Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cynllun Trosglwyddo

Os oes gan eich plentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, byddwch wedi derbyn gwahoddiad bob blwyddyn i gyfarfod adolygu yn yr ysgol er mwyn trafod ei gynnydd.

Beth yw adolygiadau/cyfarfodydd cynllunio trosglwyddo?

Os oes gan eich plentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu os oes ganddynt Gynllun Datblygu Unigol byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod adolygu bob blwyddyn. Mae’r adolygiad yn edrych ar y ddogfen i weld a yw anghenion eich plentyn yn cael eu cyrraedd. Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, mae’r cyfarfodydd hefyd yn canolbwyntio ar eu dyfodol ar ôl ysgol – beth allai fod â diddordeb ynddo, pa gymorth y gallai fod ei angen arnynt a beth yw'r opsiynau.

O dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) newydd, un o flaenoriaethau allweddol Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) ysgolion yw cysylltu ag arbenigwyr gyrfaoedd i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn cael cyngor gyrfaoedd priodol.

Mae cynghorwyr Gyrfa Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol i'w helpu i feddwl am yr hyn y maent am ei wneud pan fyddant yn gadael yr ysgol ac yn y dyfodol tymor hir. Gall cynghorwyr hefyd siarad â rhieni i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael a helpu'ch plentyn i wneud y penderfyniadau gwybodus sy'n iawn iddyn nhw.

Mae’n bosibl y gwahoddir gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’ch plentyn, megis y Cynghorydd Gyrfa, i’r cyfarfodydd adolygu i roi gwybodaeth a chyngor. Dylai adolygiadau ganolbwyntio ar yr unigolyn ac ar anghenion a dymuniadau eich plentyn. Mae eich cyfraniad yn y cyfarfodydd hyn yn bwysig felly mae'n ddefnyddiol paratoi'r hyn yr hoffech ei ddweud a'r hyn yr hoffech ei ofyn.
 

Beth alla’i ei wneud i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd cynllun trosglwyddo?

Siaradwch gyda’ch plentyn am sut mae pethau’n mynd yn yr ysgol ac am ei syniadau ar gyfer y dyfodol.  Meddyliwch am y cwestiynau y gallech fod eisiau eu gofyn. Dyma rai pynciau i'ch helpu ddechrau arni:

Ysgol
  • Pa gymwysterau fydd gan fy mhlentyn pan fydd yn gadael yr ysgol?
  • A allant aros ymlaen ar ôl Blwyddyn 11?
  • Sut mae’r ysgol yn paratoi pobl ifanc ar gyfer pan fyddan nhw’n gadael?
  • A fydd unrhyw gyfleoedd profiad gwaith cyn iddyn nhw adael yr ysgol?
  • Pa gymorth mae fy mhlentyn yn ei gael yn yr ysgol?
Opsiynau yn y dyfodol
  • Nid wyf yn gwybod digon am opsiynau ar gyfer y dyfodol.  Sut alla’i gael mwy o wybodaeth am hyn?
  • Mae fy mhlentyn yn cael cymorth yn yr ysgol. Beth sy’n digwydd pan fydd yn gadael ac yn mynd i’r coleg?
  • Pa fath o gyrsiau mae’r coleg lleol yn eu cynnig?
  • Beth yw Twf Swyddi Cymru+/hyfforddiant?
  • Sut mae cael prentisiaeth, ac ydy pobl ifanc yn gallu cael cymorth ychwanegol ar gyfer y rhain?
  • Sawl diwrnod yr wythnos y mae’r ddarpariaeth coleg/Twf Swyddi Cymru+/gwasanaethau cymdeithasol ar gael?
  • Mae fy mhlentyn eisiau cael swydd ond mae angen cymorth arno. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer hyn?
  • Am ba hyd y gall person ifanc aros yn y coleg neu gael hyfforddiant?
  • Beth sy’n digwydd i unrhyw fudd-daliadau mae’n eu derbyn pan fydd yn symud ymlaen o’r ysgol?
  • Pa gymorth ymarferol fyddwn ni’n ei gael i wneud yn siŵr bod y cyfnod o adael yr ysgol yn llwyddiannus?
Darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Pa fath o weithgareddau allai fy mhlentyn eu gwneud gyda’r gwasanaethau cymdeithasol?
  • Sawl diwrnod yr wythnos y bydd hyn ar gael?
  • Gyda pha grwpiau oedran y bydd yn cael ei roi?
  • Beth sy’n digwydd os bydd gan fy mhlentyn faterion iechyd y mae angen eu cymorth gyda nhw yn ystod y dydd? 
  • Sut mae cael mwy o wybodaeth am fyw â chymorth neu fyw’n annibynnol?
  • A oes unrhyw fudd-daliadau neu grantiau ar gael?
  • Mae gan fy mab neu ferch weithiwr cymdeithasol yn awr. A fydd ganddo/ganddi weithiwr cymdeithasol pan fyddant yn 18 oed?
  • A fydd ein gweithiwr cymdeithasol yn newid pan fydd fy mhlentyn yn 18 oed?
  • Nid oes gan fy mhlentyn weithiwr cymdeithasol, ond rwy’n teimlo bod angen un arnom. Beth allwn ni ei wneud?
Darpariaeth iechyd
  • Sut bydd fy mhlentyn yn cael mynediad at gymorth iechyd pan fydd yn 18 oed?
  • Mae fy mhlentyn yn cael therapïau yn yr ysgol, beth fydd yn digwydd pan fydd yn gadael?
Trafnidiaeth
  • Pan fydd fy mhlentyn yn gadael yr ysgol, sut y bydd yn cyrraedd y coleg/gwaith/darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol?
  • A oes unrhyw gymorth ar gyfer hyfforddiant teithio i helpu fy mhlentyn i ddysgu sut i deithio’n annibynnol?
  • A oes unrhyw gymorth o ran trafnidiaeth a sut mae ei drefnu?
  • A oes bws i’r coleg a phwy sy’n talu am hynny?

Os ydych chi dal yn ansicr ac os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni am ragor o help a chymorth.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi