Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio ym myd llywodraeth leol

Mae 22 o lywodraethau lleol yng Nghymru. Efallai y byddwch chi hefyd yn eu galw'n gynghorau. Mae llawer o bobl yn gweithio ym myd llywodraeth leol yn gwneud swyddi gwahanol.

Os ydych chi’n gweithio mewn llywodraeth leol rydych chi’n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus

Oeddech chi'n gwybod? Mae tua 105,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus"

Ffynhonnell: LightcastTM, 2022

Mwy o wybodaeth am wahanol swyddi yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus.

Beth mae llywodraeth leol yn ei wneud?

Mae nhw'n gyfrifol am wasanaethau pwysig sydd eu hangen arnom, fel:

  • Ysgolion
  • Tai
  • Cynllunio
  • Casglu gwastraff
  • Gwasanaethau cymdeithasol

Gallwch ddod o hyd i’ch awdurdod lleol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Swyddi y gallech ddod o hyd iddynt ym myd llywodraeth leol

Dim ond rhai o’r swyddi ym maes llywodraeth leol yw’r rhain:

Sgiliau i weithio ym maes llywodraeth leol

Mae angen i chi fod yn dda yn:

  • Siarad a gwrando ar bobl
  • Gweithio gyda phobl eraill
  • Defnyddio'r cyfrifiadur
  • Gweithio mewn lle prysur ac weithiau swnllyd

Rhinweddau i weithio ym maes llywodraeth leol

Mae angen i chi fod yn berson sy’n:

  • Mwynhau helpu eraill
  • Eisiau gwneud gwahaniaeth i'r ardal leol

Dod o hyd i swydd ym maes llywodraeth leol

Ewch i:


Edrychwch ar y gwahanol swyddi sydd ar gael

Rhowch gynnig ar y Cwis Pwy Ydwi i