Bydd yr wybodaeth a'r dolenni isod yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth cwricwlwm a chymwysterau yng Nghymru.
Y cwricwlwm
Mae’r cwricwlwm yn nodi’r hyn y bydd eich plentyn yn cael ei addysgu yn yr ysgol. Mae yna Gwricwlwm i Gymru newydd i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Dechreuwyd defnyddio'r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn blwyddyn academaidd 2026/27.
Mae Canllaw i’r cwricwlwm newydd i Gymru i rieni ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Cymwysterau
Mae cymwysterau yn amrywio o sgiliau hanfodol a Lefel Mynediad hyd at Lefel 8.
Mae TGAU yn Lefel 1 a 2 yn dibynnu ar y radd a enillir. Mae doethuriaeth yn enghraifft o gymhwyster Lefel 8. Mwy o wybodaeth am gymwysterau.
Yn dibynnu ar y cymhwyster, gellir ei wneud mewn:
- Ysgol
- Coleg
- Prifysgol
- Hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith
- Prentisiaeth
Gall y cymwysterau y gall eich plentyn eu hastudio ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn lleol. Mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at ddysgu arall ar-lein.
Mae gan rai cyrsiau ofynion mynediad. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'ch plentyn gwblhau cymhwyster arall cyn y bydd modd iddynt ddechrau. Er enghraifft, efallai y bydd angen TGAU Saesneg neu fathemateg graddau C neu’n uwch.
Dolenni Defnyddiol
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch beth yw gwaith cynghorydd gyrfa, y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n cefnogi'ch plentyn a'r manylion sydd gennym amdanynt.
Awgrymiadau i helpu paratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau a phenderfyniadau eich plentyn am beth i'w wneud nesaf.
Dysgwch fwy am wahanol lwybrau i yrfaoedd.