Mae ysbyty yn lle prysur gyda llawer o bethau'n digwydd. Mewn ysbyty mae angen llawer o bobl sy'n gwneud swyddi gwahanol.
Os ydych chi'n gweithio mewn ysbyty rydych chi'n gweithio yn y diwydiant gofal iechyd.
Oeddech chi'n gwybod? Mae dros 130,000 o bobl yng Nghymru'n gweithio mewn swyddi yn ymwneud â iechyd'
Ffynhonnell: LightcastTM, 2022
Swyddi y gallwch ddod o hyd iddyn nhw mewn ysbyty
Dim ond rhai o’r swyddi sydd ar gael mewn ysbyty yw’r rhain:
Meddygol
Cynnal a Chadw
Ewch i NHS health careers (dolen Saesneg yn unig) i gael mwy o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael yn y sector gofal iechyd.
Sgiliau i weithio mewn ysbyty
Mae angen i chi fod yn dda yn:
- Siarad a gwrando ar bobl
- Gweithio gydag eraill
- Defnyddio'r cyfrifiadur
- Yn gyfeillgar ac yn gallu dangos caredigrwydd at eraill
Rhinweddau i weithio mewn ysbyty
Mae angen i chi fod yn berson sydd:
- Hefo diddordeb mewn eraill
- Yn mwynhau helpu
- Yn gyfeillgar ac yn gallu dangos caredigrwydd at eraill
Dod o hyd i swydd mewn ysbyty
Ewch i:
- Swyddi'r GIG i weld y gwahanol swyddi sy'n cael eu hysbysebu
- Cyflogwyr yn recriwtio nawr i weld pwy sy'n hysbysebu swyddi yn y sector 'Iechyd' a 'Gofal