Os ydych yn dechrau swydd newydd mae gennych hawliau yn eich gweithle newydd. Y rheswm am hyn yw i wneud yn siŵr bod pawb yn cael ei drin yn deg.
Yr oriau rydych yn eu gweithio
Mae yna reolau am sawl awr yr wythnos y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael gweithio:
Ni ddylech weithio dim mwy na 48 awr yr wythnos (40 awr os ydych o dan 18 oed)
Mae hawl gennych chi i gael un diwrnod i ffwrdd bob wythnos
Fe ddylech gael egwyl o 20 munud os ydych yn gweithio am 6 awr neu fwy
Os ydych o dan 18 oed ac yn gweithio, mae gennych hawl i gael egwyl o 30 munud os ydych yn gweithio dros 4.5 awr.
Yr arian y byddwch chi’n ei gael am weithio – Isafswm cyflog
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn cael swm penodol o arian am bob awr maen nhw’n gweithio. Yr enw ar hyn yw cyflog.
Isafswm cyflog yw'r cyflog isaf yr awr y gellir talu gweithiwr. Darllenwch fwy am yr isafswm cyflog
Cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith - gwyliau
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn gallu cymryd 4 wythnos o wyliau mewn blwyddyn. Rydych yn dal i gael eich talu am yr amser yma
Mewn rhai swyddi, bydd eich rheolwr yn dweud wrthych pryd y gallwch gymryd amser i ffwrdd. Mae rhai ffatrïoedd yn cau dros y Nadolig felly mae’r gweithwyr yn cymryd hyn fel eu gwyliau
Diogelwch yn y gwaith
Mae’n ddyletswydd ar gyflogwr i wneud yn siŵr bod y gweithle yn ddiogel. Mae’n gwneud hyn drwy wneud yn siŵr:
Bod ganddynt rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf a hefo blwch cymorth cyntaf yn y gwaith
Bod gan y staff y dillad cywir neu’r offer cywir os ydyn nhw’n defnyddio peiriannau all fod yn beryglus
Bod y staff yn gwybod sut i gario pethau trwm yn gywir
Bod y staff yn gwybod y rheolau diogelwch tân a sut i roi gwybod am ddamwain yn y gwaith
Cael eich trin yn annheg yn y gwaith - gwahaniaethu
Mae’n rhaid i gyflogwyr wneud yn siŵr bod eu holl staff yn cael eu trin yn deg. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn eich trin yn annheg, dylech ddweud wrth eich cyflogwr.
Mae gwahaniaethu yn golygu bod rhywun yn cael ei drin yn wahanol i bobl eraill oherwydd pethau fel oedran, lliw, rhyw neu anabledd
Os oes angen, dylai eich cyflogwr newid rhannau o’ch swydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu gwneud
Undeb llafur
Mae undeb llafur yn grŵp sy'n cynnwys gweithwyr sy'n helpu ac yn cefnogi ei gilydd.
Dysga fwy am undebau llafur ar y wefan Trades Union Congress (TUC) (Saesneg yn unig).
Beth mae undeb llafur yn ei wneud?
Gall undeb llafur:
- Gael gwell cyflog i weithwyr
- Dy helpu di i gael gwell amodau gwaith. Pethau fel mwy o wyliau neu dâl gwell pan fyddi di'n sâl
- Dy helpu di a dy gyflogwr i newid y rhannau o dy swydd yr wyt ti’n eu gweld yn anodd, er mwyn i ti allu gwneud dy swydd
- Gweithio gyda dy gyflogwr i wneud dy weithle yn fwy diogel i ti
- Dy gefnogi os wyt ti'n meddwl dy fod yn cael dy drin yn annheg
Gall dy undeb hefyd gynnig hyfforddiant yn y gwaith. Dysga fwy am y math o hyfforddiant sydd ar gael ar wefan TUC Cymru.
Os wyt ti’n ymuno ag undeb llafur, gallan nhw dy gefnogi di yn y gwaith. Rwyt ti’n gallu ymuno ag undeb, ond does dim rhaid i ti. Os nad wyt ti’n ymuno, mae gennyt ti dy hawliau yn y gwaith o hyd.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dewch i wybod pa gymorth sydd ar gael i chi yn y gwaith.
Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.