Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Cyhoeddi'r rhester fer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr gydag eicon seren

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda ni.

Rydym yn dathlu’r gwaith y mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi ysbrydoliaeth a chymhelliant i bobl ifanc. Mae gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith yn helpu pobl ifanc i gysylltu'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol â’r byd gwaith.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2025

Y categorïau

Gwobr Cyflawniad Eithriadol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • BAE Systems a Babcock
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Hafren Dyfrdwy
  • Welcome Break

Dylai fod y cyflogwr buddugol:

  • Wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ac wedi cefnogi ysgolion a phobl ifanc
  • Yn croesawu datblygiadau a mentrau newydd
  • Yn dathlu eu gwaith gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion yng Nghymru ac annog busnesau eraill i weithio gyda Gyrfa Cymru i gefnogi ysgolion a dysgwyr
Show more

Newydd-ddyfodiad Gorau

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Morlais
  • Nidec Control Techniques Ltd
  • Safran Seats
  • Wall-Lag

Roedd yr enwebiadau'n dangos sut mae'r busnes yn:

  • Dechrau gweithio gyda Gyrfa Cymru i gynorthwyo ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf
  • Cymryd camau pendant i hyrwyddo’r berthynas rhwng Gyrfa Cymru ag un ysgol neu fwy
  • Cefnogi un gweithgaredd neu fwy
Show more

Y Berthynas Barhaus Orau gydag Ysgol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • BBC Studios and BBC Cymru Wales
  • CGI
  • Cyngor Sir Penfro
  • G.O.S Tool & Engineering Services Ltd
  • Taylor Wimpey

Roedd yr enwebiadau’n dangos tystiolaeth o berthynas gref ag un ysgol benodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a allai gynnwys:

  • Cefnogi nifer o weithgareddau yn yr ysgol
  • Cefnogi ystod o weithgareddau yn yr ysgol
  • Perthynas weithio â staff yr ysgol
  • Hyrwyddo perthynas â’r ysgol
Show more

Cyfraniad Personol Eithriadol

Y rhestr fer yw:

  • Catrin Leader, Bute Energy
  • Gwenno Angharad Williams, Cyngor Gwynedd
  • Jessica Davies, DVLA
  • Kirsty Phillips, Wall-Lag
  • Seb York, Cardiff Community Housing Association

Roedd yr enwebiadau'n dangos sut roedd y person hwn wedi gwneud un neu fwy o'r canlynol:

  • Dangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi gweithgareddau mewn ysgolion
  • Dangos parodrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd
  • Annog eraill o’u sefydliad i gymryd rhan
  • Cymryd camau pendant i hyrwyddo eu perthynas â Gyrfa Cymru ac ysgol neu ysgolion
Show more

Y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Deutsch Autos Ltd
  • Fix Auto Group
  • Viktor’s Autocare & MOT Centre
  • Westward Energy Services 
  • Ysgol Gynradd Llwynypia 

Roedd yr enwebiadau’n dangos sut roedd y busnes wedi gwneud un neu fwy o’r canlynol:

  • Cynnig profiad gwaith wedi'i deilwra i un neu fwy o bobl ifanc
  • Wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran cefnogi person ifanc sy'n wynebu heriau neu rwystrau i ymgysylltu
  • Roedd ganddynt raglen o weithgareddau a ystyriwyd yn ofalus ac a gynlluniwyd i gefnogi'r dysgwr yn ei leoliad
Show more

Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Barclays
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Canolfan S4C Yr Egin
  • Cyngor Gwynedd
  • Gofalwn Cymru

Gallai'r enillydd fod yn gyflogwr sydd:

  • Yn cydnabod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle
  • Yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle
  • Yn cefnogi darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Show more

Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Kier
  • Merthyr Valleys Homes
  • Morlais
  • RHA
  • Viridor

Gallai'r enillydd fod yn gyflogwr sydd:

  • Yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen mewn Cymru sero net
  • Yn darparu cyfleoedd arloesol i bobl ifanc ddysgu am yrfaoedd sy'n gysylltiedig â'r agenda sero net
  • Yn dathlu eu gwaith gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion yng Nghymru ac yn annog busnesau eraill i weithio gyda Gyrfa Cymru i gefnogi ysgolion a dysgwyr i ymgorffori Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith cysylltiedig â sero net yn y cwricwlwm
Show more

Seremoni wobrwyo 2025

Bydd y seremoni wobrwyo yn gyfle i ni ddathlu'r holl fusnesau sydd ar y rhestr fer cyn cyhoeddi'r enillwyr. Bydd Sian Lloyd, newyddiadurydd, yn cyhoeddi'r enillwyr yn fyw yn ein seremoni wobrwyo ar 15 Ionawr yn Y Senedd, Bae Caerdydd.

Noddir y gwobrau eleni gan Jeremy Miles AS ac fe’u cynhelir yn Neuadd y Senedd, Bae Caerdydd rhwng 12pm a 2:30pm.


Enillwyr y gorffennol

Stori Cottage Coppicing

Darganfyddwch sut helpodd Lisa i feithrin hyder a sgiliau person ifanc mewn gwaith coed gyda phrofiad gwaith amhrisiadwy yn ei gweithdy.

Stori Colette Affaya

Dewch i wybod sut yr arweiniodd angerdd Colette dros ysbrydoli pobl ifanc at Wobr Partner Gwerthfawr am Gyfraniad Personol Eithriadol.

Stori Morganstone

Mae gan Morganstone gysylltiad cryf â Gyrfa Cymru. Fel partner ers saith mlynedd, maent wedi darparu profiadau rhagorol i ddisgyblion.

Stori Castell Howell

Dysgwch fwy am sut mae Bwydydd Castell Howell wedi bod yn cefnogi dysgwyr i ddod i wybod am fyd gwaith.

Stori JCB

Mae JCB yn un o’r tri gwneuthurwr offer adeiladu gorau yn y byd. Mae’r cwmni wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes adeiladu.

Stori Kidslingo

Dysgwch sut mae perchennog y busnes bach hwn yn helpu i ddod â phynciau yn fyw i ddysgwyr.

Stori EDF Renewables y DU

Darganfyddwch sut mae enillydd y wobr hon yn annog dysgwyr i feddwl am eu rolau yn y dyfodol a diogelu'r blaned.