Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Pa gymorth sydd ar gael i mi mewn gwaith?

Efallai y gallech gael cymorth tra byddwch mewn gwaith. Os yw cyflogwr yn gwybod bod angen cymorth arnoch chi, gall eich helpu.

Gall Mynediad at Waith ac Asiantaethau Cyflogaeth helpu.

Gallent helpu gyda:

Graffeg o glustffonau a gliniadur

Offer neu ddillad

Efallai y bydd angen dillad arbennig neu offer arbennig arnoch i’ch helpu i wneud eich gwaith.

Efallai y gallwch wneud cais am arian drwy Mynediad at Waith. Cewch wybod mwy am Mynediad at Waith ar wefan gov.uk.


Graffeg o gloc a dogfen yn cael ei arwyddo

Gwneud newidiadau i'ch helpu

Gall wneud newidiadau i’ch helpu chi, er enghraifft, yr oriau rydych yn ei weithio a'r gwaith rydych chi'n ei wneud.

 


Graffeg o berson ifanc a chyflogwr hefo eiconau swigod siarad

Cymorth personol

Efallai y bydd angen help rhywun arnoch i ddysgu sut i wneud eich gwaith.

Efallai i chi gael help gan Asiantaethau sy'n cynnig Cefnogaeth Cyflogaeth. Fe allent eich helpu i ddod o hyd i waith ac i ddysgu'r sgiliau rydych eu hangen i setlo mewn i swydd.


Graffeg o dacsi a cadw mi gei

Arian

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu cael arian i helpu i dalu eich cyflog.

Efallai y byddwch yn gallu cael arian i helpu i dalu am eich trafnidiaeth i’r gwaith.


Dolenni defnyddiol

(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi