Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Eich plentyn yn yr ysgol gynradd

Gallai plant yn yr ysgol gynradd ymddangos yn rhy ifanc i ddechrau meddwl am yrfaoedd. Ond mae nhw'n dechrau datblygu syniadau am y byd o'u cwmpas a'r swyddi y gallen nhw eu gwneud o oedran cynnar.

Dewisiadau a phenderfyniadau

Does dim syndod nad oes unrhyw benderfyniadau gyrfa i'w gwneud yn yr ysgol gynradd. Ond bydd plant yn dechrau datblygu eu dealltwriaeth o fyd gwaith.

Gallai gwaith gyrfaoedd yn yr ysgol gynradd gynnwys:

  • Deall pam mae pobl yn gweithio
  • Helpu plant i weld bod llawer o swyddi gwahanol
  • Eu hannog i fod yn gyffrous am y dyfodol a'i bosibiliadau
  • Herio stereoteipiau a'u helpu i wybod bod cyfleoedd yno i bawb
  • Dechrau dysgu a deall y geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i siarad am swyddi, gwaith a sgiliau
  • Dechrau adnabod yr hyn y maent yn hoffi a ddim yn hoffi gwneud
  • Sylweddoli bod hobïau a diddordebau yn help i ddatblygu sgiliau defnyddiol
  • Eu helpu i ddeall y bydd gwneud eu gorau yn rhoi mwy o ddewisiadau iddynt yn y dyfodol

Ffyrdd rydym yn cefnogi eich plentyn

Mae gennym adnoddau i athrawon ysgolion cynradd eu defnyddio gyda disgyblion.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Mae ein cydlynwyr gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith yn cynnal digwyddiadau hyfforddi ar gyfer athrawon cynradd. Mae'r rhain yn eu helpu i gynnwys gyrfaoedd yn eu gwersi.

Mae gennym awgrymiadau i helpu ysgolion cynradd i gael cyflogwyr i mewn i'r ystafell ddosbarth. Os ydych chi’n caru eich swydd, beth am gynnig ymweld ag ysgol eich plentyn i siarad â’r disgyblion?

Amser i siarad

Bydd sgyrsiau cynnar am waith a syniadau gyrfa yn helpu’ch plentyn. Maent yn fodd i ddatblygu geirfa ddefnyddiol a hyder. Mae'n rhoi digon o amser i'ch plentyn fyfyrio ar ei syniadau a'i ddewisiadau – ac i newid eu meddwl. Ac mae'n ei gwneud hi'n haws cael sgyrsiau ystyrlon yn nes ymlaen pan fydd yn rhaid i'ch plentyn wneud penderfyniad.

Rhowch gynnig ar y syniad yma...

Mae ein fideos 'Sôn am Swyddi' yn gasgliad o fideos 2 i 3 munud ar YouTube sy’n dangos y profiad o wneud swyddi gwahanol. Gallech chi ddefnyddio'r rhain fel man cychwyn ar gyfer sgwrs.

Gofynnwch i'ch plentyn:

  • Pa un hoffen nhw wylio gyntaf?
  • Pam dewis yr un yna?
  • Beth mae nhw'n feddwl bod swydd yn ei gynnwys?
  • Ydyn nhw'n meddwl y bydden nhw'n hoffi gwneud y gwaith hwnnw? Pam? Pam ddim?

Gwyliwch y fideo gyda'ch gilydd a sgwrsiwch am yr hyn rydych chi wedi'i weld.

Nawr fe allech chi archwilio:

  • A oedd y swydd fel yr oeddent yn ei ddisgwyl?
  • Beth yn eu barn nhw oedd y peth gorau am y swydd?
  • Beth oedd y peth gwaethaf am y swydd?
  • Ydyn nhw'n teimlo'n wahanol ac a fydden nhw'n hoffi gwneud y swydd honno nawr?
  • Hoffen nhw wylio un arall?
  • Hoffen nhw ddysgu mwy am swydd benodol? Efallai un sydd heb ei gynnwys yn y fideos.

Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi i ddysgu mwy am dros 700 o swyddi gwahanol.