Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Eich plentyn ym mlynyddoedd 7, 8 a 9

Bydd eich plentyn yn gwneud dewisiadau dysgu go iawn cyntaf yn yr ysgol uwchradd. Bydd deall y dewisiadau hyn yn eich helpu chi i'w cefnogi nhw.

Bydd gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith yn rhan o'r pynciau a addysgir i'ch plentyn trwy gydol addysg uwchradd.

Dewisiadau a phenderfyniadau

Blwyddyn 7

Er nad oes penderfyniadau yn cael eu gwneud ym mlwyddyn 7 mae hwn yn gyfnod cyffrous. Bydd eich plentyn yn dysgu pynciau newydd, mewn gwahanol amgylcheddau ac yn cael ei addysgu gan athrawon gwahanol.

Byddan nhw’n datblygu hoffterau ar gyfer pynciau, testunau a ffyrdd o ddysgu. Mae hwn yn amser gwych i archwilio beth mae nhw'n ei hoffi a pham.

Blynyddoedd 8 a 9

Ym mlwyddyn 8 neu 9 bydd eich plentyn yn dewis pynciau a chymwysterau i’w hastudio ym mlynyddoedd 10 ac 11. Bydd amseriad hyn a'r dewisiadau sydd ar gael i'ch plentyn yn dibynnu ar yr ysgol.

Rhaid i bob disgybl astudio pynciau craidd (Saesneg, mathemateg, Cymraeg a gwyddoniaeth), ond mae nhw hefyd yn gallu dewis rhai pynciau. Dewis pynciau sy'n addas iddyn nhw a'u galluoedd yw'r peth pwysicaf.

Bydd yr ysgol yn rhoi mwy o wybodaeth i chi a’ch plentyn am y dewisiadau cwrs a phryd mae angen gwneud penderfyniadau.

Gallai'r wybodaeth gynnwys:

  • Manylion am sut y caiff y cwrs ei asesu - gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs
  • Amlinelliad o'r pynciau a addysgir ar gyfer pob pwnc
  • Mathau o gymwysterau - er enghraifft TGAU a chyrsiau galwedigaethol
  • Y ffordd y caiff y cymwysterau hynny eu graddio

Dylai'r wybodaeth eich helpu i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniad gwybodus am yr hyn yr hoffai ei astudio.

Bydd y dewisiadau yn wahanol ar gyfer pob ysgol. Ewch i noson opsiynau'r ysgol a gofynnwch i'r athrawon os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen mwy o fanylion arnoch chi.

Mae gan opsiynau pwnc blwyddyn 8 a 9 awgrymiadau y gall eich plentyn eu defnyddio i'w helpu nhw i wneud penderfyniad.

Pwysigrwydd pynciau craidd

Bydd annog eich plentyn i wneud y gorau yn y pynciau hyn, yn enwedig Cymraeg/Saesneg a mathemateg, yn ei helpu yn y dyfodol.

Mae llawer o gyrsiau a chyflogwyr yn gofyn am isafswm graddau penodol yn y pynciau hyn. Felly, graddau yn y pynciau hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf ar yr hyn y gall eich plentyn ei wneud yn y dyfodol.

Bydd rhai cyrsiau hefyd yn gofyn am leiafswm graddau mewn gwyddoniaeth TGAU hefyd.

Show more

Pwysigrwydd pynciau craidd

Bydd annog eich plentyn i wneud ei orau yn y pynciau hyn, yn enwedig Cymraeg/Saesneg a mathemateg, yn ei helpu yn y dyfodol.

Mae llawer o gyrsiau a chyflogwyr yn gofyn am isafswm graddau penodol yn y pynciau hyn. Felly, graddau yn y pynciau hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf ar yr hyn y gall eich plentyn ei wneud yn y dyfodol.

Bydd rhai cyrsiau hefyd yn gofyn am leiafswm graddau mewn gwyddoniaeth TGAU hefyd.

Show more

Ffyrdd rydym ni’n cefnogi eich plentyn

Cynghorwyr gyrfa

Bydd eich plentyn yn cael gwybodaeth gan gynghorydd gyrfa cyn iddyn nhw ddewis eu pynciau opsiwn. Mae'n debygol y byddan nhw'n cael eu gweld mewn grŵp.

Gallai'r sesiynau hyn gynnwys:

  • Gwybodaeth am wahanol swyddi
  • Cipolwg ar rai diwydiannau
  • Sgiliau yn y dyfodol y bydd galw amdanynt
  • Gweithdai rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd
  • Offer a thechnegau i reoli penderfyniadau gyrfa

Os bydd eich plentyn yn gofyn am gael gweld y cynghorydd gyrfa bydd yn cael cynnig sesiwn arweiniad a hyfforddiant byr. Dysgwch fwy am sut i helpu'ch plentyn i gael y gorau o gyfarfod â chynghorydd.

Os oes gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol a bod ganddo Gynllun Datblygu Unigol gall yr ysgol ofyn i’r ymgynghorydd fynychu’r adolygiad blynyddol. Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi chi a'ch plentyn gyda'u camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol.

Offer ac adnoddau ar-lein

Anogwch eich plentyn i wneud defnydd o'n safle. Gallech chi ddefnyddio'r offer a'r cwisiau gyda'ch gilydd. Mae archwilio syniadau gyrfa gyda'ch plentyn yn dweud mwy wrthych chi am bob un o'r rhain.

Digwyddiadau cyflogwr

Rydym yn cynnig digwyddiadau cyflogwyr i bob ysgol uwchradd ac arbennig i gefnogi'r cwricwlwm. Gallai gweithgareddau gynnwys un cyflogwr neu sawl cyflogwr. Efallai y byddan nhw'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu'n ddigidol.

Bydd y gweithgareddau a'r grwpiau blwyddyn sy'n cymryd rhan yn amrywio o ysgol i ysgol.

Os ydych chi'n angerddol am eich swydd neu'ch diwydiant beth am ddysgu am ein Partneriaeth Busnes Addysg? Gallech archwilio ffyrdd o rannu eich profiad a’ch brwdfrydedd gyda disgyblion i ysbrydoli eu syniadau gyrfa.

Amser i siarad

Mae sgyrsiau teuluol yn meithrin dealltwriaeth gyffredin o syniadau gyrfa eich plentyn. Mae hyn yn rhan bwysig o archwilio opsiynau, myfyrio a gwneud dewisiadau. Gall sgyrsiau rheolaidd gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a phenderfyniadau gyrfa.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Opsiynau pwnc blwyddyn 8 a 9

Help i ddewis pynciau ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11. Dod o hyd i awgrymiadau a gwybodaeth i'ch helpu chi i wneud dewisiadau gyrfa.