Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer rhaglen hyfforddi Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 2023/24 bellach wedi cau.  Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am raglen 2024/25, neu os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â ni Timcwricwlwm@gyrfacymru.llyw.cymru

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymhwyser achrededig Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i gynorthwyo ymarferwyr i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.

Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cyflwyno sawl newid, ac un ohonynt fydd gweithrediad addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith fel thema trawsgwricwlaidd. Bydd angen i leoliadau roi sylw priodol i’r canllawiau statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol addysg yn gallu gwireddu ac ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.

Mewn ymateb i hyn, mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymhwyster achrededig Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i ymarferwyr ledled Cymru. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu hyfforddiant i gefnogi cynllunio, dylunio ac arwain ar yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i ardystio gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

Mae’r dystysgrif mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn cefnogi ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth sy’n cynnwys:

  • Addysgeg – cynllunio rhaglen addysg yrfaoedd sy’n cefnogi pob dysgwr i gyflawni ei ganlyniadau gorau
  • Arweinyddiaeth – mae’r arweinydd gyrfaoedd yn grymuso cydweithwyr i datblygu gweledigaeth cyfrannol ar gyfer gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru
  • Dysgu Proffesiynol – datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn tanategu ddatblygiad addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Arloesi – sicrhau bod addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cael yr effaith fwyaf a gall fod yn flaengar
  • Cydweithio – gall gweithwyr proffesiynol gweithio’n agos gydag ymarferwyr eraill, yn eu hysgolion eu hunain ac mewn ysgolion eraill, i ddatblygu gwybodaeth ac arferion gorau

Sut y cyflawnir y cymhwyster?

Cyflwynir y cymhwyster yn ddigidol dros dri diwrnod a hanner, wedi'i wasgaru ar draws y flwyddyn academaidd. Yn ogystal, ceir cyflwyniad awr o hyd (wedi'i gyflwyno'n ddigidol). Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Lefel 6 canlynol:

  • Arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfaoedd mewn sefydliad
  • Gwella gwaith datblygu gyrfaoedd mewn yn barhaus mewn sefydliad
  • Cynllunio a dylunio rhaglenni dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.

Gweler manylion pellach y tair uned o’r Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygiad Gyrfa Lefel 6 gan y corff dyfarnu Oxford Cambridge and RSA (OCR). (Dolen Saesneg)

Adborth gan garfanau blaenorol

Gwrandewch ar rai o’r carfanau blaenorol yn siarad am eu profiadau o’r rhaglen Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn y ffilm fer hon ar Hwb.

Mae’r cwrs wedi rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau gyrfaoedd arbenigol angenrheidiol i mi ddatblygu cwricwlwm gyrfaoedd cynhwysfawr a deniadol yn fy ysgol. Mae’r wybodaeth a’r arweiniad a ddarperir drwy gydol y cwrs wedi galluogi ein hysgol i lunio gweledigaeth glir ar gyfer datblygu addysg gyrfaoedd ar draws pob ystod oedran a gallu. Rhoddodd y mewnwelediad gwerthfawr i’r cysylltiadau rhwng y Cwricwlwm i Gymru ac addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith a drafodwyd ac a archwiliwyd ar y cwrs yr hyder i mi gyflwyno gwybodaeth yn hyderus i’r UDA a’r athrawon dosbarth.'

Jeff Powell, Ysgol Bryn Elian

Roedd astudio ar gyfer y Dystysgrif Arweinyddiaeth Gyrfa Lefel 6 wedi rhoi cipolwg newydd i ni ar sut y gellir defnyddio addysg gyrfaoedd i herio ac arwain dysgwyr. Pan fyddwn yn ystyried agwedd gyfannol y Cwricwlwm i Gymru, a’r ffocws ar baratoi unigolion ar gyfer dysgu gydol oes, mae’r cwrs hwn wedi bod yn allweddol wrth ddarparu arweiniad ar sut i ddatblygu rhaglen gyrfaoedd gydlynol sy’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu adnabod y sgiliau y byddant yn eu hangen yn llwybrau’r dyfodol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd iddynt wella’r sgiliau hyn.’

Kate Loram, Ysgol Cas-gwent

O safbwynt anghenion addysgol arbennig, mae'r dystysgrif arweinyddiaeth Gyrfa wedi fy ngalluogi i ailfeddwl am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sut mae'n cael ei gyflwyno yn ein lleoliad. Mae wedi fy annog i feddwl y tu allan i'r bocs a chyflwyno'r thema drawsbynciol trwy dasgau cyfoethog effeithiol yn seiliedig ar ddysgwyr unigol a'u dymuniadau, eu hanghenion a'u dyheadau. Mae datblygu model y gellir ei addasu ar gyfer pob athro a disgybl wedi golygu bod modd addysgu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o 3-19 oed.'

Ceryn Thomas, Ysgol Greenfield School

Fel Arweinydd Cynnydd a Lles CA5, mae’r cwrs arweinyddiaeth gyrfaoedd wedi rhoi cyfle i fi graffu ar y ddarpariaeth am brofiad cysylltiedig â gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ôl 16 yn fy sefydliad. Rydw i eisoes wedi cael cyfle i lunio cynllun fugeilio i gefnogi myfyrwyr wrth rannu gwybodaeth a’u helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu llwybrau ôl 18. Mae’r cwrs wedi rhoi cyfle i fi ddatblygu adnoddau sydd yn rhan o fy swydd bresennol, yn ogystal â chyfle i drafod a rhannu syniadau gydag arweinwyr eraill ar hyd a lled Cymru. Mae’r adnoddau a’r gefnogaeth wedi bod drwy gyfrwng y Gymraeg, a gobeithiaf wrth i’r cwrs fynd o nerth i nerth bydd y diwrnodau hyfforddi hefyd ar gael yn y Gymraeg i ymgeiswyr y dyfodol.'

Non Lewis, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd