorydd gyrfa. Bydd eich plentyn yn gallu cyfarfod ag un o'n cynghorwyr yn yr ysgol uwchradd yn gyntaf.

Mae'r gefnogaeth y mae eich plentyn yn ei dderbyn wedi ei bersonoli i’w anghenion. Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio amrywiaeth o offer a gwybodaeth i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen ar eich plentyn.

Mae gan bawb fynediad i'n hoffer a'n hadnoddau digidol.

Mae rhai dysgwyr yn ei chael hi'n anodd symud i fyd addysg, hyfforddiant neu swydd pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol. Rydym yn gweithio gydag ysgolion i ddod o hyd i unigolion sy'n debygol o fod yn y sefyllfa yma gan roi cefnogaeth ychwanegol i'r bobl ifanc hyn.

Yr hyn y mae cynghorwyr yn ei gynnig

Yn ystod sesiynau grŵp ac unigol, bydd cynghorwyr yn anelu at:

  • Ehangu gorwelion
  • Datblygu sgiliau allweddol ar gyfer cynllunio gyrfa, yn y tymor byr a'r tymor hir
  • Codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi presennol a swyddi’r dyfodol
  • Cefnogi bobl ifanc i wneud penderfyniadau ar gyfer eu camau nesaf a thu hwnt

Addysg gyrfaoedd mewn ysgolion

Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer plant 3 ac 16 oed. Rhaid i bob maes gynnwys ac addysg cysylltiedig â gwaith.

Mae hyn yn golygu y bydd eich plentyn yn datblygu ei ddealltwriaeth o fyd gwaith ar draws pob pwnc.

Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn helpu'ch plentyn i gymhwyso'r dysgu hwn iddo'i hun a'i ddatblygiad gyrfa ei hun.

Staff eraill Gyrfa Cymru sy'n cefnogi ysgolion

Cydlynwyr Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith

Mae Cydlynwyr Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith yn helpu athrawon i gynnwys addysg gyrfaoedd yn eu gwersi.

Mae nhw'n darparu adnoddau ar-lein i ysgolion cynradd. Mae nhw'n gweithio gydag athrawon mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig. Mae nhw hefyd yn gweithio gyda cholegau.

Mae nhw wedi sefydlu digwyddiadau dysgu ar gyfer athrawon, llywodraethwyr, a thimau arweinyddiaeth.

Cynghorwyr Cyswllt Busnes (BEA)

Mae ein Partneriaeth Addysg Busnes yn dod ag ysgolion a chyflogwyr at ei gilydd. Mae Cynghorwyr Cyswllt Busnes yn cynllunio a chefnogi gweithgareddau i ysbrydoli pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.

Maent yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig.

Gallai gweithgareddau:

  • Gynnwys un cyflogwr neu sawl cyflogwr
  • Digwydd wyneb yn wyneb neu'n ddigidol
  • Bod â ffocws gyrfa neu sector, neu gefnogi rhan o'r cwricwlwm

Mae Cynghorwyr Cyswllt Busnes hefyd yn trefnu ffeiriau gyrfaoedd lle gall disgyblion gyfarfod a chlywed gan lawer o gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys Dewiswch eich dyfodol, Y Gymraeg yn y Gweithle a Beth Nesaf?

Mae ein digwyddiadau Wythnos Darganfod Gyrfa yn cael eu cynnal ar-lein bob blwyddyn. Mae yna ddigwyddiadau ar wahân i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Yr ysgolion sy'n gyfrifol am drefnu profiad gwaith ar gyfer eu disgyblion. Ond, rydym ni'n trefnu rhai gweithgareddau profiad gwaith.

Manylion sydd gennym am eich plentyn a pham

Mae angen i ni gadw data personol am y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw i ddarparu ein gwasanaethau.

I helpu eich plentyn i gynllunio ei ddyfodol byddwn yn cadw gwybodaeth a all gynnwys:

  • Eu henw
  • Cyfeiriad cartref
  • Pynciau mae nhw'n eu hastudio
  • Canlyniadau arholiadau
  • Profiad gwaith
  • Unrhyw syniadau a allai fod ganddynt am eu haddysg neu eu gyrfa yn y dyfodol
  • Manylion am unrhyw anghenion cymorth a allai fod ganddynt
  • Manylion cyswllt ar eu cyfer nhw a rhiant/gwarcheidwad

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu neu’n derbyn data personol amdanynt gyda neu gan eu hysgol, coleg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau eraill a allai eu helpu gyda’u cynlluniau gyrfa yn y dyfodol.

Rydym yn trin data personol gyda pharch. Dysgwch fwy yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Gallwn gysylltu â chi neu'ch plentyn drwy e-bost, neges destun neu ffôn. Bydd hyn er mwyn anfon gwybodaeth atynt sy'n berthnasol i'w haddysg a'u syniadau gyrfa.

Show more

Cymorth bob cam o’r ffordd

Dysgwch am y penderfyniadau y bydd eich plentyn yn eu gwneud, sut rydym yn helpu a sut y gallwch adeiladu ar hyn gartref.