Mae gennym dîm ymroddedig o Gynghorwyr Gyrfa sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae gennym offer ac adnoddau hefyd y gallwch eu defnyddio gyda'ch plentyn.
Ffyrdd rydym ni’n cefnogi eich plentyn
Gall ein cynghorwyr proffesiynol cymwys helpu’ch plentyn i archwilio opsiynau a syniadau gyrfa a chynnig cymorth gyda dewis cyrsiau, hyfforddiant, ac ariannu astudiaethau. Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd ac yn gyfrinachol.
Gallwn helpu gyda:
- Chymhelliant - helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer newid a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl
- Gwneud penderfyniadau - cefnogi eich plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus
- Hunanymwybyddiaeth – datblygu ymwybyddiaeth eich plentyn o'i ddiddordebau, ei anghenion a'i alluoedd
- Ymwybyddiaeth o gyfleoedd – datblygu gwybodaeth eich plentyn am y farchnad lafur
- Ceisiadau – helpu eich plentyn i ddod o hyd i gyfleoedd ac i wneud ceisiadau
- Gwydnwch – cymorth i reoli rhwystrau ac ymdrin â thrawsnewidiadau
Efallai y bydd eich plentyn yn barod i gymryd y cam nesaf o ddysgu gartref i goleg neu gyflogaeth. Rydym wedi cynhyrchu rhai canllawiau i'ch helpu chi i'w cefnogi nhw.
E-bostiwch ni os hoffech i ni anfon y canllawiau pdf a gwybodaeth bellach am sut y gallwn eich cefnogi
Mae'r canllawiau sydd gennym yn cynnwys:
- Opsiynau ôl-16
- Profiad gwaith
- Gwirfoddoli
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, ffôn neu sgwrs ar-lein am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad i chi a'ch plentyn weld cynghorydd.
Mae gennym nifer o ganolfannau a lleoliadau allgymorth hefyd y gallwch ymweld â nhw i gwrdd â chynghorydd.
Amser i Siarad
Gwnewch amser i siarad â'ch plentyn am ei syniadau gyrfa. Mae hyn yn rhan bwysig o archwilio opsiynau a gwneud dewisiadau. Maent hefyd yn fodd i ddatblygu geirfa ddefnyddiol a hyder.
Gallwch gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a phenderfyniadau gyrfa pan fyddwch yn siarad â nhw'n rheolaidd am eu syniadau gyrfa. Mae sgyrsiau yn rhoi digon o amser i’ch plentyn fyfyrio ar ei syniadau a’i ddewisiadau – ac i newid ei feddwl. Maen nhw'n ei gwneud hi'n haws cael sgyrsiau ystyrlon yn nes ymlaen pan fydd yn rhaid i'ch plentyn wneud penderfyniad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch sut a pham i baratoi ar gyfer cyfarfod gyda chynghorydd gyrfa.
Archwilio'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Dod o hyd i ffyrdd o adnabod a datblygu eich sgiliau a'ch cryfderau.
Dysgwch sut i ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad swyddi i gefnogi syniadau a phenderfyniadau gyrfa eich plentyn ar wahanol gyfnodau.