Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Y cwricwlwm a chymwysterau

Bydd yr wybodaeth a'r dolenni isod yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth cwricwlwm a chymwysterau yng Nghymru.

Y cwricwlwm

Mae’r cwricwlwm yn nodi’r hyn y bydd eich plentyn yn cael ei addysgu yn yr ysgol. Mae yna Gwricwlwm i Gymru newydd i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Mae'r cwricwlwm newydd yn dechrau o fis Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn blwyddyn academaidd 2026/27.

Mae Canllaw i’r cwricwlwm newydd i Gymru i rieni ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru.

Cymwysterau

Mae cymwysterau yn amrywio o sgiliau hanfodol a Lefel Mynediad hyd at Lefel 8.

Mae TGAU yn Lefel 1 a 2 yn dibynnu ar y radd a enillir. Mae doethuriaeth yn enghraifft o gymhwyster Lefel 8. Mwy o wybodaeth am gymwysterau.

Yn dibynnu ar y cymhwyster, gellir ei wneud mewn:

  • Ysgol
  • Coleg
  • Prifysgol
  • Hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith
  • Prentisiaeth

Gall y cymwysterau y gall eich plentyn eu hastudio ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn lleol. Mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at ddysgu arall ar-lein.

Mae gan rai cyrsiau ofynion mynediad. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'ch plentyn gwblhau cymhwyster arall cyn y bydd modd iddynt ddechrau. Er enghraifft, efallai y bydd angen TGAU Saesneg neu fathemateg graddau C neu’n uwch.

Dolenni Defnyddiol


Efallai y byddech hefyd yn hoffi