Er mwyn eich helpu i ddewis swydd sy'n iawn i chi, mae angen i chi ddechrau meddwl am y math o le yr hoffech chi weithio ynddo.
Hoffech chi i'ch gweithle fod:

Tu mewn

Tu allan

Yn swnllyd

Yn dawel
Hoffech chi weithio:

Ar ben eich hun

Gyda phobl eraill

Yn eistedd lawr

Tra'n symud ogwmpas
Hoffech chi weithio:

Oriau swyddfa - mae hyn fel arfer yn golygu rhwng 9yb - 5yp

Gwaith shifft - gall hyn olygu gweithio yn ystod y nos yn lle yn ystod y dydd

Llawn amser - gweithio hyd at 48 awr yr wythnos

Rhan amser - gweithio am ran o'r diwrnod neu ran o'r wythnos
A fyddech chi eisiau:

Gwisgo gwisg swyddogol

Defnyddio cyfrifiadur

Gweithio gyda phlant

Cyfarfod â phobl newydd bob dydd
Gwnewch ein cwisiau
Gwybod mwy am wahanol swyddi
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod sut i wneud cais am swyddi a'r wybodaeth sydd angen i'w gynnwys mewn ffurflen gais.

Bydd gwybod pa sgiliau sydd gennyt yn dy helpu yn y dyfodol. Edrych ar rai sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu.