Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio mewn gwisg swyddogol

Efallai bydd llawer o bobl yn gwisgo gwisg swyddogol pan fyddant yn gweithio.

Pam fod gan rai swyddi wisg swyddogol?

Mae gwisgo gwisg swyddogol:

  • Yn dweud wrth bobl eraill i bwy rydych chi'n gweithio
  • Yn gwneud i bobl deimlo'n rhan o dîm
  • Yn ffordd dda o hysbysebu cwmni
  • Weithiau'n gallu helpu pobl gyda'r swydd mae nhw'n ei wneud. Er enghraifft, gall Milwr yn y Fyddin wisgo cuddliw ar gyfer ei swydd i helpu i'w hamddiffyn

Cogydd yn sefyll, yn gwisgo gwisg gwyn cogydd

Dau berson yn gweithio ar do yn gwisgo dillad dioglewch


Y Lluoedd Arfog

Mae pobl sy'n gweithio yn y Lluoedd Arfog yn gwisgo lifrai. Lluoedd Arfog y DU yw:

  • Y Fyddin Brydeinig
  • Yr Awyrlu Brenhinol (RAF)
  • Y Llynges Frenhinol

Oeddech chi'n gwybod? Mae tua 194,000 o bobl yn gweithio yn y Lluoedd Arfog yn y DU"

Ffynhonnell: Lightcast, 2022

Beth am gymryd golwg ar rai o'r swyddi yn y Lluoedd Arfog:

Y Fyddin Brydeinig

Mae pob swydd yn y Fyddin yn un o'r meysydd hyn:

  • Ymladd
  • Peirianneg
  • Adnoddau Dynol, Cyllid a Chymorth
  • Cudd-wybodaeth, Cyfathrebu a Technoleg Gwybodaeth
  • Meddygol
  • Logisteg a Chymorth
  • Cerddoriaeth

Bydd y swyddi isod yn mynd â chi i wefan Army Job Roles (dolen Saesneg yn unig) ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y swyddi hyn a swyddi eraill.

Dyma rai o'r rolau swyddi sydd yn y Fyddin:

  • Milwr
  • Cogydd
  • Gardiau
  • Marchfilwr
  • Person sy’n Arbenigo mewn Cyfathrebu Hedfan
  • Person sy’n Arbenigo mewn Technegol
  • Peiriannydd Cerbydau
  • Milwr yn yr Heddlu
  • Peilot Swyddog
  • Nyrs yn y Fyddin
  • Technegydd Meddygol Brwydro
  • Cerddor yn y Fyddin
  • Peiriannydd Seiber
  • Saer Coed a Saer Dodrefn
  • Person sy'n Plymio
  • Ffitiwr Cyffredinol
  • Swyddog Adnoddau Dynol
Yr Awyrlu Brenhinol (RAF)

Bydd y swyddi a restrir isod yn mynd â chi i wefan Royal Air Force Roles (dolen Saesneg yn unig) gan roi mwy o wybodaeth i chi am y swyddi hyn a swyddi eraill.

Dyma rai o’r rolau swydd yn yr Awyrlu Brenhinol:

  • Technegydd Awyrennau
  • Person sy’n Arbenigo mewn Cyfathrebu Seiberofod
  • Gynnydd Catrawd yn yr Awyrlu Brenhinol
  • Peilot
  • Nyrs
  • Swyddog Nyrsio
  • Cerddor
  • Swyddog Meddygol
  • Cogydd
  • Cyflenwydd
  • Trydanydd
  • Rheolydd Traffig Awyr ac Arfau
  • Dadansoddydd Cudd-wybodaeth
  • Person sy’n Gyrru
  • Ffotograffydd
  • Cymorth Personél
  • Diffoddydd tân
  • Heddlu'r Awyrlu Brenhinol
  • Technegydd cerbydau
  • Swyddog Peiriannydd
Y Llynges Frenhinol

Bydd y swyddi a restrir isod yn mynd â chi i wefan Royal Navy Role Finder (dolen Saesneg yn unig) gan roi mwy o wybodaeth i chi am y swyddi hyn a swyddi eraill.

Dyma rai o'r rolau swyddi yn y Llynges Frenhinol:

  • Swyddog Meddygol
  • Nyrs yn y Llynges
  • Ysgrifennwr AD Logistegydd
  • Logistegydd y Gadwyn Gyflenwi
  • Cogydd
  • Stiward
  • Gwasanaethau Arlwyo
  • Swyddog Peirianneg Awyr
  • Technegydd Peirianneg
  • Peirianneg Arfau
  • Swyddog Peirianneg Morwrol
  • Rheolydd Awyrennau
  • Swyddog Rheoli Traffig Awyr
  • Cerddor yn y Môr-filwyr Brenhinol
  • Swyddog Dec
  • Person syn Arbenigo mewn Rhyfela Mwynglawdd
  • Heddlu'r Llynges Frenhinol
  • Person sy’n arbenigo yn y Môr

 

Dod o hyd i swydd

Edrychwch ar Gyflogwyr sy'n recriwtio nawr i weld pwy sy'n hysbysebu swyddi mewn gwahanol sectorau.


Rhowch gynnig ar y Cwis Pwy Ydw i