Lefelau prentisiaethau
Mae 4 math gwahanol o brentisiaethau. Dysgwch beth yw’r lefelau a beth mae lefelau'r brentisiaeth yn ei olygu.
Prentisiaeth sylfaen
Ar brentisiaeth Sylfaen (a elwir weithiau'n brentisiaeth ganolradd) byddech fel arfer yn ennill cymhwyster lefel 2 sy'n berthnasol i'r swydd. Mae prentisiaeth Sylfaen lefel 2 yn gyfwerth â TGAU graddau A*-C.
Prentisiaeth
Mewn Prentisiaeth (a elwir weithiau'n brentisiaeth uwch) byddech fel arfer yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 3 sy'n berthnasol i'r swydd. Mae prentisiaeth lefel 3 yn gyfwerth â Safon Uwch.
Os ydych yn ystyried gwneud cais i brifysgol gyda’ch cymhwyster prentisiaeth, byddwch yn ymwybodol nad yw UCAS wedi dyfarnu pwyntiau tariff UCAS penodol i gymwysterau prentisiaeth lefel 3. Bydd angen i chi gysylltu â phrifysgolion unigol i weld a fyddant yn derbyn eich cymhwyster prentisiaeth ar gyfer y cwrs yr ydych yn gwneud cais iddo.
Yn y dyfodol, mae UCAS yn bwriadu dyfarnu pwyntiau tariff UCAS i gymwysterau prentisiaeth lefel 3. Gall ddyfarnu pwyntiau ar sail hyd y brentisiaeth lefel 3. Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Er enghraifft, bydd Prentisiaethau sy'n para tair blynedd yn cael mwy o bwyntiau na'r rhai sy'n para 2 flynedd. Ewch i Pwyntiau Tariff UCAS (dolen Saesneg) am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd hyn yn dechrau a sut maent yn dyfarnu pwyntiau.
Prentisiaeth uwch
Mae prentisiaethau lefel uwch fel arfer yn cynnig cymwysterau lefel uwch o lefel 4 ac uwch. Gall hyn gynnwys HNC, HND, a graddau sylfaen. Mae rhai prentisiaethau lefel uwch yn cynnig graddau baglor llawn ar lefel 6 a graddau meistr ar lefel 7.
Archwiliwch gyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau lefel uwch a gradd.
Prentisiaeth gradd
Mae prentisiaethau gradd yn cyfuno astudio'n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg ynghyd â chyflogaeth. Ar ddiwedd prentisiaeth gradd, byddwch fel arfer yn disgwyl ennill gradd baglor ar lefel 6. Efallai y byddwch hefyd yn gallu ennill gradd Meistr ar lefel 7 mewn rhai prentisiaethau.
Mae prentisiaethau gradd yng Nghymru yn gweithio'n wahanol i weddill y DU. I ddysgu mwy edrychwch ar y cyfleoedd yng Nghymru ar ein tudalen we prentisiaethau gradd.
Canllaw cyflym ar lefelau prentisiaethau
Edrychwch ar y tabl isod am ganllaw cyflym ar lefelau prentisiaeth.
Lefel prentisiaeth | Lefel addysg |
---|---|
Prentisiaeth sylfaen | Lefel 2 - 5 TGAU / NVQ lefel 2 |
Prentisiaeth | Lefel 3 - 2 Safon Uwch / NVQ lefel 3 |
Prentisiaeth uwch | Lefel 4/5 - HNC / HND / Gradd sylfaen (Gall hefyd fod yn lefel 6, gradd baglor) |
Prentisiaeth gradd | Lefel 6 - Gradd Baglor (Gall hefyd fod yn lefel 7, gradd Meistr) |
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.
Gwybod ble i chwilio am brentisiaethau, a sut i wneud y gorau o’ch cais.
Dod o hyd i brentisiaethau yng Nghymru