Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Opsiynau pwnc blwyddyn 9

Os ydych ar fin dewis eich pynciau TGAU ar gyfer blwyddyn 10 ac 11, gallwn eich helpu.

Gall y pynciau rydych chi'n eu dewis ddylanwadu ar fel:

  • Y graddau y byddwch chi'n eu cael
  • Y chweched dosbarth neu'r coleg y byddwch chi'n dewis
  • Pynciau, cyrsiau a chymwysterau fyddwch chi'n gallu eu dewis nesaf neu nes ymlaen yn y brifysgol
  • Prentisiaethau y byddwch chi'n gallu gwneud cais amdanyn nhw
  • Swyddi fyddwch chi'n gallu ei wneud yn y dyfodol

Cwestiynau a allai fod gennych

Sut ydw i'n penderfynu ar y pynciau i'w hastudio?

Mae gwneud penderfynidau da y tro cyntaf yn gwneud pethau'n haws.

Rydych chi'n gwneud penderfyniadau mawr felly mae'n bwysig pwyllo. Dewiswch bynciau oherwydd:

  • Eich bod yn dda ynddyn nhw
  • Rydych chi'n eu mwynhau
  • Mae'n gweddu i'r ffordd rydych chi'n dysgu orau
  • Mae'n addas i'r ffordd rydych chi'n dysgu orau
  • Mae angen nhw neu mae nhw'n ddefnyddiol ar gyfer eich syniad gyrfa

Ond os ydych chi'n newid eich meddwl ar ôl i chi ddechrau pwnc, weithiau mae'n bosibl newid cyrsiau yn dibynnu ar eich amserlen.

Adnoddau i'ch helpu i benderfynnu

Dyma rai o’n hadnoddau i’ch helpu i ddechrau meddwl am y pynciau gorau i’w hastudio:

  • Os ydych chi wir yn mwynhau pwnc penodol, defnyddiwch Pynciau i weld swyddi y mae'n bosib eu cael
  • Os oes gyrfa gyda chi mewn golwg, defnyddiwn Gwybodaeth am Swyddi i weld pa bynciau allai fod yn ddefnyddiol
  • Ddim yn siŵr pa bynciau neu swyddi sy'n addas i chi? Rhowch gynnig ar y Cwis Buzz neu Cwis Paru Gyrfa i ddechrau chwilio am syniadau
Pa bynciau sy'n orfodol?

Mae pynciau gorfodol yn golygu bod yn rhaid i chi eu dewis nhw oherwydd eu bod yn meithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi yn y dyfodol, fel llythrennedd a rhifedd.

Rhaid i chi ddewis:

  • Cymraeg Ail Iaith (ysgolion cyfrwng Saesneg)
  • Cymraeg Iaith Gyntaf (ysgolion cyfrwng Cymraeg)
  • Gwyddoniaeth
  • Mathemateg
  • Saesneg

Mae'r pynciau hyn fel arfer yn cael eu hastudio fel cymwysterau TGAU, ond gellir eu hastudio nhw hefyd ar lefelau eraill fel Lefel Mynediad. Gwybod mwy am gymwysterau.

Mae gan rai ysgolion bynciau gorfodol eraill, er enghraifft Addysg Grefyddol, Addysg Gorfforol, Bagloriaeth Cymru, a TGCh.

Saesneg a Mathemateg

Dyma'r pynciau sydd eu hangen fwyaf ar gyfer cyrsiau a chyflogwyr. Gwnewch eich gorau mewn Saesneg a Mathemateg i wella eich cyfle chi o gael swydd neu le ar gwrs yn nes ymlaen.

Gwyddoniaeth

Bydd gwyddoniaeth yn gymorth i chi ddeall y byd o'ch cwmpas, yn enwedig wrth i dechnoleg ddatblygu, a bydd yn rhoi sgiliau i chi fel datrys problemau y bydd eu hangen ym mha bynnag swydd y cewch chi.

Mae angen Gwyddoniaeth ar gyfer llawer o gyrsiau a swyddi. Gwiriwch pa bynciau y gallai fod eu hangen arnoch chi ar gyfer eich syniadau gyrfa yn Gwybodaeth am Swyddi.

Y Gymraeg

Gall sgiliau’r Gymraeg roi mantais i chi yn y gweithle yng Nghymru, yn enwedig mewn swyddi sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel addysgu. Gwiriwch pa ddiwydiannau a swyddi sydd angen sgiliau’r Gymraeg yn Gwybodaeth am Swyddi. Dysgwch pam mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi Sgiliau’r Gymraeg yn y gweithle.

Beth yw’r pynciau dewisol?

Rhain yw’r pynciau y gallwch chi eu dewis. Bydd eich dewis o bynciau yn dibynnu ar eich ysgol. Bydd pob ysgol yn cynnig amrywiaeth ychydig yn wahanol o bynciau a chyrsiau.

Bydd eich ysgol yn rhoi rhestr o bynciau i chi eu dewis. Gall y rhain fod yn gymysgedd o TGAU a chymwysterau galwedigaethol Lefel 1 a 2.

Dyma rai o'r pynciau y gallech chi eu dewis:

  • Celf
  • Cyfrifiadureg
  • Drama
  • Bwyd a Maeth
  • Cyfrifiadureg
  • Ffrangeg
  • Daearyddiaeth
  • Hanes
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Cerdd
  • Addysg Gorfforol
  • Astudiaethay Crefyddol
  • Adeiladwaith
  • Peirianneg
  • Lletygarwch ac Arlwyo

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Fel rhan o'r cwricwlwm newydd i Gymru, mae pob pwnc yn gysylltiedig â 6 maes. Gelwir y rhain yn Feysydd Dysgu a Phrofiad.

Y nod yw eich helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol, i'ch paratoi i ddysgu a bod yn unigolion hyderus. Dyma’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  1. Y Dyniaethau
  2. Y Celfyddydau Mynegiannol
  3. Iechyd a Lles
  4. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  5. Mathemateg a Rhifedd
  6. Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Prif awgrymiadau

Pethau y gallwch eu gwneud i wneud penderfyniadau cadarnhaol a hyderus:

Archwilio

Dylech:

  • Gael gwybodaeth am y pynciau y gallwch ei ddewis ar wefan neu lyfryn opsiynau eich ysgol
  • Mynychu unrhyw nosweithiau opsiynau bydd eich ysgol yn ei gynnal, er mwyn siarad â'ch athrawon i wybod mwy

Gwrando ac ystyried

Dylech:

  • Wrando ar gyngor gan athrawon, rhieni a chynghorydd gyrfa
  • Ystyried bob opsiwn. Cadwch feddwl agored gan y gallai fod dewisiadau ar gael nad oeddech chi wedi meddwl amdanyn nhw
  • Gwnewch restr o'r pynciau sydd o'r diddordeb mwyaf i chi. Meddylwch am fanteision ac anfanteision pob pwnc, fely y sgiliau y gallech chi eu dysgu, sut ydych chi'n dysgu orau, a'r ymrwymiad sydd ei angen

Cofiwch

Gwnewch eich penderfyniad eich hun. Peidiwch â chael eich dylanwadu gan eraill. Chi yw'r un a fydd yn gwneud y gwersi, y gwaith cartref, ac unrhyw waith cwrs, asesiadau ac arholiadau. Felly, mae'n bwysig mai chi yw'r un sy'n gwneud y penderfyniad a'ch bod chi'n dewis yr hyn sy'n iawn i chi.

Peidiwch â dewis pwnc am fod eich ffrind yn dewis y pwnc hynny. Efallai y byddwch chi'n well yn dilyn pwnc gwahanol ac yn ei fwynhau yn fwy. Ac efallai na fyddwch hyd yn oed yn yr un dosbarth. Mae'n bwysig bod y pwnc yn iawn i chi.

Gofyn cwestiynau

Dylech ofyn i'ch athrawon:

  • Am y math o waith sydd angen i chi wneud, ac os oes llawer o ysgrifennu neu a yw'n fwy ymarferol?
  • Oes arholiad ar y diwedd, gwaith cwrs yn unig neu gyfuniad o'r ddau?
  • Oes elfen ymarferol neu elfen o berfformio? beth yw canran y marciau am hyn?

Archwilio eich syniadau gyrfa


Gwyliwch y fideos


Pa fanylion sydd gennym ni a pham?

Er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau, mae'n angenrheidiol i ni gadw data personol am y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw.

I'ch helpu chi i gynllunio eich dyfodol byddwn ni’n cadw gwybodaeth a all gynnwys eich enw, cyfeiriad cartref, pynciau rydych chi’n eu hastudio, canlyniadau arholiadau, profiad gwaith, unrhyw syniadau sydd gennych chi am eich addysg neu eich gyrfa yn y dyfodol, manylion unrhyw anghenion cymorth sydd gennych chi a manylion cyswllt i chi a'ch rhiant / gwarcheidwad.

Efallai y byddwn ni’n rhannu / derbyn data personol amdanoch chi gyda / gan eich ysgol, colegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau eraill a allai fod o gymorth i chi gyda'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol.

Rydym ni’n trin data personol gyda pharch. Dysgwch fwy yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Show more

Cysylltu

Gallwn eich cefnogi a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi wrth i chi ddewis eich pynciau. Os hoffech chi gymorth, siaradwch â'ch cynghorydd gyrfa yn yr ysgol neu gallwch gysylltu â ni.

Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi mewn amryw ffyrdd gwahanol i gynnig cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys yn bersonol, dros y ffôn, drwy e-bost a thrwy neges destun. Os nad ydych chi am i ni gysylltu â chi, rhowch wybod i'ch cynghorydd gyrfa yn yr ysgol neu gallwch gysylltu â ni i roi gwybod i ni.

Archwilio ymhellach

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth


Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.

Posteri pwnc

Amrywiaeth o bosteri i ddysgu am yrfaoedd a sgiliau sy'n gysylltiedig â gwahanol bynciau.

Gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.