Gall archfarchnadoedd fod yn llefydd prysur iawn. Mae nhw angen llawer o bobl i wneud swyddi gwahanol.
Os ydych yn gweithio mewn archfarchnad rydych yn gweithio yn y diwydiant manwerthu.
Mae dros 160,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant manwerthu yng Nghymru"
Ffynhonnell: LightcastTM, 2023
Swyddi y gallech ddod o hyd iddynt mewn archfarchnad
Dyma rai o'r swyddi y gallech ddod o hyd iddynt mewn archfarchnad:
Mae yna swyddi eraill sy'n helpu i redeg archfarchnad ond heb eu lleoli mewn siop. Mae'r swyddi hyn i'w cael fel arfer mewn swyddfeydd, neu ym mhencadlys yr archfarchnadoedd. Swyddi fel:
- Arbenigydd Data Mawr - yn helpu'r archfarchnad i ddeall y cwsmer yn well. Meddyliwch sut mae cerdyn clwb mewn siop yn gweithio, mae'n cofio beth mae'r cwsmer yn ei brynu ac yna’n cynnig bargeinion iddynt
- Rheolydd Dosbarthu - yn helpu i sicrhau bod eitemau fel bwyd yn cael eu dosbarthu ar amser
- Datblygydd Meddalwedd - yn ysgrifennu cod i ddweud wrth gyfrifiadur beth i'w wneud. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio llawer o dechnoleg i helpu i redeg y siop, meddyliwch am y desgiau talu hunanwasanaeth, y cyfleuster sganio wrth i chi siopa a siopa ar-lein
Sgiliau i weithio mewn archfarchnad
Mae angen bod yn dda am wneud y canlynol:
- Siarad a gwrando ar bobl
- Gweithio gyda phobl eraill
- Gweithio mewn lle prysur ac weithiau swnllyd
- Dilyn cyfarwyddiadau
Rhinweddau i weithio mewn archfarchnad
Mae angen i chi fod yn berson sy'n:
- Mwynhau gweithio gyda phobl eraill
- Hoffi gweithio mewn lle prysur
Dod o hyd i swydd mewn archfarchnad
Ewch i:
- Cyflogwyr yn recriwtio nawr o dan 'Manwerthu' i weld rhestr o gyflogwyr
- Gwefannau archfarchnadoedd. Mae ganddynt adran 'gyrfaoedd' neu 'swyddi'
- Cyflogwr manwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid a gwerthu ar Cyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau