Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cyllid ar gyfer coleg neu 6ed dosbarth

Gwybodaeth am rai o’r opsiynau i gael mynediad at arian i’ch helpu yn y coleg a’r chweched dosbarth.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LAC)

Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd eisiau parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Os ydych yn gymwys gallech ennill £40 yr wythnos, a byddwch yn cael eich talu bob pythefnos. Darllenwch fwy am Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Grant sy'n cael ei asesu ar sail incwm yw hwn i annog mwy o bobl i barhau â'u haddysg. Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn.

Os ydych chi'n astudio'n llawn amser, gallech chi gael hyd at £1,919 y flwyddyn, neu hyd at £959 am astudio'n rhan-amser.

Darllenwch mwy am y Grant Dysgu a Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cronfa Wrth Gefn

Mae gan bob Coleg Addysg Bellach yng Nghymru Gronfa Wrth Gefn sy’n helpu myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol difrifol. Mae’n helpu i dalu costau sy’n gysylltiedig ag addysg, fel:

  • Mynediad i’r rhyngrwyd
  • Offer
  • Trafnidiaeth a chostau asesu ar gyfer diagnosis o anawsterau dysgu penodol

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Gwasanaethau Cymorth a Lles Myfyrwyr eich coleg.

Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a gofalwyr

Os yw plentyn yn parhau gydag addysg neu hyfforddiant ar ôl troi’n 16 oed, bydd eich Budd-dal Plant yn parhau. Darllenwch fwy am Budd-dal Plant ar hyn sydd angen i chi ei wneud pan fydd eich plentyn yn 16 oed ar Gov.uk.

Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig cyngor ariannol am ddim a diduedd. Edrychwch ar eu tudalen Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach am fwy o wybodaeth.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Cyllid ar gyfer prifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.