Bydd eich cefnogaeth yn bwysig er mwyn helpu’ch plentyn i benderfynu beth i'w wneud ar ôl y coleg. Mae gennym wybodaeth i archwilio'r gwahanol opsiynau a sut y gallwn helpu gyda phob un ohonynt.
Sut y gall Gyrfa Cymru helpu
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yno i'ch cefnogi chi a'ch plentyn. Gallan nhw wneud hyn drwy:
Cynnig cyfweliad gyrfaoedd
Rydym yn cynnig apwyntiadau digidol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr coleg. Gall eich plentyn drefnu apwyntiad iddyn nhw eu hunain neu gallwch drefnu apwyntiad ar eu rhan.
Os yw'ch plentyn ar gwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol neu os nad yw apwyntiad digidol yn addas, gallwn gynnig cyfweliad personol iddyn nhw.
Gall ein Cynghorwyr Gyrfa siarad â'ch plentyn am yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Gallwn gynnig cefnogaeth ymarferol fel:
- Dod o hyd i waith
- Cwblhau ceisiadau am swyddi
- Siarad â sefydliadau ar ran eich plentyn
Mynychu cyfarfodydd cynllunio pontio
Gall Cynghorwyr Gyrfa fynychu cyfarfodydd cynllunio pontio ynghylch Cynllun Datblygu Unigol eich plentyn neu eu Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Gallan nhw amlinellu opsiynau a chefnogi eich plentyn gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad ar Adolygiad Cynllun Datblygu Unigol.
Mynychu digwyddiadau coleg
Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn gweld ein Cynghorwyr Gyrfa mewn digwyddiadau coleg. Gallan nhw siarad ag un o'r Cynghorwyr a dysgu mwy am sut y gall Gyrfa Cymru eu helpu.
Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?
Mynychu cyfarfodydd adolygu
Edrych ar rai cwestiynau defnyddiol y gallech eu gofyn mewn cyfarfod adolygu Cynllun Datblygu Unigol.
Mae mynd i'r cyfarfodydd hyn yn golygu y byddwch:
- Yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a'r ddarpariaeth y mae eich plentyn yn ei dderbyn ar hyn o bryd
- Yn ymwybodol o gynnydd eich plentyn yn y coleg ac a oes unrhyw bryderon
- Yn gallu cefnogi'ch plentyn yn llawn gyda'u camau nesaf
Archwilio gyrfaoedd ac opsiynau
Ein prif gynghorion:
- Gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol. Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i ddysgu mwy am y farchnad swyddi, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a thueddiadau cyflogaeth
- Anogwch eich plentyn i feddwl am yr holl opsiynau sydd ar gael. Edrychwch ar Gwybod beth yw eich opsiynau gyda'ch plentyn
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud defnydd llawn o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Edrychwch ar Pwy sy'n gallu fy helpu gyda'ch plentyn. Anogwch nhw i drefnu apwyntiad i siarad a Chynghorydd Gyrfa. Os ydyn nhw'n nerfus am ddod i gwrdd â Chynghorydd Gyrfa, gofynnwch iddyn nhw edrych ar Beth yw cyfweliad gyrfa? a gwylio’r fideo ar y dudalen
- Dangoswch sianel YouTube Fy Nyfodol iddyn nhw er mwyn gwylio fideos am wahanol yrfaoedd ac opsiynau
- Anogwch nhw i ddatblygu eu sgiliau drwy addysg, hobïau, profiad gwaith a swyddi rhan amser
Gall ein hoffer eich helpu chi'ch dau i ddechrau meddwl am syniadau gyrfa. Ewch i:
Opsiynau ar ôl coleg
Edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael i'ch plentyn pan fyddan nhw’n gorffen yn y coleg.
Cyflogaeth a chymorth chyflogaeth
Cyflogaeth
Efallai y bydd eich plentyn yn teimlo'n barod i fynd i'r gwaith heb unrhyw gymorth. Mae gan Chwilio am waith wybodaeth am ddewis swyddi, sut i ddod o hyd i swyddi, ysgrifennu cais am swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliad.
Cofrestrwch ar gyfer ein Bwletin Swydd i weld swyddi gwag byw ledled Cymru.
Cymorth cyflogaeth
Mae nifer o asiantaethau cymorth cyflogaeth ar draws Cymru. Maen nhw’n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i ddod o hyd i waith ac i gadw’r gwaith.
Efallai y byddan nhw’n cynnig cymorth gyda cheisiadau, gan gefnogi person ifanc i ddysgu sut i deithio i'r gwaith a bydd rhai hefyd yn darparu anogaeth. Mae anogwyr swyddi yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc yn eu helpu nhw i ymgyfarwyddo â'r tasgau.
Yr asiantaethau cymorth cyflogaeth yng Nghymru yw:
Twf Swyddi Cymru+
Pan fydd eich plentyn yn gadael y coleg gallen nhw ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ac os ydyn nhw’n:
- 16 i 19 oed
- Â diddordeb mewn gweithio ond ddim yn barod i fynd i fyd gwaith eto
- Angen profiad gwaith
Mae hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau a chymwysterau sy’n seiliedig ar waith mewn canolfan hyfforddi neu gyda chyflogwr lleol. Efallai y byddan nhw hefyd yn ennill profiad gwaith gwerthfawr ac efallai hyd yn oed swydd â thâl mewn rhai achosion.
Mae tair lefel wahanol o hyfforddiant ar agor i'ch plentyn ar Twf Swyddi Cymru+:
- Ymgysylltu – mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i'ch plentyn ddatblygu eu sgiliau, gweithio ar eu mathemateg a'u Saesneg ac adeiladu eu hyder nhw a'u sgiliau cyfathrebu. Tra byddan nhw’n ymgysylltu, gallan nhw hefyd roi cynnig ar gyrsiau blasu galwedigaethol ac efallai y cawn nhw brofiad o'r gweithle gyda chyflogwr
- Datblygu – os yw'ch plentyn yn barod am leoliad gwaith ac yn gwybod pa fath o waith yr hoffen nhw ei wneud gallan nhw ddechrau gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar Lefel 1
- Cyflogaeth- os yw'ch plentyn yn barod am waith, gall gael help i wneud cais am leoliad swydd â thâl gyda Twf Swyddi Cymru+
Gall pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael cymorth i'w galluogi i gwblhau eu hyfforddiant. Gall ein Cynghorydd Gyrfa drafod yr anghenion hyn gyda'ch plentyn a, gyda'u caniatâd nhw, rhannu'r rhain gyda'r darparwr. Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol gallan nhw rannu hyn gyda'r darparwr.
I gael gwybod mwy am Twf Swyddi Cymru+ a'r gwahanol lefelau a'r cymorth sydd ar gael, edrychwch ar Byddwch yn hyfforddai.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yn ffordd o gael profiad gwaith, cael cyflog ac ennill cymwysterau. Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau o Brentisiaeth Sylfaen lle mae pobl yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Dysgwch fwy am Brentisiaethau. Archwiliwch yr opsiwn hwn gyda'ch plentyn drwy edrych ar Byddwch yn brentis.
Dod o hyd i brentisiaethau ar Chwilio am Brentisiaethau.
Prifysgol
Os yw’ch plentyn yn astudio Safon Uwch neu gymhwyster lefel 3 cyfatebol, efallai eu bod nhw’n ystyried prifysgol. Dysgwch fwy am Mynd i'r brifysgol
Hyd y rhan fwyaf o gyrsiau gradd yw 3 i 4 blynedd. I bobl ifanc ag ADY mae cymorth ychwanegol ar gael. Bydd gan bob prifysgol staff yn y gwasanaethau myfyrwyr a all drafod a threfnu cymorth.
Gall myfyrwyr ag anableddau wneud cais am gymorth ariannol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a Cyllid ar gyfer prifysgol a Chyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau.
Gwirfoddoli
Os yw person ifanc eisiau gweithio ond ddim yn barod ar gyfer cyflogaeth â thâl eto, fe allen nhw wirfoddoli. Gall hyn helpu i ddatblygu sgiliau a hyder yn ogystal â darparu profiad gwaith defnyddiol.
Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn pob math o brosiectau a gweithgareddau. Gall faint o amser y mae person yn ei dreulio yn gwirfoddoli amrywio o wirfoddoli unwaith i ymrwymiad rheolaidd bob wythnos.
Gallwch ddysgu mwy am wirfoddoli ar Gwirfoddoli, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Volunteering Matters Cymru.
Darpariaeth Gwasanaeth Dydd
I rai pobl ifanc efallai mai gwasanaethau dydd fydd yr opsiwn mwyaf priodol. Darperir gwasanaethau dydd gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol neu sefydliadau gwirfoddol. Dysgwch fwy am Cael cynllun diwrnod.
Mae yna nifer o opsiynau, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn yr ardal leol ond fel arfer gall y rhain gynnwys:
- Sgiliau byw bob dydd
- Gweithgareddau hamdden ac adloniant
- Hyfforddiant Galwedigaethol
- Prosiectau cymunedol a gwirfoddol
- Cysylltiadau coleg
- Profiad gwaith
Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn asesu anghenion eich plentyn ac yn trafod yr opsiynau sydd ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio'r opsiwn hwn, byddai angen i chi drafod hyn gyda'ch gweithiwr cymdeithasol neu gysylltu â'u hadran gwasanaethau cymdeithasol.
Efallai i chi hefyd hoffi
Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad
Dewch i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan Gyrfa Cymru i'ch helpu chi a'ch plentyn i gynllunio ar gyfer y dyfodol.