Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio mewn ysgol

Mae ysgol yn lle prysur gyda llawer o bethau'n digwydd. Mewn ysgol mae angen llawer o bobl sy'n gwneud swyddi gwahanol.

Os ydych chi'n gweithio mewn ysgol rydych chi'n gweithio yn y diwydiant addysg.

Oeddech chi'n gwybod? Mae tua 113,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant addysg yng Nghymru"

Ffynhonnell: LightcastTM, 2022

Swyddi y gallwch ddod o hyd iddyn nhw mewn ysgol

Dim ond rhai o’r swyddi sydd ar gael mewn ysgol yw’r rhain:

Athro yn cwrcwd wrth y ddesg i siarad â dysgwyr ifanc
Gofalydd gyda throli glanhau ar goridor gyda dau aelod o staff addysgu
Derbynnydd tu ôl i gownter gwydr yn siarad â phlant ifanc
Cynorthwyddion arlwyo yn gweithio mewn ffreutur ysgol yn gwasanaethu disgyblion
Person ifanc yn sgwrsio hefo Cynghorydd Gyrfa

Ewch i Addysgwyr Cymru i ddysgu mwy am rai o'r swyddi mewn ysgolion.

Sgiliau i weithio mewn ysgol

Mae angen i chi fod yn dda yn:

  • Siarad a gwrando ar blant, pobl ifanc ac oedolion
  • Gweithio gydag eraill
  • Meddwl am syniadau newydd a syniadau gwahanol
  • Cynllunio'ch gwaith
  • Defnyddio cyfrifiaduron
  • Gweithio mewn lle prysur ac weithiau swnllyd

Rhinweddau i weithio mewn ysgol

Mae angen i chi fod yn berson sydd:

  • Yn mwynhau helpu
  •  diddordeb mewn eraill
  • Eisiau helpu dysgwyr i wneud eu gorau
  • Ddim yn cynhyrfu pan fydd pethau'n brysur ac yn swnllyd

Dod o hyd i swydd mewn ysgol

Ewch i:


Edrychwch ar y gwahanol swyddi sydd ar gael

Rhowch gynnig ar y Cwis Pwy Ydwi i